24 Chwefror 2023

Defnydd o'r rhyngrwyd yn y DU yn uwch nag erioed

  • Oedolion yn treulio 4 awr y dydd ar-lein ar gyfartaledd wrth i'r coronafeirws newid ein ffordd o gyfathrebu
  • Dwywaith cymaint yn defnyddio galwadau fideo i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfyngiadau symud
  • Un o bob tri yn treulio mwy o amser yn gwylio fideos ar-lein na theledu traddodiadol erbyn hyn, a dau o bob pump yn gwneud eu fideos eu hunain
  • Ond mae gan naw o bob deg oedolyn ar-lein bryderon ynglŷn â safleoedd ac apiau rhannu fideos

Erbyn hyn, mae oedolion yn y DU yn treulio dros chwarter o'u horiau effro ar-lein – y lefelau uchaf erioed – gyda gwasanaethau fel TikTok a Zoom yn tyfu'n eithriadol, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom i fywydau ar-lein y wlad.

A graph showing daily time spent online by UK adults.

Mae adroddiad blynyddol Ofcom, Ein Gwlad Ar-lein[1], yn datgelu bod oedolion yn y DU, ym mis Ebrill 2020 pan oedd y cyfyngiadau symud ar eu heithaf, wedi treulio cyfartaledd dyddiol o bedair awr a dau funud ar-lein – i fyny o ychydig yn llai na thair awr a hanner ym mis Medi y llynedd.[2]

Nawr bod pobl yn chwilio am ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad, o gael gwybodaeth ac adloniant, ac o gadw'n heini yn ystod y pandemig, mae gwasanaethau rhannu fideos a galwadau fideos yn dod yn fwy a mwy poblogaidd.

Mae TikTok yn gadael i ddefnyddwyr greu a rhannu fideos dawnsio, cydwefuso, comedi a thalent byr. Roedd 12.9 miliwn o oedolion wedi ymweld â'r llwyfan ym mis Ebrill, i fyny o 5.4 miliwn ym mis Ionawr. Roedd nifer yr ymwelwyr â Twitch, y llwyfan ffrydio byw poblogaidd i chwaraewyr gemau, wedi codi i 4.2 miliwn, o 2.3 miliwn.

Mae cyfran yr oedolion ar-lein yn y DU sy'n gwneud galwadau fideo wedi dyblu yn ystod y cyfyngiadau symud hefyd. Mae mwy na saith o bob deg yn gwneud galwad fideo unwaith yr wythnos o leiaf. Roedd Houseparty, yr ap sy'n cyfuno galwadau fideo mewn grŵp â gemau a chwisiau, wedi tyfu i 4 miliwn o ymwelwyr sy'n oedolion ym mis Ebrill, o 175,000 ym mis Ionawr. Ond Zoom sydd wedi gweld y twf mwyaf. Dros yr un cyfnod, roedd y llwyfan cyfarfodydd ar-lein wedi tyfu o gyrraedd 659,000 o oedolion yn y DU, i gyrraedd 13 miliwn – cynnydd o bron i 2,000%.

Gwlad o grewyr cynnwys

A graph showing how many adults and children use video sharing platforms.

Mae safleoedd ac apiau fel YouTube, Snapchat, Instagram a TikTok, sy'n gadael i bobl greu, rhannu a llwytho fideos i fyny ar-lein, yn fwy poblogaidd nag erioed.

Yn ôl ein hadroddiad, mae naw o bob deg oedolyn ar-lein a bron i'r holl blant hŷn rhwng 8 a 15 oed wedi defnyddio o leiaf un o'r gwefannau ac apiau hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod llawer yn gwylio fideos sawl gwaith bob diwrnod. Mae traean (32%) o'r oedolion ar-lein bellach yn treulio mwy o amser yn gwylio gwasanaethau rhannu fideos nag ydynt yn gwylio teledu sy'n cael ei ddarlledu.[3]

Nid yn unig ydyn ni'n gwylio, rydyn ni'n creu ac yn darlledu ein cynnwys ein hunain hefyd. Mae dau o bob pum oedolyn (40%) a 59% o blant hŷn sy'n defnyddio safleoedd ac apiau rhannu fideos bellach yn creu ac yn llwytho eu fideos eu hunain i fyny, gan sbarduno twf enfawr mewn cynnwys ffurf-fer wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr.

Mae flogio'n fenter broffidiol hefyd. Mae 17% o oedolion sy'n creu ac yn llwytho fideos i fyny yn cael refeniw neu roddion am y fideos.[4] O ganlyniad i'r statws byd-enwog mae rhai flogwyr yn ei ennill, roedd cyfran y plant dan 13 oed ag uchelgais o fod yn 'YouTuber' wedi cynyddu 19% erbyn diwedd 2019 o'i gymharu â 2018.[5] Mae bechgyn yn fwy tebygol o'i ystyried fel gyrfa.

A graph showing how many users of video-sharing services upload videos.

Hefyd mae rhannu fideos a ffrydio byw yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn ffordd werthfawr i bobl gadw mewn cysylltiad, cael gwybodaeth, a chodi ysbryd. Er enghraifft mae miliynau wedi gwylio a chymryd rhan yn sesiynau Joe Wicks, P.E. with Joe, bob dydd ar YouTube; roedd Twitch wedi cynnal digwyddiad cerddoriaeth elusennol o'r enw Stream Aid i godi arian i'r frwydr yn erbyn Coronafeirws; ac fe wnaeth TikTok ffrydio sesiwn Holi ac Ateb fyw gydag arbenigwyr o Sefydliad Iechyd y Byd.[6]

Sut mae'r pandemig yn newid cyfathrebiadau

A graph showing that adult internet users are as likely to send a message by WhatsApp and they are to send an SMS.

Yn ôl astudiaeth Ofcom, cyn pandemig Covid-19 roedd llawer o bobl yn troi eu cefn ar y mathau mwy traddodiadol o gyfathrebu – yn enwedig galwadau llinellau tir a negeseuon testun SMS – ac yn mabwysiadu dulliau newydd.

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Chwefror 2020, roedd mwy o oedolion ar-lein o lawer yn anfon negeseuon testun bob dydd gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau negeseuon ar-lein (52%) fel WhatsApp a Facebook Messenger, yn hytrach nag SMS (41%) ac e-bost (26%). Roedd y defnydd dyddiol o alwadau llais ar-lein (31%) dim ond ychydig yn is na galwadau symudol (38%).

Mae'n ymddangos bod y pandemig wedi cyflymu'r broses o ddibynnu ar wasanaethau ar-lein i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Erbyn hyn mae mwy na saith o bob deg oedolyn ar-lein yn y DU yn gwneud galwad fideo o leiaf unwaith yr wythnos, i fyny o 35% cyn y cyfyngiadau symud. Gwelir y tueddiad hwn yn arbennig o amlwg ymysg defnyddwyr hŷn y rhyngrwyd; roedd cyfran yr oedolion ar-lein 65+ oed sy'n gwneud o leiaf un alwad fideo bob wythnos wedi codi o 22% ym mis Chwefror 2020 i 61% ym mis Mai 2020.

Mae cyfran yr oedolion yn y DU sydd wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein sefydledig i wneud galwadau fideo o leiaf unwaith yr wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud wedi dyblu– roedd WhatsApp wedi cyrraedd 49% ym mis Mai (i fyny o 20% ym mis Chwefror); Facebook Messenger ar 41% (i fyny o 18%); a FaceTime ar 30% (i fyny o 13%).

Ond y gwasanaethau sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf aruthrol yn eu defnydd yw Zoom (a oedd yn cyrraedd 659,000 o oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd ym mis Ionawr, ac 13 miliwn ym mis Ebrill); Microsoft Teams (3 miliwn o'i gymharu â 6.5 miliwn); a Houseparty (175,000 o'i gymharu â 4 miliwn).

Hyderus ond gofalus

I lawer o oedolion a phlant, mae gwylio neu greu cynnwys ar safleoedd neu apiau rhannu fideos yn brofiad cadarnhaol.[7] Ond mae gan 87% o oedolion – a 79% o blant rhwng 8 a 15 oed – bryderon ynglŷn â phlant yn defnyddio'r llwyfannau hyn. Ymysg y prif bryderon mae trolio neu fwlio, cynnwys niweidiol neu anaddas i oedran, a chael negeseuon preifat gan bobl ddieithr.[8]

Mae ymddiriedaeth oedolion mewn safleoedd i dynnu cynnwys anghyfreithlon, sarhaus a niweidiol wedi cynyddu saith pwynt canran ers y llynedd, i 54%. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o oedolion (57%) yn parhau i gefnogi rhagor o reoleiddio ar lwyfannau rhannu fideos (64% yn 2019).

Mae Ofcom yn paratoi ar gyfer ysgwyddo cyfrifoldebau newydd o ran rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU. Yr haf hwn, byddwn yn cyhoeddi cais am dystiolaeth i ddylanwadu ar ein canllawiau ar y mesurau dylai llwyfannau eu rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.

Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: "Mae'n bosib y bydd y cyfyngiadau symud yn cael effaith barhaol ar y byd digidol. Mae Coronafeirws wedi newid ein ffordd o fyw, o weithio ac o gyfathrebu ar-lein yn llwyr, gyda miliynau o bobl yn defnyddio gwasanaethau fideo ar-lein am y tro cyntaf erioed.

"Wrth i'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu ddatblygu ac wrth i bobl ehangu eu gorwelion ar-lein, ein rôl ni yw helpu i wneud yn siŵr bod profiad pobl yn un cadarnhaol a'u bod yn ddiogel, ac yn cael eu gwarchod."

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae Ein Gwlad Ar-lein yn casglu ynghyd yr ymchwil a gynhyrchwyd gan Ofcom a darparwyr trydydd parti; caiff trosolwg o'n methodoleg ei gyhoeddi fel atodiad i'r adroddiad hwn. Mae'r adroddiad yn cynnwys ymchwil newydd a gynhaliwyd gan Populus yn 2020 ar lwyfannau rhannu fideos a gwasanaethau cyfathrebu ar-lein. Mae'r ffynonellau trydydd parti yn cynnwys Comscore, partner sydd wedi'i gymeradwyo gan UKOM ar gyfer mesur cynulleidfaoedd cyfryngau ar-lein ers 2012, a Kids Insight UK, adnodd mewnwelediadau ac ymchwil y farchnad ar blant rhwng 3 a 18 oed.

    Ar wahân, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi ein hymchwil blynyddol ar bryderon defnyddwyr y rhyngrwyd ynglŷn ag elfennau niweidiol ar-lein posibl a'u profiadau ohonynt, a gomisiynwyd ar y cyd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a'n Hadroddiad ar Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau 2020.

  2. Mae hyn yn codi i dros hanner (57%) yr oedolion rhwng 18 a 24 oed. Roedd yr oedolion yn y DU a oedd wedi ymweld â YouTube wedi treulio cyfartaledd o 28 munud a 52 eiliad y dydd ar y safle ym mis Medi 2019; roedd pobl rhwng 18 a 24 oed wedi treulio dros ddwywaith cymaint o amser (awr a phum munud). Yn ystod y cyfyngiadau symud (mis Ebrill 2020), cododd yr amser dyddiol cyfartalog sy'n cael ei dreulio ar YouTube i 43 munud a 7 eiliad ymysg oedolion sy'n ymweld â'r safle, ac i awr a 32 munud ymysg pobl rhwng 18 a 24 oed (nid yw hyn yn cynnwys y defnydd o YouTube drwy setiau teledu).
  3. Pobl rhwng 18 a 24 oed yw'r grŵp sy'n treulio'r mwyaf o amser ar-lein o hyd (cyfartaledd o 5 awr a 4 munud y dydd ar-lein ym mis Ebrill 2020).
  4. O ran y rhai a oedd wedi dweud eu bod yn ennill rhyw fath o refeniw drwy lwytho eu fideos i fyny, roedd 57% rhwng 18 a 34 oed, 38% rhwng 35 a 54 oed, a 5% dros 55 oed. Ymysg y ffynonellau refeniw mae partneriaeth ffurfiol â brand, rhoddion gan gwmnïau a brandiau yn gyfnewid am eu hyrwyddo, refeniw hysbysebion, a rhoddion ariannol neu daliadau tanysgrifio gan wylwyr/dilynwyr. Roedd cyfran uwch o ddynion sy'n llwytho fideos i fyny wedi dweud eu bod yn ennill refeniw (21%) o'u cymharu â menywod (13%).
  5. Ffynhonnell: Kids Insights UK, Ch4 2018 a 2019
  6. Yn yr un modd, mae llawer o lwyfannau rhannu fideos wedi cyflwyno nodweddion cynnyrch newydd yn gyflym, mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Roedd Instagram wedi cyflwyno stori i bawb i helpu'r rhai sy'n cadw pellter cymdeithasol i gysylltu ag eraill gan ddefnyddio sticer 'Stay Home'. Mae her #IsolationGames TikTok yn cysylltu defnyddwyr ag athletwyr Team GB, ac mae Snapchat wedi ffurfio partneriaeth â Sefydliad Iechyd y Byd i lansio hidlydd sy'n hyrwyddo awgrymiadau a chanllawiau diogelwch y Sefydliad.
  7. Rhesymau dros greu fideos ar gyfer safleoedd neu apiau rhannu fideos

    Children and adults were both most concerned about children being bullied or trolled on VSPs. They were both least concerned about being pressurised into uploading videos.


  8. Pryderon oedolion a phlant o ran plant yn defnyddio llwyfannau rhannu fideos

    Most popular reason for creating a video for video sharing sites or apps for adults age 18+ is to share experiences with friends or family. The most popular reason for children aged 8-15 is because they enjoy making videos or it is their hobby.