9 Ebrill 2020

Hanner oedolion y DU yn gweld honiadau ffug am y coronafeirws

Mae Ofcom wedi canfod bod bron i hanner y bobl sydd ar-lein yn y DU wedi dod ar draws gwybodaeth ffug neu gamarweiniol am y coronafeirws (Covid-19) yn ystod yr wythnos diwethaf.

Mae Ofcom yn cynnal ymchwil bob wythnos i helpu i ddeall sut mae pobl yn derbyn ac yn defnyddio’r wybodaeth yn ystod y pandemig presennol.[1]

Mae ein canlyniadau cyntaf o wythnos 1 ‘dan gyfyngiadau symud’ yn dangos mai’r darn mwyaf cyffredin o wybodaeth ffug am y coronafeirws yw’r honiad y gall yfed mwy o ddŵr ei olchi o’r corff (wedi’i weld gan 35% o’r oedolion sydd ar-lein). Mae hynny’n cael ei ddilyn gan honiadau y gellir ei leddfu drwy garglo dŵr hallt, neu drwy osgoi bwyd a diodydd oer – mae bron i chwarter (24%) o’r oedolion sydd ar-lein wedi gweld y ddau ddarn yma o gamwybodaeth. [2]

Ymhlith y bobl sydd wedi gweld gwybodaeth ffug am y feirws, mae dwy ran o dair (66%) yn gweld hyn bob dydd. Mae ymchwil Ofcom hefyd yn dangos y canlynol:

  • Mae’r rhan fwyaf o bobl(55%) yn anwybyddu honiadau ffug am y coronafeirws. Mae pymtheg y cant yn defnyddio awgrymiadau gwirio ffeithiau gan y cyfryngau, megis gwefan y BBC, ac mae cyfran debyg (15%) yn gwirio eu ffeithiau gyda ffrindiau a theulu. Mae un person o bob pedwar ar ddeg yn trosglwyddo gwybodaeth ffug neu gamarweiniol am y feirws ymlaen.
  • Mae llawer o bobl (40%) yn cael trafferth gwybod beth sy’n wir neu’n gelwydd am y feirws. Mae hyn yn cynyddu i fwy na hanner (52%) y bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed.
  • Mae pobl ifanc yn glynu’n llai tynn at y cyngor swyddogol. Dywedodd bron pawb a gymerodd rhan yn yr arolwg eu bod yn glynu’n dynn at y cyngor swyddogol o gadw pellter cymdeithasol (98%); mynd allan am resymau hanfodol yn unig (97%); a golchi eu dwylo’n rheolaidd (96%). Fodd bynnag, dim ond 65% o bobl ddywedodd eu bod yn glynu’n dynn at y cyngor golchi dwylo, ac mae hyn yn gostwng i 43% ymhlith pobl rhwng 18 a 24 oed.

Rhai o'r honiadau mwya cyffredin sy'n anghywir ynghylch y coronafierws-35% o bobl wedi gweld honiad bod yfed mwy o ddwr yn gallu helpu a 24% bod garglo dwr hallt o gymorth a gellir ei drin drwy osgoi bwyd oer a 24.

Cael newyddion am y pandemig

Mae bron i bob oedolyn sydd ar-lein (99%) yn cael newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd, ac mae un o bob pedwar (24%) yn gwneud hynny dros 20 gwaith y diwrnod. Ar y llaw arall, dywedodd mwy nag un o bob pump o bobl (22%) eu bod yn ceisio osgoi newyddion am y pandemig.

Mae pobl yn fwyaf tebygol o droi at wasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC i gael y newyddion diweddaraf am y pandemig (82%), yna darlledwyr eraill (56%); ffynonellau swyddogol megis Sefydliad Iechyd y Byd, y GIG a’r Llywodraeth (52%); y cyfryngau cymdeithasol (49%); papurau newydd (43%); a ffrindiau a theulu (42%). Dim ond 15% oedd yn defnyddio grwpiau negeseuon caeedig, fel WhatsApp a Facebook Messenger, i gael gwybodaeth.

Mae pobl yn dibynnu’n fawr ar deledu darlledu i gael y newyddion diweddaraf am y coronafeirws. Roedd niferoedd gwylio rhaglenni newyddion dyddiol ar draws yr holl sianeli wedi cynyddu 92% ym mis Mawrth 2020 o’i gymharu â Mawrth 2019. Mae BBC News a Sky News wedi gweld eu niferoedd gwylio yn fwy na dyblu o un flwyddyn i’r llall. Datganiad Prif Weinidog y DU ar 23 Mawrth yw’r rhaglen sydd wedi cael y nifer mwyaf o wylwyr yn 2020 hyd yma; ar draws y chwe sianel y cafodd ei ddarlledu arnynt, ar gyfartaledd roedd 28 miliwn o bobl yn ei wylio.[3]

Where people in the UK get news and information about the coronavirus

Ffynonellau dibynadwy

Swyddogion cyhoeddus yw’r ffynonellau mwyaf dibynadwy i gael newyddion am y coronafeirws. O’r bobl sy’n eu defnyddio, mae o leiaf 9 person o bob deg yn ymddiried yn yr wybodaeth sy’n cael ei darparu gan y GIG (95%), Sefydliad Iechyd y Byd (94%), eu gwasanaethau iechyd lleol (91%), gwyddonwyr swyddogol (90%), a Llywodraeth y DU (89%).

Mae pobl yn ymddiried mewn darlledwyr traddodiadol yn fawr hefyd: mae 83% o bobl yn ymddiried yng nghynnwys teledu’r BBC a Channel 4, ac yn dilyn hynny mae ITV (82%) a Sky (75%). Y cyfryngau cymdeithasol a grwpiau negeseuon caeedig oedd y ffynonellau newyddion yr oedd pobl yn ymddiried lleiaf ynddynt i gael gwybodaeth am y pandemig (21% a 26% yn y drefn honno).

Datrys y dryswch am Covid-19

Mae mynediad at ffynonellau newyddion a gwybodaeth cywir, credadwy a dibynadwy yn bwysicach nag erioed. Felly, gyda chymorth Panel a Rhwydwaith Ofcom, sef Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau, rydyn ni wedi casglu cyfres o ffynonellau i roi adnoddau defnyddiol i bobl er mwyn iddynt allu dod o hyd i newyddion a gwybodaeth am Covid-19.

Mae llawer o’r rhain yn canolbwyntio ar chwalu’r camsyniadau cyffredin neu’r honiadau niweidiol am y coronafeirws. Hefyd, mae awgrymiadau defnyddiol am sut i ddod o hyd i gynnwys dibynadwy; sut i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen; a sut i ganfod pwy sy’n gwneud yr honiadau.

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys adran i deuluoedd, i helpu rhieni gyda dealltwriaeth feirniadol eu plant yn ystod y cyfnod yma.

Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Mae pobl yn dibynnu ar awdurdodau cyhoeddus a darlledwyr traddodiadol i gael gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19, ac mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn dweud eu bod yn glynu’n dynn at gyngor swyddogol.

“Gan fod llawer o wybodaeth ffug ar gael ar-lein, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn gallu cael gwared â’r dryswch a dod o hyd i ffynonellau newyddion a chyngor cywir, dibynadwy a chredadwy.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Daeth pedwar deg chwech y cant o oedolion sydd ar-lein yn y DU ar draws wybodaeth ffug neu gamarweiniol am y coronafeirws (Covid-19) yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae’r cyfanswm yma’n cynyddu i 58% ymhlith pobl rhwng 18 a 24 oed.

    Bob wythnos, mae Ofcom yn arolygu 2,000 o oedolion sydd ar-lein yn y DU. Mae’r panel yn gytbwys er mwyn gwneud yn siŵr bod y canfyddiadau’n cynrychioli safbwyntiau ac arferion poblogaeth ar-lein y DU; fodd bynnag nid ydynt yn cynrychioli’r 13% sydd ddim ar-lein. Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg cyntaf yma rhwng 27 a 29 Mawrth 2020 a holwyd pobl am eu harferion a’u safbwyntiau am y saith niwrnod blaenorol. Roedd y cyfnod yma’n cyd-fynd a’r mesurau ‘aros gartref’ a gyflwynodd y Prif Weinidog ddydd Llun 23 Mawrth. Felly, mae wythnos 1 ein harolwg yn cyd-fynd ag wythnos 1 o fyw dan gyfyngiadau symud yn y DU.

  2. Ers cynnal yr ymchwil wythnos 1 cychwynnol yma, mae honiadau ffug ac anghywir yn cysylltu achos Covid-19 â thechnoleg 5G wedi cael eu rhannu’n helaeth ar-lein. Byddwn yn casglu sut mae’r honiadau ffug hyn yn cael eu datgelu i bobl mewn ymchwil dilynol yn y dyfodol. Canfu ymchwil diweddar gan Ofcom fod Uckfield FM wedi chwarae safbwyntiau am achosion a tharddiad Covid-19 a allai achosi niwed, ac ni chafodd y safbwyntiau hyn eu herio’n ddigonol. Roedd gan y datganiadau hyn y potensial i danseilio ymddiriedaeth pobl mewn cyngor gan ffynonellau gwybodaeth prif ffrwd. Oherwydd y methiannau difrifol hyn, daethom i’r casgliad bod Uckfield FM wedi methu â darparu digon o ddiogelwch i’w gwrandawyr rhag y deunydd yn y rhaglen yma, a allai fod wedi achosi niwed.
  3. Dadansoddiad Ofcom o ddata BARB.