25 Tachwedd 2021

Gall BBC Three ddychwelyd fel sianel deledu

  • Ofcom yn cymeradwyo lansio sianel ar gyfer gwylwyr ifanc
  • Rhaid bod tri chwarter o'r cynnwys yn sioeau gwreiddiol o'r DU
  • Archwiliad hanner ffordd trwy'r siarter o berfformiad y BBC yn nodi ei bod yn gwasanaethu pobl yn dda ar y cyfan, ond y dylai'r BBC 'feiddio bod yn wahanol' wrth ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach

Mae BBC Three ar fin dychwelyd i sgriniau teledu am y tro cyntaf ers chwe blynedd, ar ôl i Ofcom gymeradwyo ei ail-lansio fel sianel teledu ddarlledu heddiw.

Ceir y penderfyniad ar yr un pryd â phedwerydd adroddiad blynyddol Ofcom ar berfformiad y BBC, sy'n asesu, ymhlith pethau eraill, ei chynnydd o ran cyrraedd gwylwyr a gwrandawyr a danwasanaethir. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sydd fel arfer yn treulio llai o amser ar raglenni'r BBC.

Cyflwynodd y BBC gynigion i Ofcom i adfer BBC Three fel sianel deledu draddodiadol – a fydd yn cynnig newyddion, materion cyfoes, ffeithiol, drama, adloniant a chomedi, ac yn targedu gwylwyr 16-34 oed nad ydynt fel arfer yn gwylio teledu ar-lein.

Gwnaethom asesu cynlluniau'r BBC yn ofalus, ochr yn ochr â thystiolaeth ac adborth a gasglwyd yn ystod ein hymgynghoriad.[1] Daethom i'r casgliad y bydd ail-lansio'r sianel yn helpu'r BBC i gynyddu ei chyrhaeddiad ymhlith gwylwyr ifanc a danwasanaethir – yn enwedig y rhai o gartrefi incwm is, a chynulleidfaoedd sy'n byw y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.[2]

Er mwyn sicrhau bod y sianel yn unigryw, mae'n rhaid i o leiaf 75% o'r oriau a ddarlledir bob blwyddyn fod yn rhaglenni gwreiddiol, a gomisiynir gan y BBC ar gyfer gwylwyr y DU. Rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r sianel ddarparu cynnwys o'r DU a ddarlledir am y tro cyntaf ar draws cymysgedd o genres, yn ogystal â rhaglenni newyddion yn ystod yr wythnos.[3]

Oes rhywbeth i bawb?

Mae ail-lansio BBC Three yn un rhan o'r ffordd y mae'r BBC yn bwriadu cyflwyno dros bob cynulleidfa, sy'n hanfodol o ran ei chynaladwyedd yn y dyfodol. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych yn ôl dros y pedair blynedd diwethaf, i asesu pa mor dda y mae'r BBC wedi gwasanaethu cynulleidfaoedd y DU hyd yma yn ystod cyfnod y Siarter.

77%

o ddefnyddwyr newyddion BBC wedi'i raddio'n uchel am ddarparu newyddion Covid-19

Gwelsom fod y BBC wedi cyflawni'n fras yn erbyn ei chylch gwaith.[4] Mae'n parhau'n boblogaidd gyda gwylwyr a gwrandawyr, a'r llynedd gwelwyd ei chyrhaeddiad yn sefydlogi ar ôl cyfnod o ddirywiad. Mae bron i naw o bob 10 oedolyn (87%) yn defnyddio cynnwys y BBC bob wythnos. Ymaddasodd yn gyflym hefyd yn ystod y pandemig Covid-19, gan newid ei dulliau cynhyrchu ac amserlennu i barhau i hysbysu, addysgu a diddanu'r cyhoedd.

Ond mae ein hadolygiad hefyd yn nodi sawl thema hirsefydlog y mae'n rhaid i'r BBC fynd i'r afael â hwy. Ymysg y rhain mae:

Gwella canfyddiadau cynulleidfaoedd o ddidueddrwydd y BBC

Y llynedd, defnyddiodd mwy o bobl newyddion y BBC - ar deledu ac ar-lein - ar draws pob grŵp oedran, gan gynnwys pobl ifanc. Dyma'r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd o hyd yn y DU.[5] Ond er bod cynulleidfaoedd yn sgorio newyddion teledu'r BBC yn uchel am gywirdeb (71%) ac ymddiriedaeth (68%), maent yn ei raddio'n llai ffafriol yn gyson am fod yn ddiduedd, gyda 55% yn rhoi sgôr uchel iddi.

Rydym yn croesawu cynllun gweithredu'r BBC i wella canfyddiadau cynulleidfaoedd o'i didueddrwydd. Er mwyn cynnal ymddiriedaeth y gynulleidfa, rydym yn disgwyl iddi asesu'n drylwyr ac adrodd yn dryloyw ar ei chynnydd yn erbyn y cynllun hwn. Yng ngwanwyn 2022, bydd Ofcom yn cyhoeddi ymchwil wedi'i diweddaru ar sut y dylanwadir ar ganfyddiadau cynulleidfaoedd o ddidueddrwydd y BBC.

Parhau'n berthnasol i'w chynulleidfa gyfan yn y DU

Mae gan tua thri o bob pump o oedolion (58%) argraff ffafriol o'r BBC. Ond mae cynulleidfaoedd anabl (53%), pobl yn Yr Alban (49%) a'r rhai o gefndiroedd llai cefnog (53%) yn llai bodlon.

Ar gyfartaledd, mae gan 58% o oedolion yn y DU argraff gadarnhaol o'r BBC. Mae aelwydydd a chynulleidfaoedd AB yn Llundain yn fwy tebygol o weld y BBC yn ffafriol nag aelwydydd a chynulleidfaoedd DE yn yr Alban.

Mae pobl ifanc 16-34 oed yn treulio llawer llai o amser gyda'r BBC bob dydd – ychydig dros awr o'i gymharu â 2 awr 23 munud i'r oedolyn cyfartalog. Mae mwy o blant 11-16 oed yn defnyddio Netflix (77%) na gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC at ei gilydd (74%).

Mae'r BBC yn gwneud newidiadau i gysylltu'n well â chynulleidfaoedd llai bodlon a'r rhai ifanc drwy nifer o fentrau comisiynu, ariannu a thalent. Mae'n hanfodol am ei llwyddiant hirdymor ei bod yn rhoi'r rhain ar waith ac yn sicrhau bod ei gweithlu'n cynrychioli pobl o wahanol gefndiroedd yn well.

Meiddio bod yn wahanol

Nododd ein hymchwil fod llai na hanner oedolion y DU yn graddio'r BBC yn gadarnhaol o ran darparu cynnwys sy'n 'meiddio bod yn wahanol’.

Mae gwariant y BBC ar gynnwys teledu gwreiddiol, a ddarlledir am y tro cyntaf, wedi bod yn dirywio ers tro – o £1.6bn yn 2010 i £1.01bn yn 2020 – gostyngiad a waethygwyd gan y pandemig (-16% o flwyddyn i flwyddyn). Mae gwariant ar raglenni a ddarlledir am y tro cyntaf mewn genres sydd mewn perygl fel comedi a cherddoriaeth wedi dirywio'n gyflymach o'i gymharu â gwariant ar bob genre arall.[6]

Ond mae cefnogaeth gan y BBC yn dal yn hollbwysig i sector creadigol y DU. Daw pedwar deg pedwar y cant o gyfanswm y gwariant gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU ar gomisiynau cwmnïau cynhyrchu allanol gan y BBC.

Wrth i'r BBC ganolbwyntio ar gynnwys tra dylanwadol yn wyneb pwysau cyllidebol a chystadleuaeth gynyddol am gynulleidfaoedd, mae'n rhaid iddi gynnal ei hymrwymiad i gynnwys gwreiddiol o'r DU, gan gynnwys mewn genres sydd mewn perygl. Byddem yn pryderu pe bai caffaeliadau'n chwarae rôl rhy fawr yng nghymysgedd cynnwys cyffredinol y BBC.

Mae'r BBC yn parhau i gael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y cyhoedd ac wedi gwneud cyfraniad clir a chadarnhaol yn ystod y pandemig. Ond mae'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi gweld methiannau hanesyddol yn tarfu ar ei henw da, gyda rhai gwylwyr a gwrandawyr yn amau ei gallu i fod yn ddiduedd, ac eraill yn teimlo eu bod wedi'u heithrio.

Mae'n rhaid i'r BBC feiddio bod yn wahanol, gan ymestyn ei hapêl i wylwyr a gwrandawyr o bob cefndir, dosbarth cymdeithasol, diwylliant, oedran neu leoliad. Mae hynny'n cynnwys cynhyrchu cynnwys beiddgar yn y DU, a dyna pam rydym yn pennu rheolau newydd ynghylch ail-lansio BBC Three.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, Darlledu a Chynnwys Ar-lein

Beth yw'r camau nesaf o ran rheoleiddio'r BBC?

Mae'r adroddiad heddiw yn bwydo i mewn i adolygiad ehangach Ofcom o reoleiddio'r BBC wrth i ni nesáu at hanner ffordd trwy Siarter y BBC. Rydym yn ystyried a yw rheoleiddio'n parhau i fod yn briodol wrth ddwyn y BBC i gyfrif dros wylwyr a gwrandawyr.

Gan gymryd yr ymatebion i'n hymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni i ystyriaeth, byddwn yn gwneud argymhellion i'r Llywodraeth yng ngwanwyn 2022 ar ddyfodol rheoleiddio'r BBC. Ar yr un pryd, byddwn yn ymgynghori ar gynigion i ddiweddaru Trwydded Weithredu'r BBC ar gyfer yr oes ddigidol yng ngwanwyn 2022, gyda thrwydded newydd yn weithredol erbyn mis Ebrill 2023.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Tasg Ofcom, yn unol â gofynion y Siarter a'r Cytundeb, yw sicrhau nad yw unrhyw newid y mae'r BBC yn dymuno ei wneud i'w gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein a ariennir yn gyhoeddus yn rhoi mantais annheg iddi dros ei chystadleuwyr yn y byd darlledu. I wneud hyn, mae angen i ni farnu a yw gwerth cyhoeddus unrhyw newid arfaethedig yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau andwyol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.
  2. Bu i ni nodi bod gwerth posib y sianel i wylwyr yn y pen draw yn gorbwyso'r effaith gyfyngedig a nodwyd ar ddarlledwyr cystadleuol.
  3. At hynny, mae'n rhaid i'r BBC adrodd yn gyhoeddus, ac yn fanwl, ar sut y bydd BBC Three yn darparu gwerth i gynulleidfaoedd, a monitro sut mae'n perfformio ar sail barhaus. Hefyd heddiw, rydym wedi gwneud newidiadau i'n Cod Ymarfer ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig, er mwyn sicrhau bod BBC Three yn ymddangos o fewn y 24 slot cyntaf o ganllawiau teledu ar y sgrin.
  4. Cenhadaeth y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd, gan wasanaethu pob cynulleidfa trwy ddarparu allbwn a gwasanaethau diduedd, nodedig ac uchel eu hansawdd sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn difyrru.
  5. Arolwg Cael Gafael ar Newyddion Ofcom 2021 sampl ar-lein yn unig
  6. Dadansoddiad Ofcom o ddata'r BBC. Mynegir data gwariant ar raglennu gwreiddiol a ddarlledir yn gyntaf mewn termau real gan ddefnyddio prisiau 2020, ac nid yw'n cynnwys rhaglennu'r gwledydd a'r rhanbarthau. Mae genres 'mewn perygl' yn cynnwys y celfyddydau, plant, comedi, cerddoriaeth, crefydd a moeseg, a ffeithiol arbenigol.
  7. A ninnau wedi cynnal asesiad o leoliad marchnad a dylanwad BBC Sounds, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein penderfyniad heddiw sy'n dod i'r casgliad nad oes sail resymol ar hyn o bryd dros gredu bod BBC Sounds yn cael effaith andwyol arwyddocaol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Related content