24 Chwefror 2023

Rhwydweithiau band eang yn gadarn yn ystod y pandemig

  • Mae dadansoddiad Ofcom yn dangos bod cyflymder band eang yn y DU wedi gallu ymdopi â’r cynnydd enfawr yn y galw yn ystod y cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19.
  • Mae’r bwlch mewn cyflymder rhyngrwyd rhwng ardaloedd trefol a gwledig yn parhau i ddisgyn.
  • Mae data band eang newydd yn datgelu bod 3.5 miliwn o gartrefi bellach yn gallu cael ffeibr llawn cyflymach.

Mae Adroddiad Perfformiad Band Eang yn y Cartref Ofcom yn datgelu sut roedd cyflymderau band eang wedi newid cyn ac ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud – pan roedd mwy yn defnyddio band eang. Roedd cyflymderau llwytho i fyny ac i lawr wedi disgyn dim ond 2% a 1% yn y drefn honno. [1]

Mae’r galw ar y rhwydwaith band eang wedi cynyddu’n rhannol oherwydd bod pobl yn gweithio gartref, oherwydd bod ysgolion ar gau, ac mae pobl wedi bod yn defnyddio gwasanaethau ffrydio ac addysgol.  Mae rhai darparwyr wedi adrodd am gynnydd mewn traffig wythnosol dyddiol o rhwng 35% a 60% ers cyflwyno’r cyfyngiadau coronafeirws [2].

Wrth i blant ac oedolion chwilio am adloniant yn y tŷ, roedd cyflymder llwytho i lawr Netflix wedi disgyn 3% yn ystod y cyfyngiadau symud o gymharu â chyn cyflwyno'r mesurau – sy’n awgrymu bod pobl wedi brysio i wylio eu hoff raglenni yn ystod eu hamser sbâr. Ond roedd y galw am ddata oherwydd y cynnydd hwn mewn amser o flaen y sgrin wedi’i wrthbwyso gan Netflix yn cyfyngu ansawdd ffrydio ei gynnwys.

Roedd ymatebolrwydd (oedi) rhwydweithiau band eang - yr oedi rhwng cysylltiad yn gofyn am weithred a’r weithred honno’n digwydd - hefyd wedi aros yn sefydlog. Ni fyddai’r cynnydd o 2% mewn oedi a fesurwyd wedi cael prin dim effaith ar berfformiad ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod cyflymderau band eang mewn ardaloedd gwledig yn dal i fyny â’r rheini mewn trefi a dinasoedd. Mae cyfran y llinellau gwledig sy’n cael o leiaf band eang cyflym iawn (30 Mbit yr eiliad ac i fyny) yn ystod y cyfnod prysuraf yn parhau i gynyddu – o 44% yn 2018 i 56% yn 2019 – tra bod y gyfran nad ydynt yn derbyn cysylltiad teilwng (10 Mbit yr eiliad ac i fyny) yn ystod y cyfnodau prysuraf wed gostwng o 33% i 22%.

Ond mae cyflymderau band eang mewn ardaloedd gwledig yn dal y tu ôl i’r rheini mewn ardaloedd trefol. Roedd cyflymderau cyfnodau prysur mewn ardaloedd trefol wedi cyrraedd 75 Mbit yr eiliad, sydd bron ddwywaith yn gyflymach na chyfartaledd ardaloedd gwledig sef 38 neu 39 Mbit yr eiliad yn 2019.

Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Mae band eang yn y DU wir wedi cael ei roi ar brawf yn ystod y pandemig, felly mae hi’n galonogol bod y cyflymder wedi aros yn weddol sefydlog. Mae hyn wedi helpu pobl i ddal ati i weithio, i ddysgu ac i gadw cysylltiad â ffrindiau a theulu.”

Cyngor i’ch helpu i gadw’r cysylltiad

Mae ymgyrch Cadw’r Cysylltiad Ofcom yn cynnwys cyngor i helpu i sicrhau bod pobl yn cael y gorau o’u cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ystod y coronafeirws:

Saith awgrym i helpu cadwr cysylltiad yn ystod y coronafeirws

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at ein canllawiau ar gael y mwyaf o’ch gwasanaethau band eang a symudol gartref.

Datgelu darpariaeth band eang a symudol

Heddiw, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein diweddariad gwanwyn Cysylltu'r Gwledydd, sy’n crynhoi argaeledd band eang a darpariaeth symudol yn y DU ym mis Ionawr 2020, cyn yr achosion o Covid-19 yn y DU. Mae’n dangos y canlynol:

  • Mae 3.5 miliwn o gartrefi (12%) nawr yn gallu cael band eang ffeibr llawn, sydd wedi codi un rhan o bump ers mis Medi y llynedd.
  • Mae gwasanaethau band eang cyflym iawn eraill yn cael eu cyflwyno’n gyson. Mae band eang gwibgyswllt (cyflymder o 300Mbit yr eiliad a mwy), nawr ar gael i 55% o aelwydydd y DU, o’i gymharu â 53% yn ein diweddariad diwethaf -cynnydd o 700,000 o gartefi. Mae band eang cyflym iawn yn dal ar gael i 95% o aelwydydd y DU, ond mae’r cyfanswm o gartrefi sy’n gallu cael band eang cyflym iawn wedi cynyddu o 300,000.
  • Mae tua 2% o gartrefi a busnesau’n methu cael cysylltiad band eang sefydlog teilwng (sy’n cynnig cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad). Fodd bynnag, mae gan unrhyw un sy’n methu cael gwasanaeth teilwng hawl cyfreithiol yn awr i ofyn am gysylltiad o’r fath – diolch i’r rheolau newydd a ddaeth i rym ym mis Mawrth. Mae parhau i gyflwyno gwasanaethau band eang symudol hefyd yn helpu i gysylltu rhagor o bobl.
  • Mae Ofcom yn sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio yn helpu i gefnogi ardaloedd lleol wrth iddyn nhw gyflwyno rhwydweithiau ffeibr cyflymach - gan gynnwys diogelwch prisiau i gwsmeriaid. Mae hyn yn rhan o’n gwaith igefnogi cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr cyflymach a mwy dibynadwy.
  • Nid yw darpariaeth symudol wedi newid llawer ers ein hadroddiad ym mis Rhagfyr. Ond ers hynny mae Llywodraeth y DU a’r pedwar darparwr rhwydwaith symudol wedi cytuno i ddatblygu rhwydwaith gwledig a rennir, er mwyn helpu i wella'r ddarpariaeth ar draws y DU. Mae pob cwmni wedi ymrwymo i ddarparu darpariaeth 4G o ansawdd da i o leiaf 90% o’r DU dros y chwe blynedd nesaf.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Roedd Ofcom wedi comisiynu'r partner technegol SamKnows i sefydlu panel o bobl a oedd yn cysylltu uned monitro caledwedd i’w llwybrydd band eang. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu mesur y perfformiad a oedd yn cael ei gyflawni gan wasanaethau gwahanol ac asesu sut roeddent yn amrywio rhwng ffactorau, gan gynnwys technoleg, darparwr, pecyn, lleoliad pobl a phryd maen nhw’n defnyddio eu gwasanaeth. Daw’r data sy’n cymharu perfformiad cyn ac ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud o wythnosau cyntaf ac olaf mis Mawrth.
  2. Dywedodd BT fod cynnydd o 35—60% yn y traffig yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener wrth i bobl ddechrau gweithio gartref, yn dilyn cyngor Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, roedd hwn ymhell o dan y cyfartaledd ar gyfer lefelau traffig yn ystod y cyfnodau prysuraf a welwyd cyn sefyllfa’r coronafeirws.
  3. Mae ein hadroddiad yn edrych ar wyth darparwr band eang mwyaf y DU. Mae ein data sy’n edrych ar y cyfnod cyfyngiadau symud yn dod o wythnos olaf mis Mawrth eleni, a daw'r data cyn y cyfnod cyfyngiadau symud o wythnos gyntaf mis Mawrth, ac mae gweddill yr adroddiad yn edrych ar ddefnyddio band eang ym mis Tachwedd 2019.
  4. Mae ein hymchwil hefyd yn edrych ar berfformiad llwybryddion wifi. Mae ein hadroddiad yn datgelu bod y llwybryddion mwy newydd yn gwneud yn well na’r rhai hŷn ni waeth beth yw’r model - sy’n golygu y gallai pobl wella eu signal drwy uwchraddio i’r model diweddaraf.
  5. Cafodd arafwch ei fesur drwy edrych ar amser ymateb gweinyddion apiau cyfryngau cymdeithasol sy’n cael ei defnyddio’n aml, sef; Facebook, Facebook Messenger, Twitter a WhatsApp.
  6. Rydym yn ystyried bod gan eiddo “ddarpariaeth ffeibr llawn” dim ond os oes ffeibr yn agos at yr eiddo, felly mae angen cysylltiad ffeibr pwrpasol i'r eiddo i ddarparu cysylltedd ffeibr llawn; ac mai dim ond tâl cysylltu cyhoeddedig y cytunwyd arno ymlaen llaw y byddai disgwyl i’r defnyddiwr ei dalu, pe bai tâl o'r fath yn cael ei godi
  7. Mae band eang gwibgyswllt yn golygu band eang sy’n cyrraedd cyflymder o 300Mbit yr eiliad o leiaf, mae band eang cyflym iawn yn golygu band eang sy’n cyrraedd cyflymder o 30Mbit yr eiliad o leiaf.
  8. Rydym yn adrodd ar eiddo preswyl (cartrefi) o ran darpariaeth ffeibr llawn, gwibgyswllt a chyflym iawn, ond ein bod yn adrodd ar eiddo masnachol o ran ‘band eang teilwng’.