1 Gorffennaf 2020

Rheoleiddwyr y DU yn cydweithio i sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn gweithio’n dda i ddefnyddwyr a busnesau

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, (ICO) ac Ofcom wedi sefydlu fforwm newydd i helpu i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar-lein yn gweithio’n dda i ddefnyddwyr a busnesau yn y DU.

Bydd y Fforwm Cydweithredu ar gyfer Rheoleiddio Digidol yn cryfhau’r cydweithrediad a’r cydlyniad presennol rhwng y tri rheoleiddiwr. Ei fwriad yw gallu defnyddio eu harbenigedd ar y cyd pan fydd data, preifatrwydd, cystadleuaeth, cyfathrebu a chynnwys yn gorgyffwrdd.

Gyda heriau unigryw marchnadoedd a gwasanaethau digidol, a thirwedd sy’n esblygu’n sydyn wrth i drefniadau pontio’r UE ddod i ben, mae cydweithrediad rheoleiddiol yn bwysicach nag erioed.

Heddiw, mae’r rheoleiddwyr wedi amlinellu sut byddant yn cydweithio i gefnogi rheoleiddio effeithiol ac effeithlon ar draws y dirwedd ddigidol, gan edrych ar yr heriau polisïau sy’n codi ac annog arloesedd.

Gan ddwyn ynghyd eu gwybodaeth gyffredin, bydd y Fforwm yn helpu i gydlynu camau gweithredu ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu dulliau rheoleiddio gwybodus ac ymatebol.

Dywedodd Will Hayter, Uwch Gyfarwyddwr Polisi a Rhyngwladol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd: “Os ydyn ni’n mynd i sicrhau bod y marchnadoedd digidol yn gweithio’n dda i bobl a busnesau nawr ac yn y dyfodol, mae’n bwysig bod rheoleiddwyr yn cydweithio i rannu profiad a gwybodaeth -dyna pam rydyn ni wedi creu y fforwm hwn.”

Dywedodd Simon McDougall, Cyfarwyddwr Gweithredol Technoleg ac Arloesedd yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: “Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth berthynas gref gyda’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ac Ofcom yn barod, ac rwyf yn falch bod y Fforwm yn ffurfioli ein hymdrechion cydweithredol presennol.

“Rydym mewn cyfnod o arloesedd ac uchelgais digidol, felly mae’n allweddol bod rheoleiddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i ganfod balans rhwng cydymffurfiad ac annog newid yn y byd ar-lein. Bydd y Fforwm yn ein helpu i fynd ar drywydd prosiectau ac ymchwil ar y cyd, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu gwybodaeth ac arferion gorau.”

Dywedodd Kate Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Ofcom: “Mae’n hanfodol bod rheoleiddwyr yn cydweithio’n agos os ydym am ddiogelu buddiannau pobl a busnesau mewn perthynas â gwasanaethau ar-lein.

“Mae’r Fforwm yn bwysig er mwyn helpu rheoleiddwyr i rannu a datblygu ein dealltwriaeth o’r dirwedd ddigidol sy’n newid yn gyflym.”

Yn ogystal ag aelodau craidd y Fforwm Cydweithredu ar gyfer Rheoleiddio Digidol, bydd cydweithio gyda rheoleiddwyr eraill yn debygol o fod yn briodol mewn rhai amgylchiadau. Bydd y Fforwm hefyd yn ymgysylltu’n rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ac yn gwahodd Cyfarwyddwr Cyffredinol perthnasol Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyfarfodydd yn achlysurol.

NODIADAU I OLYGYDDION

Datblygiadau diweddar o ran y tri rheoleiddiwr a marchnadoedd ar-lein:

  • Cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ei adroddiad terfynol yn ei astudiaeth farchnad am lwyfannau ar-lein a hysbysebion digidol (1 Gorffennaf 2020)
  • Cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gais am wybodaeth yn gysylltiedig â Gweithlu'r Marchnadoedd Digidol (1 Gorffennaf 2020). Cefnogwyd y gwaith hwn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu penodi Ofcom yn rheoleiddiwr ar gyfer niwed ar-lein yn y DU. Gwnaethant hefyd benodi Ofcom yn rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos a sefydlwyd yn y DU (Chwefror 2020).
  • Cafodd Cod Dylunio Priodol i Oed Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Cod y Plant, ei gyflwyno i’r Senedd (Mehefin 2020).