Treial trwyddedu gwasanaeth radio FM ‘ardal fach’ cyfyngedig

18 Mehefin 2021

Mae Ofcom yn gwahodd ceisiadau am drwyddedau radio gwasanaeth FM 'ardal fach' cyfyngedig fel rhan o dreial newydd.

Bydd y treial yn profi a yw'r defnydd o sbectrwm FM ardal fach - ar bŵer isel a thros amrediad byr hyd at radiws o tuag 1 km - yn ffordd hyfyw o ddarparu mwy o sbectrwm ar gyfer trwyddedu gwasanaethau radio cyfyngedig yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl iddo fod yn arbennig o addas ar gyfer darparu gwasanaethau radio i sefydliadau diffiniedig fel ysbytai neu farics y fyddin.

Mae Ofcom am roi 10 o'r trwyddedau treial hyn, pob un am gyfnod o 12 mis.

Er mwyn cymryd rhan yn y treial, bydd angen i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf cymhwyster a darparu gwybodaeth am eu profiadau o fod yn rhan o'r treial i Ofcom, fel a amlinellir yn y ddogfen 'Gwahoddiad i ymgeisio' uchod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 30 Ebrill 2021. Gyrrwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i limitedcoveragetrial@ofcom.org.uk.

Diweddariad 21 Ebrill 2021 - pwy all ymgeisio am y treial

Yn sgil adborth gan ddarpar ymgeiswyr ar gyfer y treial, gallwn gadarnhau bod Ofcom yn croesawu ceisiadau gan gyrff corfforaethol heblaw cwmnïau, megis elusennau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar sut i gwblhau'r ffurflen gais, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad e-bost uchod.

Gwahoddiad i ymgeisio am drwydded treialu radio gwasanaeth FM 'ardal fach' cyfyngedig (PDF, 278.8 KB) (Saesneg yn unig)

Ffurflen gais: trwydded treialu radio gwasanaeth FM 'ardal fach' cyfyngedig (ODT, 83.4 KB) (Saesneg yn unig)

Trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddiwifr dreial ddrafft (PDF, 287.6 KB) (Saesneg yn unig)

Trwydded Deddf Darlledu dreial ddrafft (PDF, 362.0 KB) (Saesneg yn unig)