25 Hydref 2021

Cwmnïau ffôn yn cytuno i rwystro galwadau sgam o dramor

Bydd pobl yn y DU yn cael mwy o amddiffyniad rhag galwadau sgam ar ôl i rai o’r rhwydweithiau ffôn mwyaf gytuno i rwystro galwadau ffôn a wneir o dramor os ydynt yn ffugio dod o rif yn y DU.

Daw hyn ar ôl i Ofcom ofyn i'r rhwydweithiau roi mesurau technegol ar waith i gymryd camau yn erbyn y math hwn o weithgaredd. Mae galwadau sy'n tarddu o dramor ond sy'n ymddangos fel rhif DU yn dacteg gyffredin a ddefnyddir gan dwyllwyr i wneud galwadau sgam.

Gall hyn annog y derbynnydd i gredu bod galwad yn ddilys, gan olygu eu bod yn fwy tebygol o'i ateb. A gallai hyn eu gadael yn agored i dwyll, gyda sgamwyr yn defnyddio'r mathau hyn o alwad i geisio cael gafael ar wybodaeth ariannol neu bersonol.

Dangosodd ein hymchwil diweddar fod bron i 45 miliwn o bobl wedi cael eu targedu gan alwadau a negeseuon testun sgam yr haf yma.

Mae troseddwyr eisoes wedi mynd ati i ddefnyddio technoleg ffonio dros y rhyngrwyd i wneud i alwadau ffôn neu negeseuon testun ymddangos fel eu bod yn tarddu o rif dilys – mae hyn yn cael ei alw’n sbŵffio rhif.

Disgwyliwn i'r mesurau newydd gael eu cyflwyno gan y rhwydweithiau ffôn fel blaenoriaeth. Hyd yma, mae o leiaf dau rwydwaith wedi cyflwyno'r system, ac mae eraill yn edrych ar sut i'w rhoi ar waith.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau telathrebu i weithredu atebion technegol, gan gynnwys blocio galwadau rhyngwladol amheus sy'n cael eu cuddio gan rif DU wrth y ffynhonnell.

Rydym yn disgwyl i'r mesurau hyn gael eu cyflwyno’n gyflym ac fel mater o flaenoriaeth i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu diogelu'n well.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom

Os ydych chi'n poeni am alwadau a negeseuon testun sgam, edrychwch ar ein hawgrymiadau ar sut gallwch chi gymryd camau i gadw’n ddiogel.

Related content