25 Ionawr 2022

Ofcom yn gwahodd ceisiadau am y drydedd rownd o geisiadau am amlblecsau DAB graddfa fach

Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer y drydedd rownd o drwyddedu amlblecs DAB graddfa fach mewn 25 o ardaloedd ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae DAB graddfa fach yn dechnoleg flaengar sy'n darparu ffordd gost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ymuno â'r tonnau awyr digidol.

Bydd y rhaglen DAB graddfa fach yn galluogi lansio tua 200 o amlblecsau a fydd yn rhoi darpariaeth i bob un o bedair gwlad y DU. Rydym yn disgwyl y bydd y rhain yn darlledu amrywiaeth o wasanaethau radio, gan amrywio o wasanaethau cymunedol llawr gwlad i orsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau a anelir at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda.

Y mis diwethaf, gwrandawyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr oedd y cyntaf i elwa o'r chwyldro hwn mewn radio lleol wrth i lu o wasanaethau newydd fynd ar y tonnau awyr.

Diolch i dechnoleg DAB graddfa fach, bydd modd cyn bo hir i hyd yn oed yn fwy o wrandwyr diwnio i mewn i orsafoedd lleol newydd, wrth i ni agor ceisiadau trwydded heddiw ar gyfer yr ardaloedd a ganlyn:

  • Bedford
  • Belfast a Lisburn
  • Coventry
  • Darlington a Bishop Auckland
  • Dundee
  • Dwyrain Hull
  • Caerlŷr
  • Lincoln
  • Llandudno a Betws-y-Coed
  • Middlesbrough a Redcar
  • Milton Keynes
  • Gogledd Aberdeen
  • Nottingham
  • Rhydychen
  • Rutland a Stamford
  • Shaftesbury a Blandford Forum
  • De Aberdeen
  • Abertawe
  • Swindon a Marlborough
  • Taunton
  • Warminster, Devizes a Trowbridge
  • Gorllewin Hull
  • Wetherby a Harrogate
  • Caerefrog
  • Arfordir Swydd Efrog

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 25 Ebrill 2022. Rydym wedi diweddaru ein harweiniad i ymgeiswyr (PDF, 1.7 MB).

Hefyd heddiw rydym yn cyhoeddi'r 27 o ardaloedd trwydded y bwriadwn eu hysbysebu ym mhedwaredd rownd y trwyddedau amlblecs DAB graddfa fach yn ail hanner 2022.

Mae'r map hwn o'r DU yn dangos ble rydym wedi dyfarnu'r rownd gyntaf o drwyddedau amlblecs graddfa fach, y ceisiadau sy'n cael eu hasesu (rownd dau), ceisiadau am drwydded sydd ar agor (rownd tri) a'r trwyddedau sydd i'w hysbysebu yn ddiweddarach yn 2022 (rownd pedwar).

Related content