10 Ionawr 2022

Penderfyniad Ofcom ynghylch sylwadau Dr Hilary Jones ar raglen Lorraine ar ITV

Mae Ofcom wedi rhoi cyfarwyddyd i ITV ar ôl iddo ddarlledu gwybodaeth anghywir a ddarparwyd gan Dr Hilary Jones ynghylch y gyfran o gleifion Covid-19 heb eu brechu mewn ysbytai.

Darlledwyd yr wybodaeth mewn pennod o Lorraine, am 9am ar 6 Rhagfyr 2021, ac fe ddenodd 3,833 o gwynion gan wylwyr. A ninnau wedi asesu'r cwynion hyn yn erbyn ein rheolau darlledu, rydym wedi penderfynu i beidio â lansio ymchwiliad ffurfiol, ond rydym wedi rhoi cyfarwyddyd i ITV.

Wrth gyrraedd ein penderfyniad, gwnaethom gymryd i ystyriaeth hefyd fod y rhaglen yn fyw ac y darlledwyd eglurhad ar 8 Rhagfyr. Bu i hyn ddarparu ffynhonnell yr ystadegyn, gan egluro ei fod yn ymwneud â chleifion sy'n derbyn y gofal mwyaf arbenigol mewn unedau gofal dwys, yn hytrach na'r gyfran o gleifion Covid-19 heb eu brechu mewn ysbytai.

Meddai llefarydd ar ran Ofcom: “Cyfeiriodd y rhaglen hon yn anghywir at y gyfran o gleifion Covid-19 heb eu brechu mewn ysbytai. Rydym wedi dweud wrth ITV y dylai arbenigwyr meddygol uchel eu parch fod yn fwy gofalus wrth gyflwyno ffeithiau a ffigurau ar faterion iechyd cyhoeddus.

“Er hynny, o ystyried i ystadegau swyddogol ac ymchwil ddangos yn gyson bod brechiad yn erbyn Covid-19 yn cynnig gwell amddiffyniad yn erbyn deilliannau iechyd difrifol, nid ydym yn ystyried yr oedd y diffyg hwn yn ddigonol i gamarwain gwylwyr yn faterol ar y prif bwynt trafod hwn.”

Ein hymagwedd at asesu cynnwys yn ystod pandemig y coronafeirws

Mae'n hanfodol bod modd i ddarlledwyr gyd-drafod materion allweddol yn ystod y pandemig Covid-19. Yn flaenorol rydym wedi cynghori darlledwyr i gymryd gofal wrth ddarlledu honiadau heb eu dilysu am y feirws – gan gynnwys datganiadau sy'n ceisio tanseilio cyngor cyrff iechyd cyhoeddus neu ffydd mewn ffynonellau gwybodaeth cywir.

Nid yw hyn yn golygu na all darlledwyr dynnu sylw at honiadau di-sail, darlledu safbwyntiau dadleuol, herio a beirniadu gwahanol bolisïau na chynnig barn sy'n gwyro oddi wrth y cyngor gan gyrff cyhoeddus. Ond mae'n rhaid iddynt fod yn ofalus i roi'r rhain yn eu cyd-destun wrth wneud hynny.

Mae rhyddid mynegiant yn rhan annatod o'n gwaith ac rydym yn cefnogi gallu darlledwyr i gyd-drafod y materion allweddol, dwyn y rhai sydd mewn grym i gyfrif, a sicrhau y gall gwylwyr a gwrandawyr ddibynnu ar wybodaeth gywir a chyfredol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am ein rôl yn diogelu cynulleidfaoedd a rhyddid mynegiant yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cael gwybod mwy am y Cod Darlledu a sut rydym yn asesu cwynion.

Related content