26 Ionawr 2022

Y datblygiadau technoleg mawr i gadw llygad allan amdanynt yn 2022

Sachin Jogia

Rydym i gyd wedi byw drwy gwpl o flynyddoedd annarogan, ond mewn byd technoleg sy'n symud yn gyflym ac yn newid yn barhaus, mae'n bwysig edrych ymlaen ac ystyried beth yn ein barn ni fydd y prif ddatblygiadau sydd ar y gweill dros y 12 mis nesaf.

Ymunodd ein Prif Swyddog Technoleg, Sachin Jogia, ag Ofcom y llynedd o Amazon ac mae'n gyfrifol am arwain ein gwaith technoleg esblygol ac arloesol. Dyma ei farn ef am y datblygiadau y byddwn efallai yn eu gweld yn y byd technoleg yn ystod 2022.

Telathrebu

Bydd mwy o newyddion am Open RAN yn 2022

Mae Open RAN wedi cael ei gymharu â Lego, gan ei fod yn galluogi gweithredwyr telathrebu i 'gymysgu a pharu' elfennau gwahanol o gyflenwyr lluosog i adeiladu eu rhwydweithiau, yn hytrach na defnyddio cydrannau a ddarperir gan un cyflenwr yn unig. Mae OPEN RAN hefyd yn galluogi i feddalwedd rhwydwaith gael ei symud i ffwrdd o galedwedd pwrpasol a drud, i fynd yn fwy brodorol i'r cwmwl a chael ei osod ar galedwedd cyfrifiadurol parod cyffredin.

Mae'r cyfuniad o hyn oll yn annog cystadleuaeth ac arloesedd ymhlith cyflenwyr, a allai yn ei dro helpu i ddarparu gwell profiad 5G i ddefnyddwyr am gost is. Mae Open RAN hefyd yn rhoi cyfle i gwmnïau a sefydliadau adeiladu eu rhwydweithiau preifat eu hunain, gan drawsnewid y ffordd y maent yn gweithredu ac yn gwneud busnes.

Darlledu

Trawsnewid llwyfannau teledu

Bydd llwyfannau teledu yn dod â darlledu a'r byd ar-lein yn nes at ei gilydd, gan roi mynediad haws i bobl at wasanaethau darlledu, dal i fyny a fideo ar-alw drwy un gwasanaeth. Bydd hyn yn caniatáu newid symlach rhwng sut mae cynnwys yn cael ei ddarparu i wylwyr gan ddibynnu ar eu hanghenion a galluoedd y dechnoleg y maent yn ei defnyddio. Bydd sianeli'n gallu cyflwyno nodweddion newydd ac arloesol, gan gynnwys profiadau teledu mwy personol.

Galluogi cynulleidfaoedd i bersonoli eu profiadau teledu

Byddwn yn gweld cynnydd yn y defnydd o 'gyfryngau seiliedig ar wrthrychau’. Dyma pryd mae cynnwys darlledu yn cael ei ddosbarthu fel cyfres o rannau sy'n cael eu cydosod yn y ddyfais dderbyn er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr, a phersonoli cynnwys yn fwy effeithiol - enghraifft gynnar o hyn oedd isdeitlo ar y teledu. Ond bydd cynhyrchwyr cynnwys yn awr, er enghraifft, yn gallu dosbarthu sain sy'n caniatáu i bobl ailgyflunio sain a deialog cefndir, addasu lefel a safle unrhyw sylwebaeth, dewis ail iaith ac ychwanegu testun a graffigau dewisol ar y sgrin, i gyd ar eu set deledu bresennol. Bydd hyn oll yn rhoi profiad gwylio teledu llawer cyfoethocach a mwy personol i bobl. Er enghraifft, gall pobl sy'n drwm eu clyw osod eu set deledu i newid cyflwynydd yn awtomatig o un sy'n siarad i un sy'n arwyddo.

Bydd dulliau gwrando ar y radio a sain yn parhau i fynd yn glyfrach

Bydd defnyddio radio a gwasanaethau sain eraill yn cynyddu ar ddyfeisiau cartref clyfar newydd a phresennol ac, yn arwyddocaol, ar systemau integredig a cheir cysylltiedig, gyda'r cyfle i ddarlledwyr ddatblygu ac integreiddio cynnwys mwy personol i wrandawyr gan ddefnyddio'r dulliau hyn i glywed eu hoff gynnwys.

Ar-lein

Archwilio'r bydysawd meta – bydoedd ar-lein newydd sy'n dechrau agor i fyny

Mae'r cewri technoleg Meta, Sony ac Apple i gyd wedi dadorchuddio caledwedd newydd sydd i'w ryddhau eleni a fydd yn galluogi defnyddwyr i gymryd rhan mewn bydoedd rhithwir. Gallai datblygiadau cyflym mewn technoleg realiti estynedig (AR) a realiti rhithwir (VR) gynyddu mabwysiadu wrth i setiau pen fynd yn ysgafnach ac yn fwy pwerus. Cyhoeddodd Mark Zuckerberg fwriad Meta i ailffocysu ar ddatblygu'r Metaverse.

Er bod rhywfaint o'r dechnoleg hon eisoes yn bodoli ac wedi'i mabwysiadu gan rai cynulleidfaoedd, bydd datblygiadau mewn technoleg yn y maes hwn yn lleihau rhai o'r rhwystrau i brofiad cwbl ymdrochol, a gallai ddarparu gwasanaethau mwy cyffrous a defnyddiol i ddefnyddwyr.

Cynnydd mewn cyfryngau synthetig a delweddau tra ffug

Bydd datblygiadau mewn dysgu peirianyddol (ML), deallusrwydd artiffisial (AI) a rhwydweithiau gwrthwynebol cyffredinol (GAN) yn ei gwneud yn haws cynhyrchu 'cyfryngau synthetig', sef y cyfryngau a grëir gan ddefnyddio dulliau cwbl awtomatig. Dychmygwch ffilmiau'n cael eu gwneud gydag actorion Hollywood synthetig, i bob pwrpas heb iddynt orfod bod yn bresennol yn y stiwdio - yn y ffordd y mae Keanu Reeves yn disgrifio.

Fodd bynnag, gallai hyn hefyd arwain at gynnydd mewn 'delweddau tra ffug', sef math o gyfryngau synthetig sy'n trin neu'n cyfnewid wynebau pobl ar ffurf fideo, fel bod rhywun yn ymddangos mewn ffordd nad yw wedi digwydd mewn realiti. Mae delweddau tra ffug yn peri risg i ddiogelwch, gan y gallant gael eu defnyddio'n faleisus megis mewn seiberfwlio, neu mewn gweithredoedd gelyniaethus gan genedl-wladwriaethau.

Technoleg diogelwch a rheoleiddio

Bydd gan ddiogelwch broffil uwch, wrth i'r Mesur Diogelwch Ar-lein fynd i Senedd y DU yn ddiweddarach eleni. Gyda'r ffocws cynyddol hwn ar ddiogelwch, mae marchnad newydd erbyn hyn ar gyfer technoleg sy'n darparu offer i sicrhau bod llwyfannau a chynnwys yn cydymffurfio â rheoliadau newydd a'r rhai sydd ar y gweill. Dyma is-set o'r farchnad technoleg reoleiddio ehangach, sydd yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar ofynion rheoleiddio ariannol ac sy'n darparu dulliau awtomeiddio tasgau gofynnol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Mae cyfle gwirioneddol i alluogi i dechnoleg ein helpu i arloesi wrth amddiffyn plant a'r rhai sy'n agored i niwed ar-lein.

Ac yn olaf…

Gwefru clyfrach ar gyfer dyfeisiau cartref?

Mae gen i hefyd un rhagfynegiad gwyrdd terfynol – ac mae hynny'n dwf yn yr amrywiaeth o ddyfeisiau defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg cynaeafu ynni i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Er enghraifft, dadorchuddiodd Samsung declyn rheoli teledu yn CES eleni a all wefru gan ddefnyddio tonnau radio Wi-Fi amgylchynol, ac rwy'n disgwyl i gwmnïau eraill lansio dyfeisiau eleni a fydd yn defnyddio'r un egwyddorion.

Bydd y dechnoleg hon yn cynnig ffordd newydd o wefru dyfeisiau electronig pŵer isel fel teclynnau teledu, allweddi ceir a thracwyr electronig personol. Bydd yn golygu na fydd angen i bobl wefru'r dyfeisiau hyn mor aml gan ddefnyddio trydan y prif gyflenwad neu newid batris trwy'r amser - gan helpu o bosib i leihau'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r dyfeisiau hyn. Dychmygwch adeg pan nad oes angen i chi chwilio o gwmpas am fatris sbâr oherwydd bod eich teclyn teledu, hoff degan electronig neu allweddi car yn ailwefru eu hunain gyda'r pŵer Wi-Fi amgylchynol 'sbâr' sydd o'n cwmpas yn y cartref!

Cynnwys cysylltiedig