1 Gorffennaf 2020

Y Post Brenhinol yn cael dirwy o £1.5m am fethu targed danfon 2018/19

  • Cafodd 91.5% o bost dosbarth cyntaf ei ddanfon ar y diwrnod gwaith nesaf yn 2018/19, yn erbyn targed o 93%
  • Roedd y Post Brenhinol hefyd wedi cael dirwy o £100k am godi gormod ar gwsmeriaid am stampiau ail ddosbarth y llynedd

Heddiw mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1.5m i’r Post Brenhinol am fethu â chyflawni ei darged danfon dosbarth cyntaf rheoleiddiol yn 2018/19.

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i’r Post Brenhinol ddanfon o leiaf 93% o bost dosbarth cyntaf – ledled y DU – o fewn un diwrnod gwaith o’i gasglu. Yn 2018/19, cafodd 91.5% o bost dosbarth cyntaf ei ddanfon ar amser.[1]

Gall Ofcom ystyried tystiolaeth a gyflwynir gan y Post Brenhinol ynglŷn ag unrhyw amgylchiadau eithriadol, y tu hwnt i reolaeth y cwmni, a allai fod wedi esbonio pam ei fod wedi methu’r targed gan swm mor sylweddol. Ond ni ddarparodd esboniad boddhaol ac ni chymerodd gamau digonol i fynd yn ôl ar y trywydd iawn yn ystod y flwyddyn.

Felly, rydym wedi penderfynu rhoi dirwy o £1,500,000 i’r Post Brenhinol am fethu â chyflawni ei darged danfon dosbarth cyntaf.

Gwellhaodd perfformiad y Post Brenhinol yn 2019/20, ac ar ôl ystyried effaith Covid-19, llwyddodd y cwmni i gyflawni ei rwymedigaethau rheoleiddiol.

Dirwy ychwanegol o £100,000

Mae Ofcom hefyd wedi rhoi dirwy o £100,000 i’r Post Brenhinol am godi gormod ar gwsmeriaid am stampiau ail ddosbarth rhwng 25 Mawrth a 31 Mawrth y llynedd.

Rydym wedi gosod cap prisiau ar stampiau ail ddosbarth i wneud yn siŵr bod gwasanaeth post fforddiadwy ar gael i bawb, gan gadw’r gwasanaeth cyffredinol yn gynaliadwy o safbwynt ariannol.

Ar gyfer 1 Ebrill 2018 hyd 31 Mawrth 2019 roedd y cap wedi’i osod ar 60c. Cododd y Post Brenhinol ei bris am stampiau ail ddosbarth i 61c ar 25 Mawrth 2019, a oedd yn golygu ei fod wedi codi gormod ar gwsmeriaid am saith diwrnod tan i’r cap gynyddu ar 1 Ebrill 2019.

Amcangyfrifodd y cwmni ei fod wedi codi cyfanswm o tua £60,000 yn ormod ar bobl, ac nid oes modd ad-dalu’r arian hwnnw.

O ystyried y niwed a achoswyd a’r methiant yn ei brosesau i gadw at y cap prisiau, rydym wedi penderfynu rhoi dirwy o £100,000 i’r Post Brenhinol. Ers hynny, mae wedi gwneud newidiadau i’w brosesau cydymffurfiaeth a dywed y bydd y rheiny’n atal y gwall hwn rhag digwydd eto.

Mae’r Post Brenhinol wedi cydweithredu â’n hymchwiliadau ac nid oedd wedi dadlau yn erbyn ein canfyddiadau. Bydd y dirwyon yn cael eu trosglwyddo i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Dywedodd Gaucho Rasmussen, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau a Gorfodi Ofcom: “Mae llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaethau post, ac mae ein rheolau ni’n bodoli i sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth da, am bris fforddiadwy. Mae’r Post Brenhinol wedi siomi ei gwsmeriaid, ac fe ddylai’r dirwyon hyn ein hatgoffa y byddwn yn cymryd camau pan fydd cwmnïau’n methu â chyrraedd y nod.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Post Brenhinol, gwnaethom benderfynu addasu ei berfformiad i ystyried effaith rhaglen buddsoddi yn y ffyrdd Highways England ar berfformiad danfon y cwmni. Er gwaethaf yr addasiad hwnnw, roedd y Post Brenhinol dal wedi methu â chyflawni ei darged danfon dosbarth gan 1.1%.