4 Tachwedd 2021

Rheolau newydd i'ch helpu i gael signal symudol gwell dan do

Os ydych yn ei chael yn anodd derbyn signal symudol da dan do, cyn bo hir bydd modd i chi brynu amrywiaeth ehangach o ddyfeisiau i'ch helpu i gael signal gwell, o dan reolau newydd a gyhoeddir gan Ofcom heddiw.

Mae troswyr symudol dan do - y cyfeirir atynt weithiau fel 'chwyddwyr signal' - yn ddyfeisiau a ddefnyddir fel arfer mewn cartrefi i fwyhau signal symudol.

Yn 2018 gwnaethom awdurdodi'r defnydd o droswyr symudol, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion technegol penodol.

Rydyn ni'n newid y gofynion hyn yn gynnar yn 2022, er mwyn cynyddu'r amrywiaeth o ddyfeisiau y gall pobl eu prynu a'u defnyddio'n gyfreithlon. Yn ogystal â rhoi mwy o ddewis i bobl sy'n dymuno chwyddo eu signal symudol dan do, gallai hyn o bosib ostwng pris y dyfeisiau.

Byddwn ni ddim yn dilysu nac yn cymeradwyo cynhyrchion penodol; ond er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i droswyr symudol cyfreithlon, byddwn yn cyhoeddi rhestr o ddyfeisiau ar ein gwefan sy'n cydymffurfio â'r gofynion technegol.

Yn y cyfamser, mae 'na gamau y gallwch eu cymryd i wella'r signal symudol rydych chi'n ei dderbyn gartref. Yn gyntaf, defnyddiwch ein teclyn gwirio (cliciwch ar ‘Cymraeg’) i ddarganfod pa weithredwyr symudol sy'n darparu'r signal gorau yn eich ardal, ac felly signal gwell dan do.

Datrys problemau

Weithiau, efallai y bydd modd i chi gael signal symudol da yn yr awyr agored ond nid dan do. Mae ffyrdd o ddelio 'da hyn ac efallai bydd rhai o'r rhain yn addas.

Mae rhai atebion yn syml. Er enghraifft, os ydych chi'n ei chael yn anodd derbyn negeseuon testun i gwblhau trafodyn ar-lein, efallai y bydd modd i chi dderbyn galwad i'ch ffôn cartref neu ddefnyddio ap ar eich ffôn clyfar, Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan UK Finance.

Mae rhai darparwyr symudol yn cynnig ffonio dros wifi. Mae hyn yn eich galluogi i gysylltu â'ch gwasanaeth band eang i wneud galwadau, yn ogystal â'u gwneud dros y rhwydwaith symudol. Gellir defnyddio ffonio dros wifi hefyd ar fannau wi-fi cyhoeddus.

Mae galwadau wifi ar gael ar amrywiaeth o ffonau clyfar ac yn eich galluogi i ddefnyddio'ch ffôn heb orfod lawrlwytho a defnyddio apiau ar wahân. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr symudol i alluogi'r gwasanaeth.

Mae galwadau fel arfer yn cael eu cynnwys fel rhan o'ch lwfans munudau arferol a chodir galwadau y tu allan i'r tariff ar y gyfradd safonol.

Cynnwys Cysylltiedig