13 Rhagfyr 2021

Uwchraddio llinellau tir i dechnoleg ddigidol – beth mae angen i chi ei wybod

Landlines going digital: what you need to know

We have updated our advice on what the digital switchover will mean for you as a customer.

Bydd y dechnoleg a ddefnyddiwn ar hyn o bryd i wneud galwadau ffôn llinell dir yn cael ei huwchraddio dros y blynyddoedd i ddod. Ond beth mae hyn yn ei olygu i chi fel cwsmer llinell dir?

Yn draddodiadol, mae galwadau ffôn llinell dir wedi'u darparu dros yr hen rwydwaith ffôn – gelwir hyn yn Rhwydwaith Cyfnewidfeydd Ffôn Cyhoeddus (PSTN).

Mae BT wedi penderfynu ymddeol y PSTN erbyn Rhagfyr 2025 ac mae darparwyr eraill yn bwriadu dilyn yr un amserlen fras. Mae hyn yn golygu y bydd galwadau llinell dir yn cael eu darparu yn y dyfodol dros dechnoleg ddigidol o'r enw Llais dros Brotocol Rhyngrwyd (VoIP), sy'n defnyddio cysylltiad band eang.

Pam mae'n digwydd?

Cafodd yr offer a ddefnyddir yn y PSTN ei ddatblygu a'i osod yn y DU yn y 1980au, ac mae'n mynd yn anoddach ac yn ddrutach i'w gynnal a chadw. Ar yr un pryd, mae darparwyr telathrebu yn buddsoddi mewn systemau a rhwydweithiau newydd fel technoleg ffeibr llawn.

Felly, mae cwmnïau band eang a ffôn wedi penderfynu diffodd yr hen rwydwaith a chyflwyno galwadau llinell dir dros dechnoleg ddigidol newydd i sicrhau bod ein gwasanaethau ffôn yn parhau i'r dyfodol.

Pryd mae'n digwydd?

Mae rhywfaint o'r symudiad hwn i VoIP eisoes yn digwydd gyda rhai cwsmeriaid, fel pobl sydd wedi uwchraddio eu pecyn ffôn cartref a band eang, neu sydd wedi symud tŷ. Bydd eich darparwr llinell dir yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd fydd y broses o fudo o'ch hen linell dir i'ch gwasanaeth ffôn newydd yn dechrau.

Beth mae angen i mi wneud?

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes bod eich darparwr yn dweud wrthych fod eich gwasanaeth ffôn yn newid, neu hyd nes y byddwch yn penderfynu newid eich gwasanaeth ffôn.

Unwaith y bydd gwasanaeth ffôn cartref yn cael ei symud o PSTN i VoIP, bydd y ffôn fel arfer yn gweithio yn yr un ffordd ag erioed, ond bydd angen ei blygio i lwybrydd band eang yn hytrach nag i mewn i soced ffôn ar y wal. Os oes angen unrhyw offer - er enghraifft, llwybrydd newydd neu wasanaeth band eang newydd - arnoch chi, dylai eich darparwr drefnu hyn. Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch darparwr am sut y bydd y gwasanaeth yn gweithio i chi.

Bydd y newid hwn yn effeithio ar ddyfeisiau eraill sy'n dibynnu ar linell ffôn, megis rhai systemau larwm tân a lladron a dyfeisiau teleofal. Felly, dylech siarad â'ch darparwr am y dyfeisiau hynny a gwirio a oes angen eu newid neu eu hailgyflunio er mwyn iddynt barhau i weithio.

A oes rhaid i mi gael band eang i gael y gwasanaeth llinell dir newydd?

Unwaith y bydd y PSTN wedi'i ddiffodd, yn gyffredinol bydd angen i gwsmeriaid sy'n dymuno parhau i gael ffôn llinell dir, nad oes ganddynt fand eang eisoes, fod â chysylltiad addas – mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio gwasanaeth band eang. Disgwyliwn y bydd gan ddarparwyr amrywiaeth o opsiynau ar gyfer pobl yn y sefyllfa hon, felly ni ddylid gorfodi cwsmeriaid i gymryd pecyn band eang cyflym os nad ydynt am wneud hynny.

A fydd ffonau VoIP yn gweithio os bydd y trydan yn methu?

Yn wahanol i ffonau traddodiadol, ni fydd ffôn sy'n gysylltiedig â llwybrydd band eang yn gweithio mewn toriad trydan, gan fod y llwybrydd wedi'i bweru o'r prif gyflenwad.

Os ydych yn dibynnu ar eich llinell dir - er enghraifft, os nad oes gennych ffôn symudol, na allwch ddefnyddio ffôn symudol neu nad oes gennych signal symudol yn eich cartref - mae'n rhaid i'ch darparwr sicrhau y gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys yn ystod toriad trydan. Gallai hyn fod ar ffurf batri wrth gefn fel y bydd eich llinell dir yn parhau i weithio, neu drwy roi ffôn symudol syml i chi ei ddefnyddio yn y sefyllfa hon.

Sut allaf gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am symud i dechnoleg VoIP, cysylltwch â'ch darparwr llinell dir neu fand eang yn gyntaf oll.

See also...