9 Mehefin 2022

David Willis i arwain gwaith Ofcom o reoli tonnau awyr y DU

Mae David Willis wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Grŵp, Spectrum, gan ddod â 30 mlynedd o brofiad ym maes technoleg a thelathrebu mewn llywodraeth a diwydiant i'r rôl.  Mae David yn ymuno ag Uwch Dîm Rheoli Ofcom.

Bydd yn ymuno ag Ofcom i oruchwylio ei Grŵp Sbectrwm, sy'n sicrhau bod sbectrwm di-wifr y DU – adnodd cenedlaethol meidraidd gwerthfawr – yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ac yn effeithiol.

Yn fwyaf diweddar, David oedd Llywydd y Ganolfan Ymchwil Cyfathrebu, canolfan ymchwil Llywodraeth Canada ar gyfer telathrebiadau di-wifr datblygedig, rheoli sbectrwm a helpu i wella gwasanaethau band eang i Ganada.

Cyn hyn, arweiniodd David y tîm Peirianneg a Chynllunio Sbectrwm mewn Innovation Science and Economic Development Canada. Yma, roedd ei waith yn cynnwys safonau sbectrwm rhyngwladol; peirianneg a chynllunio sbectrwm di-wifr; polisi, trwyddedu a chydgysylltu sbectrwm lloerenni; ac arwain y ddirprwyaeth o Ganada yng Nghynhadledd Radiogyfathrebu'r Byd 2019.

Mae David hefyd wedi bod mewn rolau arweinyddiaeth ym meysydd rheoli cynnyrch, gweithrediadau a pheirianneg gyda BlackBerry a Nortel Networks.

Mae tîm sbectrwm Ofcom yn cyflawni ystod eang o dasgau hanfodol i reoli'r tonnau awyr y mae pobl yn dibynnu arnynt. Mae miliynau o bobl yn defnyddio sbectrwm i gyfathrebu'n ddi-wifr bob dydd; o ffonau symudol i wi-fi ar gyfer cyfrifiaduron, monitorau babanod, gwasanaethau lloeren, gwasanaethau brys ac amddiffyn, awyrennau, setiau teledu a radios.

Mae'r tîm yn nodi pa donnau awyr sydd orau i’w defnyddio gan dechnolegau presennol a datblygol er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl a busnesau ledled y DU. Maent yn goruchwylio cynllun sbectrwm y DU, er mwyn sicrhau'r capasiti gorau posib ac osgoi ymyriant rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Ac maent yn trwyddedu sbectrwm i ddefnyddwyr unigol, yn ogystal â sicrhau bod pobl ond yn meddiannu dim ond y tonnau awyr y mae ganddynt hawl i'w defnyddio.

Mae Ofcom hefyd yn goruchwylio gwerthu neu ryddhau sbectrwm ar gyfer gwasanaethau newydd pwysig, megis gwasanaethau symudol 5G neu fapio’r hinsawdd, ac yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i safoni sut mae sbectrwm yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd.

Mae'n bleser cael ymuno ag Ofcom i arwain ei dîm profiadol ac arloesol o weithwyr proffesiynol ym maes rheoli sbectrwm. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Melanie a gweddill tîm Ofcom i gefnogi a galluogi'r gwasanaethau di-wifr sy'n hanfodol bwysig i'n bywydau.

- David Willis

Bydd David yn dod â chyfoeth o brofiad technoleg a rhagolwg rhyngwladol i rôl y Cyfarwyddwr Grŵp. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio ag ef.

- Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Diolchodd Melanie hefyd i Helen Hearn, uwch gyfarwyddwr sbectrwm Ofcom sydd wedi arwain y Grŵp Sbectrwm dros dro ers mis Ionawr. Bydd Helen yn parhau yn y rôl nes i David gyrraedd er mwyn sicrhau dilyniant.

Nid oedd modd i’r penodiad blaenorol, Dan Lloyd, ymgymryd â rôl y Cyfarwyddwr Grŵp, Spectrum am resymau teuluol.

Related content