Gwasanaeth cenedlaethol AM Absolute Radio yn dirwyn i ben

01 Mehefin 2023

Diweddariad wedi'i gyhoeddi 1 Mehefin 2023

Mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £25,000 i Bauer Radio ar ôl iddo roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth Absolute Radio cenedlaethol ar AM cyn diwedd cyfnod ei drwydded.

Lansiwyd Absolute Radio (fel Virgin Radio) ym 1993. Adnewyddwyd y drwydded yn fwyaf diweddar am gyfnod o ddeng mlynedd o fis Mai 2021. Ar 26 Ionawr 2023 cadarnhaodd Bauer Radio ei fod wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth Absolute Radio ar AM. Mae wedi dweud wrthym y bydd Absolute Radio yn parhau i ddarlledu'n genedlaethol ar DAB.

O dan adran 111(4) Deddf Darlledu 1990, os yw Ofcom wedi'i bodloni bod deiliad trwydded i ddarparu gwasanaeth cenedlaethol wedi peidio â darparu'r gwasanaeth cyn diwedd cyfnod y drwydded a'i fod yn briodol i'w wneud, y mae'n rhaid iddi ddirymu'r drwydded. Gan hynny, dirymodd Ofcom y drwydded ar 13 Chwefror 2023.

O dan adran 101(3) Deddf Darlledu 1990, pan fydd Ofcom yn dirymu trwydded genedlaethol, mae'n rhaid iddi fynnu i ddeiliad y drwydded dalu cosb ariannol iddi. Yr uchafswm cosb all gael ei roi i Bauer o dan yr amgylchiadau hyn yw'r mwyaf o £250,000 a 7% o'i refeniw cymwys yn ei gyfnod cyfrifyddu llawn diwethaf o fewn telerau'r drwydded. Yn yr achos hwn, yr uchafswm cosb yw £250,000.

A ninnau wedi ystyried yr holl ddeunyddiau perthnasol yn yr achos hwn ynghyd â Chanllawiau Taliadau Cosb Ofcom, mae Ofcom wedi gosod tâl cosb o £25,000 ar Bauer Radio.

Gallwch ddarllen ein penderfyniad ar lefel y tâl cosb a'n hysbysiad dirymu trwydded yn llawn isod.

Penderfyniad ar dâl cosb (yn Saesneg) (PDF, 369.6 KB)

Hysbysiad diddymu trwydded a ddelir gan Bauer Radio Limited (PDF, 145.7 KB)