23 Chwefror 2022

Ofcom yn bwriadu torri i lawr ar dwyll rhifau ffug

  • Cynlluniau newydd i atal sgamwyr rhag defnyddio rhifau ffôn ffug a chael gafael ar rai go iawn
  • Mesurau i ddiogelu yn erbyn galwadau wedi'u 'sbŵffio' yn cael eu hestyn i gynnwys pob cwmni ffôn

Bydd cwmnïau ffôn y DU yn ei gwneud hi'n anoddach i sgamwyr ddefnyddio eu rhwydweithiau, o dan ystod o fesurau a gynigir gan Ofcom heddiw.

Roedd bron i 45 miliwn o bobl wedi'u targedu gan alwadau a negeseuon testun sgam yr haf diwethaf. Mae troseddwyr yn mynd yn gynyddol soffistigedig, a bu i bron i filiwn o'r defnyddwyr hyn ddilyn cyfarwyddiadau'r sgamwyr, gan godi'r perygl o golled ariannol a gofid emosiynol.

Mae Ofcom yn gweithio gyda chwmnïau ffôn i'w helpu i rwystro galwadau sy'n dynwared – neu'n 'sbŵffio' – rhifau ffôn sefydliadau dilys, fel banciau ac adrannau'r Llywodraeth. Ond mae twyllwyr yn addasu'n gyflym i amgylchiadau a thechnolegau newidiol. Yn ystod y pandemig, er enghraifft, mae troseddwyr wedi bod wrthi'n tecstio dolenni twyllodrus ynghylch brechiadau ac yn dynwared cwmnïau danfon.

Felly rydym wedi bod yn cefnogi cwmnïau ffôn ac yn gweithio gyda sefydliadau eraill ar ddulliau newydd o fynd i'r afael â sgamiau ffôn a neges destun.

Ymladd yn erbyn twyll o rifau ffôn DU ffug

Mae Ofcom yn cynnig cryfhau rheolau a chanllawiau er mwyn taclo sbŵffio rhifau. Bydd disgwyl i bob rhwydwaith ffôn sy'n ymwneud â throsglwyddo galwad rwystro rhifau sydd yn amlwg wedi'u sbŵffio. Byddai'r rheol hon yn berthnasol i bob cwmni ffôn, gan sicrhau bod y mesur diogelu yn gweithio i filiynau o bobl.

Gellir nodi rhifau wedi'u sbŵffio mewn nifer o ffyrdd. Ymysg yr enghreifftiau mae galwadau sy'n tarddu o dramor nad oes ganddynt rif adnabod y galwr dilys, gan ddefnyddio rhif nad yw'n gweddu i fformat 10 neu 11 digid y DU, a galwadau sydd i'w gweld yn dod o rifau y maent eisoes ar restr Heb Ddangos Tarddiad Ofcom.

Mae'r arweiniad ar rwystro galwadau o dramor sy'n defnyddio rhif DU yn dwyllodrus yn seiliedig ar fenter a ddatblygwyd gan y diwydiant, y mae rhai darparwyr eisoes wedi'i rhoi ar waith o'u gwirfodd. Dywedodd un o'r rhain – TalkTalk – iddynt weld gostyngiad o 65% mewn cwynion am alwadau sgam ers cyflwyno'r mesur hwn.

Atal sgamwyr rhag defnyddio rhifau ffôn go iawn

Rydym hefyd yn cynnig arweiniad newydd i helpu cwmnïau i atal sgamwyr rhag cael gafael ar rifau ffôn dilys.

Mae Ofcom yn neilltuo miliynau o rifau ffôn, fel arfer mewn blociau mawr, i gwmnïau telathrebu. Yna, gall y cwmnïau hyn drosglwyddo'r rhifau i fusnesau neu unigolion eraill. Disgwylir i bob cwmni ffôn gymryd camau rhesymol i atal eu rhifau rhag cael eu camddefnyddio, ond mae'r ymdrechion hyn yn amrywio.

Mae ein canllaw newydd yn nodi disgwyliadau clir i gwmnïau ffôn sicrhau eu bod yn cynnal gwiriadau 'adnabod eich cwsmer' ar gwsmeriaid busnes. Gallai'r rhain gynnwys gwirio cofrestr Tŷ'r Cwmnïau, cronfeydd data risg twyll a Chofrestr Gwasanaethau Ariannol FCA i ddatgelu gwybodaeth a allai nodi risg uchel o gamddefnydd gan gwsmer sydd am ddefnyddio rhifau ffôn.

Dylai cwmnïau ffôn gymryd camau hefyd i atal unrhyw gamddefnydd posib pellach – gall hyn gynnwys rhwystro'r rhif dros dro ac adrodd tystiolaeth o weithgarwch twyllodrus i asiantaethau gorfodi'r gyfraith.

Defnyddio technoleg i ymladd yn erbyn twyll yn y dyfodol

Mae tactegau sgamwyr yn esblygu trwy'r amser ac yn mynd yn fwy soffistigedig, felly nid oes un ateb cyffredinol a fydd yn sathru ar alwadau sgam. Ond mae Ofcom yn ymchwilio i sut y gall technoleg helpu i atal galwadau sgam wrth y ffynhonnell yn y dyfodol.

Yn achos galwadau sy'n tarddu o'r DU, byddai hyn yn gofyn i'r rhwydwaith y mae'r alwad yn cael ei wneud ohono "ddilysu" gwybodaeth adnabod y galwr cyn cysylltu nhw.

Dylai fod modd cyflawni hyn unwaith y bydd y DU yn trosglwyddo i linellau tir digidol ymhen ychydig flynyddoedd, ac rydym yn ymchwilio i sut y gall cwmnïau ffôn roi'r dechnoleg ar waith er mwyn i hyn ddigwydd.


Mae'r bygythiad a achosir gan sgamwyr wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, a gall y tactegau soffistigedig a ddefnyddir gan y troseddwyr hyn arwain at ganlyniadau dinistriol i ddioddefwyr.
Rydym yn cymryd camau fel bod gan gwmnïau ffôn systemau cryfach ar waith i darfu ar sgamiau. Er nad oes bwled arian a fydd yn dod â phla galwadau sgam i ben yn llwyr, rydym yn gweithio gyda'r diwydiant ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg i'w gwneud mor anodd â phosib i gyrraedd pobl.”

Huw Saunders, Cyfarwyddwr Seilwaith a Chydnerthedd Rhwydweithiau Ofcom

Os byddwch yn derbyn galwad sgam...

Pwyllwch

Pwyllwch! Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol neu fanc.

Datgysylltwch

Datgysylltwch a ffoniwch y cwmni maen nhw'n honni ei gynrychioli i wirio a yw'n sgam.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am alwadau sgam i Action Fraud a rhowch wybod i'ch ffrindiau a theulu hefyd.

Nodiadau i olygyddion

  1. 45 miliwn o bobl wedi'u targedu gan alwadau a negeseuon testun sgam yr haf yma
  2. Mae Ofcom eisoes wedi datblygu mentrau i helpu i daclo galwadau sgam, megis y rhestr 'Heb Ddangos Tarddiad'. Rhifau yw'r rhain nad yw sefydliadau fel banciau ac adrannau'r Llywodraeth byth yn eu defnyddio i ffonio allan. Gall sgamwyr newid eu rhif adnabod y galwr – a elwir yn 'sbŵffio' – i ddynwared un o'r sefydliadau hyn. Defnyddir ein rhestr gan gwmnïau ffôn i rwystro galwadau sy'n dynwared un o'r rhifau hyn.
  3. Mae Safonau NICC yn fforwm technegol ar gyfer Darparwyr Cyfathrebu'r DU, a rhoddwyd arweiniad ar rwystro galwadau rhyngwladol sydd â rhifau DU yn ND1447
  4. Mae dau rif sy'n gysylltiedig â data Adnabod Llinell y Galwr (CLI), y Rhif Cyflwyno a'r Rhif Rhwydwaith. Mae'r Rhif Rhwydwaith yn nodi'r mynediad sefydlog i'r rhwydwaith cyhoeddus neu danysgrifiwr sydd â mynediad nad yw'n sefydlog i'r rhwydwaith cyhoeddus. Ni ddylai galwadau o dramor ddefnyddio CLI y DU fel Rhif Rhwydwaith, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o achosion defnyddio dilys:
  • defnyddwyr symudol y DU yn crwydro dramor sy'n gwneud galwadau yn ôl i rifau'r DU;
  • galwadau i ddefnyddiwr symudol sy'n crwydro yn y DU;
  • pan fo'r traffig wedi tarddu ar rwydwaith yn y DU; neu
  • pan fo'r traffig wedi tarddu o gwsmeriaid yn y DU a westeïr ar nodau tramor neu wasanaethau cwmwl.

Gall galwyr o dramor hefyd barhau i ddefnyddio CLI y DU fel Rhif Cyflwyno ar yr amod bod y Rhif Rhwydwaith yn adnabod ffynhonnell yr alwad, er enghraifft drwy ddefnyddio rhif o'r wlad lle mae'r alwad wedi tarddu.

  1. Os ydych wedi derbyn galwad sgam, gallwch roi gwybod i Action Fraud sef y ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn Yr Alban dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall i Heddlu'r Alban ar 101.

Related content