18 Rhagfyr 2020

4.7 miliwn o gartrefi yn y DU wedi cael trafferth fforddio eu biliau telathrebu eleni

  • Mae dros filiwn o aelwydydd wedi torri'n ôl ar yr hyn y maent yn ei wario ar eitemau fel bwyd neu ddillad i dalu am y ffôn, y rhyngrwyd neu deledu
  • Mae cwmnïau telathrebu wedi camu i fyny i helpu cwsmeriaid yn ystod pandemig y coronafeirws, ond gallant wneud mwy i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol
  • Mae rhai cwmnïau band eang yn cynnig pecynnau cost isel i bobl ar fudd-daliadau, ond mae'r nifer sy'n manteisio arnynt yn isel ac mae angen cymryd mwy o gamau i hyrwyddo'r gwasanaethau hyn

Mae ymchwil newydd Ofcom yn datgelu'r heriau a'r dewisiadau anodd y mae llawer o gwsmeriaid telathrebu yn eu hwynebu eleni, ac mae angen i’r diwydiant gymryd camau pellach i gefnogi cwsmeriaid mewn trafferthion ariannol.

Mae ein dibyniaeth ar wasanaethau ffôn a band eang wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyflymodd y duedd hon yn 2020 wrth i lawer ohonom barhau i dreulio mwy o amser gartref. Felly mae parhau i fuddsoddi mewn uwchraddio rhwydweithiau'r DU yn hanfodol.

Yn gyffredinol, mae cwsmeriaid band eang a symudol yn cael gwasanaethau gwell am lai o arian. Mae cyflymder cyfartalog y rhyngrwyd a'r defnydd o ddata wedi codi'n sylweddol, ac mae gwariant cyfartalog aelwydydd ar delegyfathrebu wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.[1]

Fodd bynnag, mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio'n sylweddol ar gyllidebau llawer o bobl. Felly ni fu erioed yn bwysicach sicrhau bod pobl sy'n cael trafferth talu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a bod opsiynau fforddiadwy ar gael iddynt.

Ym mis Mawrth, cytunodd prif gwmnïau band eang a symudol y DU ar gyfres o ymrwymiadau gyda Llywodraeth y DU ac Ofcom i gefnogi a gwarchod cwsmeriaid sy'n agored i niwed. Rydym yn parhau i gefnogi'r ymdrechion y mae cwmnïau'n eu gwneud i helpu i sicrhau bod pobl yn cadw mewn cysylltiad yn y cyfnod anodd sydd ohoni.

Mae Ofcom wedi cynnal ymchwil newydd i fforddadwyedd gwasanaethau telathrebu eleni. Yr ydym wedi canolbwyntio ar fand eang, gan fod ein hymchwil yn awgrymu mai mynediad i'r rhyngrwyd gartref yw'r gwasanaeth telathrebu pwysicaf i bobl.[2]

Ein canfyddiadau

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu â'r rhyngrwyd gartref drwy linell sefydlog sy'n mynd i mewn i'w heiddo. Ond i 7% o aelwydydd, eu hunig ddull o gael mynediad i'r rhyngrwyd yw drwy ffôn symudol neu ddyfais symudol arall, fel dongl neu USB.

Mae bron i un o bob pum aelwyd (19%) – tua 4.7 miliwn o gartrefi – yn ei chael hi'n anodd fforddio eu gwasanaethau telathrebu, yn ôl ein hymchwil. Mae chwech y cant yn ei chael hi'n anodd talu am eu band eang cartref sefydlog, tra bod 5% yn cael trafferth gyda'u bil symudol.[3]

Wrth ei chael hi'n anodd talu am wasanaeth, y camau mwyaf cyffredin a gymerir gan gwsmeriaid yw cwtogi ar becyn i'w wneud yn fwy fforddiadwy – rhywbeth y mae 11% o aelwydydd yn dweud eu bod wedi'i wneud. Mae camau eraill yn cynnwys lleihau gwariant ar eitemau eraill fel bwyd a dillad (5%), canslo gwasanaeth (4%), colli taliad (2%) neu newid y dull talu (2%).

Mae data gan ddarparwyr yn dangos bod cyfran y cwsmeriaid sydd mewn ôl-ddyledion yn gymharol sefydlog rhwng mis Ionawr a mis Medi (2% ar gyfer band eang a 3% ar gyfer ffonau symudol). Er i gyfran y cwsmeriaid a ddatgysylltwyd am beidio â thalu ostwng yn ystod y cyfnod clo cychwynnol, bu cynnydd rhwng mis Mehefin a mis Medi, i lefelau uwch na chyn y pandemig.[4]

Mae'r marchnadoedd band eang a symudol yn cynnig amrywiaeth eang o ddewis i gwsmeriaid, gyda bargeinion gwahanol ar gael i weddu i wahanol anghenion. Er enghraifft, mae band eang cyflym iawn ar gael am lai na £25 y mis, ond gall pobl hefyd ddewis talu mwy am wasanaeth cyflymach.

Ond gall pobl sy'n dioddef caledi ariannol gael trafferth gyda'u biliau. Mae rhai darparwyr band eang – fel BT, KCOM a Virgin Media – yn cynnig tariffau rhatach i helpu cwsmeriaid ar incwm isel, ond cymharol ychydig o gwsmeriaid sydd wedi manteisio ar un o'r opsiynau fforddiadwy a dargedir hyn.[5]

Gallai darparwyr wneud mwy

Rydym yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan ddarparwyr wrth ymateb i'r pandemig, ond mae mwy y gallant ei wneud i gefnogi eu cwsmeriaid.

Rydym am i gwmnïau nad ydynt eisoes yn cynnig tariff fforddiadwy a dargedir at gwsmeriaid ar incwm isel ystyried gwneud hynny. Dylai darparwyr sy'n cynnig pecynnau o'r fath wneud mwy i'w hyrwyddo, er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith cwsmeriaid sy'n debygol o fod yn gymwys.

Bu i ni alw ar ddarparwyr yn ddiweddar hefyd i ailedrych ar eu harferion dyled a datgysylltu, er mwyn sicrhau y cynigir digon o gymorth i gwsmeriaid a allai fod yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau.

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: "Mae'r cyfnodau clo wedi dangos yn glir ein bod yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. Felly mae'n bwysig bod opsiynau fforddiadwy ar gael fel y gall pawb gadw mewn cysylltiad – yn enwedig y rhai sy’n profi caledi.

"Ac er ein bod yn croesawu'r gefnogaeth y mae cwmnïau wedi'i darparu i gwsmeriaid eleni, mae rhai pobl yn parhau i wynebu heriau ac mae'n amlwg y gall darparwyr wneud mwy i gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol."

Y camau nesaf

O ystyried y materion a godir gan ein hymchwil, a'r rhagolygon economaidd heriol, byddwn yn cynnal ymchwil pellach – ac yn cyhoeddi adroddiad arall – ar fforddadwyedd a dyled y flwyddyn nesaf.

Os na fydd darparwyr yn mynd i'r afael â'n pryderon drwy eu lefelau presennol o gymorth i gwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, byddwn yn ystyried gweithredu pellach. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU i benderfynu a oes angen tariff cymdeithasol a reoleiddir ar draws y diwydiant.[6]

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Cynyddodd y defnydd misol o ddata band eang cartref ar gyfartaledd o 30GB yn 2013 i 429GB yn 2020; dros yr un cyfnod, cododd cyflymderau band eang cyfartalog cartrefi o 17.8 Mdid yr eiliad i 71.8 Mdid yr eiliad. Yn yr un modd, cynyddodd y defnydd cyfartalog o ddata symudol misol o 0.47GB yn 2013 i 3.56GB yn 2019. Fodd bynnag, mae gwariant cyfartalog aelwydydd ar fand eang wedi gostwng o £42.59 y mis yn 2007 i £37.25 yn 2019. Yn yr un modd, mae gwariant misol ar wasanaethau symudol wedi gostwng dros yr un cyfnod o £56.90 i £40.25.
  2. Cyfrannau aelwydydd sy'n disgrifio pob un o'u gwasanaethau cyfathrebu fel rhai 'pwysig iawn':
  3. Bu i ni gyfweld â sampl gynrychioliadol o'r DU o 5,567 o’r rhai 18+ oed mewn aelwydydd sy’n gwneud penderfyniadau rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2020, ac mae'r canfyddiadau i raddau helaeth yn adlewyrchu'r profiadau cyfartalog yn y mis cyn y cyfweliad.
  4. Cyfran cyfanswm y cwsmeriaid symudol a band eang sydd wedi cael eu datgysylltu am fethu â thalu:
  5. Pecynnau band eang fforddiadwy a dargedir gyda meini prawf cymhwystra o ran incwm:

    Cynnyrch

    Pris

    Cyflymder

    Data

    Cymhwystra

    BT Basic + Broadband

    £10.07 y mis

    10 Mdid yr eiliad

    Diderfyn

    Budd-daliadau prawf modd (dim enillion)

    Virgin Media Essential Broadband

    £15 y mis

    15 Mdid yr eiliad

    Diderfyn

    Credyd Cynhwysol

    KCOM Lightstream Flex

    £20 y mis

    30 Mdid yr eiliad

    Diderfyn

    Budd-daliadau prawf modd (dim enillion)

  6. O 21 Rhagfyr 2020, bydd deddfwriaeth Llywodraeth y DU i weithredu Cod Cyfathrebu Electronig Ewrop yn rhoi'r pŵer i Ofcom osod tariffau cymdeithasol ar bob darparwr lle bo angen i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, dim ond yn dilyn cyfarwyddyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i Ofcom y gellir arfer y pŵer hwnnw i adolygu fforddadwyedd gwasanaethau perthnasol, a chymeradwyaeth ddilynol gan argymhellion Ysgrifennydd Gwladol Ofcom.

Related content