7 Hydref 2022

Band eang gwell wedi'i gyflwyno ar garlam yn cyrraedd 11 miliwn o gartrefi

  • Band eang ffeibr llawn yn cyrraedd 11 miliwn o gartrefi yn y DU – i fyny o 7 miliwn y llynedd
  • Wrth i fwy o fentrau bach a chanolig symud at weithio hybrid, mae band eang gwell yn mynd yn flaenoriaeth

Mae cyflwyno band eang ffeibr llawn yn parhau ar garlam, gyda thros 50% yn fwy o gartrefi yn y DU â mynediad ato ers y llynedd, yn ôl ymchwil diweddaraf Ofcom.

Yn ôl diweddariad hydref Cysylltu'r Gwledydd Ofcom, gall 37% o gartrefi bellach gael ffeibr llawn, sy'n fwy dibynadwy ac yn gallu darparu cyflymder lawrlwytho o hyd at 1 Gbit yr eiliad. Dyna chynnydd o 24% ers y flwyddyn ddiwethaf, pan fu darpariaeth i ychydig o dan saith miliwn o gartrefi.

Growth of full-fibre broadband availability in the UK. 37% of homes can now get full fibre, an increase from 24% a year ago.

Mae nifer y safleoedd na allant dderbyn cyflymder band eang 'digonol' (10 Mbit yr eiliad i lawr ac 1 Mbit yr eiliad i fyny) wedi gostwng 38% ers y llynedd i 83,000.

O'r rhain, ni ddisgwylir i tua 66,000 gael darpariaeth gan gynllun cyflwyno a ariennir yn gyhoeddus yn y deuddeg mis nesaf, ac felly mae'n bosib y byddant yn gymwys am y gwasanaeth band eang cyffredinol.

MBaCh yn symud i weithio hybrid

Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi ymchwil ar sut mae mentrau bach a chanolig (SME) yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebu.

Gwelsom fod y pandemig wedi cyflymu symudiad busnesau sydd â rhwng 10 a 250 o weithwyr tuag at weithio hybrid, gan wneud band eang yn y cartref yn fwy o flaenoriaeth iddynt.

Mae tua thraean o fentrau bach a chanolig (31%) sydd â chysylltiad band eang yn credu ei fod wedi mynd yn bwysicach fyth ers dechrau'r pandemig.

Mae chwarter o fentrau bach a chanolig wedi newid gwasanaeth cyfathrebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a chytundeb rhatach yw'r prif reswm dros wneud hynny. Mae'r rhai nad ydynt yn newid yn nodi boddhad uchel gyda'u darparwr presennol fel rheswm dros aros gyda nhw.

I'r rhan fwyaf o fentrau bach a chanolig, mae'r farchnad gyfathrebu yn diwallu eu hanghenion. Fodd bynnag, mae mentrau bach a chanolig gwledig bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn anfodlon iawn â darpariaeth symudol o'i gymharu â'u cymheiriaid trefol (12% o'i gymharu â 3%) a dwywaith yn fwy tebygol o fod yn anfodlon â dibynadwyedd eu gwasanaeth rhyngrwyd (15% o'i gymharu ag 8%).

Nodiadau i olygyddion

Methodolegau:

  • Diweddariad Hydref Cysylltu'r Gwledydd: Defnyddiwyd data gan 58 o weithredwyr llinell sefydlog a 26 o ddarparwyr Mynediad Di-wifr Sefydlog (Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd Di-wifr a Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol) i gydgrynhoi ffigurau argaeledd ym mis Mai 2022.
  • Ymchwil MBaCh: Cyfwelwyd â 2,109 o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn MBaCh rhwng 28 Ionawr a 4 Ebrill 2022.

Related content