24 Tachwedd 2020

Ofcom yn penodi chwe aelod newydd i'r Bwrdd Cynnwys

Mae Ofcom wedi penodi chwe aelod newydd i'w Fwrdd Cynnwys.

Mae Bwrdd Cynnwys Ofcom yn un o bwyllgorau prif Fwrdd Ofcom. Mae ganddo gyfrifoldeb ymgynghorol dros ystod eang o faterion cynnwys, gan gynnwys rheoleiddio ansawdd a safonau teledu, radio a fideo-ar-alw.

Mae'r Bwrdd Cynnwys yn darparu profiad golygyddol a chynnwys uwch i Ofcom. Mae ei aelodaeth yn galw ar amrywiaeth eang o arbenigedd a phrofiad ar draws y sectorau darlledu, cynhyrchu, cyfryngau a thechnoleg.

Mae'r chwe aelod newydd wedi cael eu penodi am gyfnod o dair blynedd o 1 Tachwedd 2020 i 31 Hydref 2023.

Dekan Apajee

Mae Dekan Apajee yn Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Cwrs ar y Cyd ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain lle mae'n arbenigo mewn newyddiaduriaeth chwaraeon, cyfryngau darlledu a digidol.

Ymunodd Dekan â'r BBC fel ymchwilydd yn 2002 cyn symud ymlaen at newyddiaduriaeth ddarlledu a chynhyrchu, gan weithio i nifer o adrannau gan gynnwys BBC London, BBC News Channel a BBC Comedy. Fe gynhyrchodd gynnwys unigryw a ganolbwyntiodd ar gymunedau wrth baratoi at Gemau 2012 Llundain, cyn gadael y gorfforaeth a chychwyn ei gwmni hyfforddi a chynhyrchu ei hun, Allsortz Open Mic.

Bu Dekan yn aelod o fwrdd Youth Media Agency rhwng 2012 a 2015 ac o bwyllgor rhaglennu Rich Mix Cultural Foundation rhwng 2012 a 2016.

Rachel Coldicutt

Mae Rachel Coldicutt yn arbenigwr ar effaith gymdeithasol technolegau newydd a datblygol, ac yn gyfarwyddwr y cwmni ymgynghori ymchwil, Careful Industries.

Rachel oedd Prif Weithredwr y felin drafod technoleg gyfrifol, Doteveryone, gan arwain ar ymchwil ddylanwadol a datblygu offer ymarferol er arloesedd cyfrifol. Cyn hynny, treuliodd Rachel bron 20 mlynedd yn gweithio yn rheng flaen technoleg newydd dros gwmnïau gan gynnwys y BBC, Microsoft, BT, a Channel 4, a bu'n arloeswr yn y byd celfyddydau digidol.

Mae Rachel yn llais dylanwadol ym maes technoleg y DU, ac yn ymgynghorydd, aelod bwrdd ac ymddiriedolwr dros nifer o gwmnïau ac elusennau. Yn 2019, dyfarnwyd OBE i Rachel am wasanaeth i'r gymdeithas ddigidol.

Anna-Sophie Harling

Anna-Sophie Harling yw Rheolwr Gyfarwyddwr Ewrop NewsGuard, gwasanaeth ar-lein sy'n graddio ac yn pennu statws gwefannau newyddion o ran dibynadwyedd a thryloywder. Yn flaenorol, gweithiodd Harling fel Rheolwr Datblygu Busnes dros Lexoo, cwmni technoleg newydd yn Llundain, ac yn Cleary Gottlieb Steen & Hamilton, cwmni cyfreithiol rhyngwladol. Yn flaenorol bu'n gweithio i ddau bapur newydd yn Yr Almaen, Der Tagesspiegel a Märkische Allgemeine.

Graddiodd Anna-Sophie o Brifysgol Yale, lle bu'n Ysgolor Newyddiaduriaeth Yale.

Peter Horrocks

Mae Peter Horrocks yn arweinydd profiadol ym meysydd y cyfryngau, addysg uwch a datblygu economaidd. Yn ystod ei amser yn y BBC, bu'n Olygydd Panorama, Newsnight ac Etholiadau. Roedd ei rolau arweinyddiaeth yn cynnwys Pennaeth Materion Cyfoes, Pennaeth Newyddion Teledu a Phennaeth yr Ystafell Newyddion Amlgyfrwng. Bu'n Gyfarwyddwr BBC World Service rhwng 2009 a 2014.

Roedd Peter yn aelod o Fwrdd Masnachol y BBC a Grŵp Cyfeiriad y BBC. Fe enillodd gwobrau BAFTA fel golygydd Newsnight ac fel cynhyrchydd gweithredol y cyfres o raglenni dogfen The Power of Nightmares.

Roedd Peter yn Is-ganghellor y Brifysgol Agored rhwng 2015 a 2018. Mae'n Gadeirydd Partneriaeth Menter Leol De-ddwyrain Canolbarth Lloegr.

Yn 2015 fe dderbyniodd CBE am Wasanaethau i Ddarlledu.

Tobin Ireland

Mae gan Tobin Ireland 25 mlynedd o brofiad o weithio fel uwch arweinydd yn y diwydiant cyfryngau digidol. Fe ddechreuodd ar ei yrfa gyda McKinsey & Company a bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Masnachol BSkyB, Prif Swyddog Marchnata AOL Europe, a Chyfarwyddwr Byd-eang Strategaeth a Datblygu Busnes gyda Vodafone.

Yn ystod ei amser yn Vodafone, arweiniodd Tobin y mentrau GSMA byd-eang ar hysbysebu symudol a phreifatrwydd defnyddwyr.  Mae'n Ymgynghorydd Diwydiant Arbenigol i Sefydliad Iechyd y Byd a'r Gymdeithas Marchnata Symudol - y mae'r ddau ohonynt yn canolbwyntio ar ddyfodol yr ecosystem data symudol.

Kim Shillinglaw

Mae gan Kim Shillinglaw 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfryngau. Bu'n Gyfarwyddwr rhaglenni ffeithiol yn y cwmni cynhyrchu EndemolShine, Rheolwr Cyffredinol BBC2 a BBC4, ac yn Bennaeth Comisiynu Gwyddoniaeth a Hanes Naturiol, ymysg rolau eraill. Mae hi'n Gyfarwyddwr Anweithredol Natural England, ac yn Ymddiriedolwr y Sefydliad Raspberry Pi; ac yn flaenorol, y felin drafod arloesedd, NESTA.

Arweiniodd Kim Blwyddyn Wyddoniaeth fawr ei bri y BBC, a hi wnaeth gychwyn ymgyrch allgymorth fwyaf y gorfforaeth, Make It Digital. Yn flaenorol, gweithiodd Kim mewn Comisiynau Plant, gan greu'r rhaglenni Horrible Histories sydd wedi ennill gwobrau llu. Fe gadeiriodd Tasglu Incwm Masnachol y BBC, Bwrdd Genre Ffeithiol y BBC a Bwrdd Economi Greadigol NESTA.

Mae hi wedi rhoi cyngor i sefydliadau gan amrywio o'r Amgueddfa Wyddoniaeth i Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Diwydiannau Creadigol AHRC. Mae hi wedi bod yn aelod o baneli'r llywodraeth dros DCMS a BEIS, ac o bwyllgorau, gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol a Gŵyl Teledu Caeredin.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn mynnu bod Ofcom yn sefydlu ac yn cynnal Bwrdd Cynnwys. Mae gan y Bwrdd Cynnwys ddylanwad sylweddol ar benderfyniadau sy'n gysylltiedig â materion cynnwys ac sy'n ymwneud ag ystyried buddion rhannau gwahanol y DU.
  • Daw aelodau'r Bwrdd Cynnwys o gefndiroedd amrywiol o bob cwr o'r DU. Penodir pedwar aelod i gynrychioli buddion a barn pobl sy'n byw yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Rhanbarthau Lloegr.

Related content