Gwneud cais am drwydded gwasanaeth cyfyngedig


Gwasanaethau cyfyngedig yw gwasanaethau radio sy’n rhychwantu ardaloedd bach sy’n cael eu defnyddio i ddarlledu mewn digwyddiadau, neu mewn sefydliad arbennig neu leoliadau eraill yn y DU. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn mae:

  • gwasanaethau radio dynodedig ar gyfer gwyliau crefyddol fel Ramadan;
  • gwasanaethau radio ar gyfer ysbytai a phrifysgolion;
  • traciau sain ffilmiau-yn-y-car; a
  • sylwebaeth ar gyfer digwyddiadau.

Os ydych chi’n dymuno darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar AM neu FM, isod fe welwch y ffurflen gais a gwybodaeth arall sydd ei hangen arnoch i wneud cais.

Os ydych chi’n dymuno darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar safle penodol ar amleddau eraill, gallwch wneud cais am drwydded gwasanaeth cyfyngedig systemau dosbarthu sain.

Gwneud cais am drwydded

Ffurflen gais gwasanaethau cyfyngedig (DOCX, 93.8 KB)

Nodiadau cyfarwyddyd gwasanaethau cyfyngedig (PDF, 515.1 KB)