28 Ebrill 2021

Y gagendor digidol yn lleihau yn ystod y pandemig, ond mae 1.5m o gartrefi heb fod ar-lein o hyd

  • Y data'n awgrymu bod y gyfran o gartrefi'r DU sydd heb gysylltiad rhyngrwyd wedi gostwng o 11% i 6%
  • Mae pobl ifanc yn gweithredu fel cefnogaeth TG i ffrindiau a pherthnasau
  • Ond mae pobl hŷn a'r rhai sy'n fregus yn ariannol yn parhau'n fwyaf tebygol o fod wedi'u hallgáu'n ddigidol
  • Mae chwarter o blant agored i niwed yn profi anhawster wrth gael mynediad i ddyfeisiau ar gyfer dysgu o bell

Awgryma ymchwil gan Ofcom fod gagendor digidol y DU wedi lleihau yn ystod pandemig y coronafeirws, wrth i bobl fynd ar-lein i ddianc rhag y cyfnod clo.

Mae'n ymddangos bod y gyfran o gartrefi nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd wedi gostwng o 11% ym mis Mawrth 2020 wrth i gyfnod clo cyntaf y DU ddechrau, i 6% o gartrefi - tua miliwn a hanner - ym mis Mawrth eleni.[1]

Mae oedolion yr oedd eu sgiliau digidol yn gyfyngedig o'r blaen wedi cofleidio siopa ar-lein, bancio digidol a gwneud galwadau fideo i ffrindiau a pherthnasau - ac mae pobl ifanc wedi bod yn gefnogwyr TG, gan helpu pobl hŷn neu'r rhai sy'n llai hyderus yn ddigidol i fynd ar-lein.

Mae lleiafrif yn parhau wedi'u hallgáu'n ddigidol, ond mae defnyddwyr 'rhyngrwyd procsi' yn dod i'r amlwg

Er gwaetha'r nifer sylweddol uwch o bobl sy'n goresgyn eu hamheuon ac yn cofleidio'r byd ar-lein, i'r 6% o aelwydydd sydd heb fod ar-lein o hyd mae'r ymchwil gan Ofcom yn dangos bod allgáu digidol yn ystod y cyfnod clo'n debygol o'u dirymuso'n fwy nag erioed.

Y grwpiau sy'n lleiaf tebygol o fod heb fynediad i'r rhyngrwyd gartref yw'r rhai 65+ oed (18% heb fynediad), aelwydydd incwm is (11% heb fynediad), a'r rhai sydd fwyaf bregus yn ariannol (10% heb fynediad). Dywed bron hanner yr oedolion nad ydynt ar-lein o hyd fod y rhyngrwyd yn rhy gymhleth iddynt (46%), neu nad yw'n dal unrhyw ddiddordeb iddynt (42%). I rai eraill (37%), mae diffyg cyfarpar yn rhwystr.

Er hynny, mae'r rhan fwyaf o bobl (60%) nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd gartref wedi gofyn i rywun wneud rhywbeth ar-lein iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Ymysg y 'defnyddwyr procsi' hyn, yr angen mwyaf cyffredin oedd cymorth i brynu rhywbeth (57%).

Er i bron yr holl blant oedran ysgol feddu ar fynediad ar-lein gartref[2], dibynnodd 4% ar fynediad trwy ffôn symudol yn unig[3] yn ystod y pandemig – ac roedd 2% yn gallu mynd ar-lein trwy ffôn clyfar yn unig. Roedd plant oedran ysgol o'r cartrefi sydd fwyaf bregus yn ariannol (5%) yn fwy tebygol na'r rhai yn yr aelwydydd sydd leiaf bregus yn ariannol (2%) i gael mynediad trwy ffôn symudol yn unig.[4]

At hynny, nid oedd gan tuag un o bob pump o blant (17%) fynediad cyson i ddyfais addas ar gyfer dysgu ar-lein o gartref. Cynyddodd hyn i 27% o blant o'r aelwydydd sydd wedi'u dosbarthu'n fwyaf bregus yn ariannol.

Bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o blant gyda mynediad ysbeidiol rannu dyfais er mwyn rheoli dysgu o gartref. I 3% o blant ysgol, roedd absenoldeb dyfais wedi atal nhw rhag gwneud unrhyw waith ysgol o gwbl.

Meddai Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “I lawer o bobl, bydd y cyfnod clo'n gadael etifeddiaeth barhaus o fynediad ar-lein gwell a dealltwriaeth ddigidol well. Ond i leiafrif arwyddocaol o oedolion a phlant, nid yw ond wedi dwysáu'r gagendor digidol.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth a sefydliadau partner eraill i hybu ymwybyddiaeth ddigidol a sicrhau bod pobl o bob oedran a chefndir yn cael eu grymuso i rannu manteision y rhyngrwyd.”

Awydd am ddianc ar-lein yn ystod y pandemig…

Darparodd gweithgareddau ar-lein ddifyrrwch i'w groesawu i lawer ohonon ni yn ystod y cyfnod clo, gyda'r pandemig yn ein hannog i fabwysiadu gwasanaethau digidol.

Awgryma data ychwanegol[5] fod yr amser y mae plant yn ei dreulio'n gwylio cynnwys heb ei ddarlledu (megis cynnwys wedi'i ffrydio neu fideo ar-lein) ar eu set deledu bob wythnos wedi cynyddu'n sylweddol y llynedd - o 7 awr 49 munud yn 2019, i 11 awr 19 munud yn 2020 – gan ragori ar wylio darllediadau traddodiadol am y tro cyntaf erioed (6 awr, 54 munud).

Cynyddodd poblogrwydd chwarae gemau ymysg oedolion hefyd. Chwaraeodd mwy na hanner o oedolion (62%) gemau ar ddyfais fel ffôn clyfar, consol gemau neu gyfrifiadur, gyda thraean o oedolion yn chwarae ar-lein, gyda neu yn erbyn pobl eraill.

Chwaraeodd saith o bob deg o blant 5-15 oed gemau ar-lein yn 2020, gyda bechgyn yn benodol yn defnyddio hyn fel ffordd o gysylltu â'u ffrindiau. Roedd chwarter o blant cyn-ysgol 3-4 oed (23%) hefyd yn chwarae gemau ar-lein yn 2020 - gyda'u rhieni'n honni bod bron hanner ohonynt bellach yn berchen ar eu llechi eu hunain (48%) a bron un o bob 20 gyda ffôn clyfar i'w hunain (4%).

ith their parents claiming that nearly half of them now own their own tablet (48%) and nearly one in 20 their own smartphone (4%).

…ond mae amser ar y sgrîn yn anos ei reoli

Gyda phlant yn aros i ffwrdd o'r ysgol a gweithgareddau hamdden neu chwaraeon wedi'u canslo, bu i lawer o rieni gyfaddef ei fod yn fwy anodd rheoli amser eu plant wrth y sgrîn dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hyn yn wir ar gyfer 40% o rieni 5-15 oed, a 30% o rieni plant cyn-ysgol.

Dywedodd hyd at hanner o rieni hefyd y bu'n rhaid iddynt lacio eu dull o reoli defnydd ar-lein eu plant o ganlyniad i gyfyngiadau'r cyfnod clo: 45% o rieni plant 3-4 oed, a 50% o rieni plant 5-15 oed.

Ond roedd rhieni hefyd yn cydnabod gwerth y rhyngrwyd yn ystod y cyfnod clo. Credodd mwy na chwech o bob 10 ei fod yn helpu eu plant i ddysgu sgiliau newydd (65%), a nododd tua hanner i'r rhyngrwyd helpu eu plentyn i adeiladu neu gynnal cyfeillgarwch - cynnydd ers 2019 (34%).

Mae plant sydd â chyflyrau meddyliol neu gorfforol i'w gweld mewn mwy o berygl ar-lein

Cafodd ychydig dros hanner o blant 12-15 oed brofiad negyddol ar-lein y llynedd, a hynny'n uwch nag yn 2019 (41%) – o bosib o ganlyniad i blant dreulio mwy o amser ar-lein.[6]

Dangosodd dadansoddiad newydd eleni fod plant â chyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cyfyngu neu'n effeithio ar eu bywydau bob dydd[7] yn fwy tebygol o fod wedi profi rhyngweithio negyddol ar-lein (70%). Er enghraifft, roeddent yn fwy tebygol o gael eu cysylltu ar-lein gan ddieithriad sydd eisiau bod yn ffrind (45% vs. 27% o'r rhai heb gyflwr), ac i deimlo o dan bwysau i anfon lluniau neu wybodaeth bersonol arall at rywun (14% vs. 4% o blant heb gyflwr).

Nodiadau i olygyddion

  1. Oherwydd newidiadau a orfodwyd i'r fethodoleg, dylid gweld y cymariaethau data fel rhai dangosol yn unig. Ar sail canlyniadau ein harolwg ac amcangyfrifon aelwyd o Arolwg Gweithlu y Swyddfa Ystadegau Gwladol, rydym yn amcangyfrif bod nifer yr aelwydydd yn y DU sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd yn 1.3m-1.8m.
  2. Adroddiad Defnydd Oedolion o’r Cyfryngau a’u Hagwedd Atynt

    Plant a rhieni: Adroddiad ar ddefnydd o’r cyfryngau ac agweddau atynt

  3. Roedd llai nag 1% nad oedd ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd yn y cartref.
  4. Wrth fynediad i'r rhyngrwyd symudol-yn-unig rydym yn golygu mynediad trwy ffôn clyfar, defnyddio lle gwe neu ddongl/USB yn unig - h.y. dim cysylltiad band eang sefydlog.
  5. Mae bregusrwydd ariannol yn fesur a ddyfeisiwyd gan Ofcom i ddeall effaith incwm a chyfansoddiad aelwydydd ar berchnogaeth a defnydd o wasanaethau cyfathrebu'n well. Mae'r dadansoddiad yn creu tri math unigryw o aelwyd trwy gyfuno incwm yr aelwyd a maint yr aelwyd (gan gynnwys y nifer o blant): aelwydydd sydd fwyaf bregus yn ariannol (MFV), aelwydydd a allai fod yn fregus yn ariannol (PFV) ac aelwydydd sydd lleiaf bregus yn ariannol (LFV).
  6. Corff mesur cynulleidfaoedd teledu'r DU, BARB: BARB | Broadcasters Audience Research Board
  7. Mae'n bosib bod y cynnydd mewn cyfrannau sy'n honni profiadau negyddol ar-lein yn deillio o'r newid yn y fethodoleg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i arolwg hunan-gwblhau ar-lein. Y profiadau negyddol y gofynnwyd amdanynt yn yr arolwg oedd: cael eich cysylltu ar-lein gan rywun nad ydych chi'n ei adnabod sydd eisiau bod yn ffrind i chi, gwario arian yn ddamweiniol ar-lein heb fwriadu gwneud, gweld neu dderbyn rhywbeth brawychus neu gynhyrfus ar-lein fel fideo neu sylw dychrynllyd, gweld rhywbeth rhywiol ei natur a barodd i chi deimlo'n anghyfforddus, teimlo o dan bwysau i anfon lluniau neu wybodaeth arall amdanoch eich hun at rywun.
  8. Gofynnwyd i rieni a oedd gan eu plentyn unrhyw gyflwr a allai gyfyngu neu effeithio ar eu gweithgareddau bob dydd, a darparwyd yr opsiynau a ganlyn i ddewis ohonynt: clyw, golwg, symudedd, deheurwydd, anadlu, galluoedd meddyliol, cymdeithasol/ymddygiadol, iechyd meddwl, arall, dim byd, neu 'gwell gennyf beidio â dweud'.

Related content