11 Ionawr 2022

Cael trafferth fforddio’ch gwasanaeth ffôn neu fand eang? Gallai 'tariff cymdeithasol' helpu

Os ydych chi'n cael trafferth talu am eich ffôn neu wasanaeth band eang, peidiwch â'i anwybyddu. Dylech siarad â'ch darparwr cyn gynted â phosibl i weld sut y gallent eich helpu.

Mae nifer o bethau y gallant eu cynnig – tariff cymdeithasol yw un o'r rhain, sy'n becyn rhatach sydd ar gael i rai cwsmeriaid yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Gwasanaethau band eang

Mae'r marchnad band eang yn cynnig dewis eang i gwsmeriaid, gyda bargeinion gwahanol ar gael i ddiwallu gwahanol anghenion. Mae rhai darparwyr yn cynnig tariffau cymdeithasol sydd ar gael dim ond i gwsmeriaid ar fudd-daliadau penodol gan y llywodraeth yn unig, fel a nodir yn y tabl isod.

CynnyrchPrisCyflymderCymhwyster
BT Home Essentials £15 y mis Tua 36 Mbit/s Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith) 
BT Home Essentials 2 £20 y mis Tua 67 Mbit/s Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Community Fibre £10 y mia 10 Mbit/s Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Hyperoptic Fair Fibre 50 £15 y mis 50 Mbit/s Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Hyperoptic Fair Fibre 150 £25 y mis 150 Mbit/s Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
KCOM Full Fibre Flex £19.99 y mis 30 Mbit/s Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Virgin Media Essential Broadband £15 y mis 15 Mbit/s Credyd Cynhwysol

Gwasanaethau llinell dir llais-yn-unig

Ar gyfer gwasanaethau llinell dir llais-yn-unig, mae BT a KCOM hefyd yn darparu tariffau cymdeithasol i aelwydydd cymwys – mae manylion y rhain wedi'u cynnwys yn y dolenni BT a KCOM uchod.

Yn ychwanegol at y tariffau hyn, mae'n bosib bod cymorth arall ar gael i gwsmeriaid efalli na allant fynd ar-lein am eu bod yn ei chael yn anodd fforddio gwasanaethau rhyngrwyd. Os ydych yn cael trafferth talu eich bil ffôn symudol neu fand eang, dylech siarad â'ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut y gallan nhw helpu.

Gwybodaeth bellach

Mae gennym gyngor pellach ar gostau, biliau a newid darparwr ar gyfer cwmseriaid ffonau a band eang. Cymerwch olwg i weld pa opsiynau allai fod ar gael i chi.

Cynnwys cysylltiedig