24 Tachwedd 2021

Mae'r amser wedi dod am oruchwyliaeth gref ac allanol o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol

Dyma ein Prif Weithredwr, Melanie Dawes, yn esbonio pam na allwn ddibynnu ar gwmnïau cyfryngau technoleg i ymateb i ddicter defnyddwyr pan fydd niwed difrifol yn digwydd. Yn hytrach, mae arnom angen set glir o reolau.

Dair blynedd cyn iddi gyfansoddi'r algorithm modern cyntaf, myfyriodd Ada Lovelace ar y potensial i beiriannau feistroli gemau fel gwyddbwyll a solitaire. Pe gallai cyfrifiadur gyflawni'r fath gamp, i ble y gallai hyn arwain?

“Ni welaf ddim ond ansicrwydd amwys a chymylog", cyfaddefodd, "ac eto rwy'n dirnad golau llachar iawn ffordd dda ymhellach ymlaen”.

Er gwaethaf ei holl ddisgleirdeb gweledigaethol ym 1840, ni allai hyd yn oed Lovelace ragweld algorithmau fel llaw sy'n llywio teithio, siopa ac adloniant pobl. Yn fwy na hynny, maent yn diffinio ein profiad modern o fod ar-lein, gan wyro'r hyn a welwn mewn canlyniadau chwilio ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae algorithmau wedi personoli'r rhyngrwyd, creu cyfleoedd busnes newydd, a rhoi'r pŵer i bobl gyffredin siarad â chynulleidfaoedd mawrion. Trwy eu gallu i dargedu hysbysebu ar-lein, maent hefyd wedi ysgogi esgyniad cyflym y cewri technoleg gwerth triliynau o ddoleri.

Ond yn rhy aml, mae i'w weld bod cwmnïau wedi blaenoriaethu twf dros ddiogelwch eu defnyddwyr. Trwy gynllunio eu gwasanaethau i gyrraedd mor bell â phosib, efallai eu bod wedi hyrwyddo cynnwys niweidiol yn anfwriadol: bwlio neu aflonyddu, lleferydd casineb, hunan-niweidio. Efallai nad ydynt yn ddigon cyflym wrth daclo terfysgaeth neu gam-drin rhywiol.

Yn yr oes sydd ohoni, pan fydd pobl yn treulio chwarter eu diwrnod deffro yn gysylltiedig â'r rhyngrwyd mae diogelwch yr un mor bwysig ar-lein ag y mae bob amser wedi bod yn y cartref, yr ysgol neu'r gweithle. Mae chwech o bob deg o oedolion cysylltiedig – ac wyth o bob deg o blant hŷn – wedi cael o leiaf un profiad niweidiol ar-lein dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi rheolau llymach.

Ond ar hyn o bryd, gall gwefannau chwilio a chyfryngau cymdeithasol ddewis a ydynt am wrando ar y pryderon hynny ai beidio. Os yw'r cwmnïau hyn yn cael eu rheoleiddio o gwbl, dim ond drwy ddicter y mae hynny'n digwydd. Mae'r amser wedi dod am oruchwyliaeth gref ac allanol.

Felly mae'r Mesur Diogelwch Ar-lein drafft, sy'n cael ei graffu gan Senedd y DU ar hyn o bryd, yn ddarn pwysig o gyfraith. Mae'n golygu y bydd gan gwmnïau technoleg ddyletswyddau gofal newydd i'w defnyddwyr, y bydd Ofcom yn eu gorfodi.

Rydym yn bwriadu adeiladu ar ein hanes o gynnal safonau darlledu, gan gefnogi amrywiaeth o safbwyntiau a hyrwyddo arloesedd.

Yn yr un modd, dylai pawb ddeall beth na fydd y cyfreithiau newydd yn ei olygu. Ni fydd Ofcom yn rheoleiddio nac yn cymedroli darnau unigol o gynnwys ar-lein. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod – ac rydyn ni'n cytuno – y byddai'r cyfaint pur yn gwneud hynny'n anymarferol.

Ni fyddwn yn gweithredu fel sensor, yn atal cynnadl gadarn neu'n sathru ar hawliau defnyddwyr. Rhyddid lleferydd yw enaid y rhyngrwyd. Mae'n un o sylfeini cymdeithas ddemocrataidd, wrth wraidd bywyd cyhoeddus, ac yn werth y mae Ofcom yn ei ddal yn annwyl.

Yn hytrach, diben ein gwaith fydd codi'r 'ansicrwydd amwys a chymylog' sy'n hofran dros chwilio ar y we a chyfryngau cymdeithasol.

Fel defnyddiwr, nid oes gennych syniad sut mae'r llwyfannau hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Pam ydych chi'n gweld y cynnwys rydych chi'n ei weld? Beth maen nhw'n ei wneud i amddiffyn eich plant rhag cam-drin neu aflonyddu? Pan fyddant yn cynllunio eu gwasanaethau, a yw diogelwch yn flaenoriaeth gyntaf neu'n ddim ond ôl-ystyriaeth?

Pan fyddwn yn rheoleiddio diogelwch ar-lein, bydd Ofcom yn mynnu atebion i'r cwestiynau hyn. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau asesu risg gyda safbwynt y defnyddiwr mewn golwg. Bydd angen iddynt esbonio'r hyn y maent yn ei wneud i isafu cynnwys anghyfreithlon yn gyflym a'i ddileu'n gyflym – ac amddiffyn plant rhag niwed.

Byddwn yn dwyn cwmnïau i gyfrif am sut maent yn defnyddio algorithmau, yn ymdrin â chwynion ac yn sicrhau profiad diogel i blant. Bydd yn rhaid i'r gwasanaethau mwyaf esbonio hefyd sut y maent yn diogelu cynnwys newyddiadurol a democrataidd. Ar hyn o bryd, mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau cwmnïau, heb neb yn eu gweld neu eu dwyn i gyfrif.

Bydd Ofcom yn pennu codau ymarfer, ac yn adrodd yn gyhoeddus ar berfformiad llwyfannau. Os byddwn yn gweld bod cwmnïau'n methu yn eu dyletswyddau gofal, gallwn godi dirwyon neu gynnal archwiliad o'u gwaith.

Ac wrth i wledydd eraill ddilyn gyda chyfreithiau tebyg, byddwn yn cydweithio'n agos gyda'n cymheiriaid rhyngwladol. Pan gyfarfûm ag arweinwyr technoleg o bob cwr o'r byd yn Uwchgynhadledd Gwe Lisbon y mis yma, gwelais benderfyniad ar y cyd i ddod o hyd i atebion byd-eang i'r heriau hyn.

Mae Ofcom yn paratoi ar gyfer y swydd, gan gaffael sgiliau newydd mewn meysydd fel data a thechnoleg. Ac rydym wedi agor canolfan dechnoleg newydd ym Manceinion i'n helpu i ddenu sgiliau ac arbenigedd o bob cwr o'r wlad a'r tu hwnt.

Byddwn ni'n barod; ac rwy'n credu y bydd y cyfreithiau newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Trwy daflu goleuni disglair iawn ar gwmnïau pwerus tu hwnt, gallwn sicrhau eu bod yn gofalu'n iawn am eu defnyddwyr ac yn creu bywyd mwy diogel ar-lein i bawb.

Related content