20 Mai 2022

Cyflymder rhyngrwyd uwch ar gael i helpu miliynau o aelwydydd yn y DU

Mae aelwydydd yn y DU sydd am gael band eang cyflymach yn y cartref wedi cael hwb i'w groesawu, gyda ffigurau newydd gan Ofcom yn datgelu y gall dau draean o gartrefi bellach dderbyn band eang gigabit.

Band eang Gigabit yw'r band eang cartref cyflymaf sydd ar gael ac mae'n cynnig cyflymder o 1 Gigabit yr eiliad o leiaf – sy'n eich galluogi i lawrlwytho ffilm manylder HD mewn llai na munud. Mae ffigurau diweddaraf Ofcom yn dangos bod y cyflymder hwn ar gael i 66% o holl gartrefi'r DU (19.3 miliwn) – i fyny o 37% yr adeg hon y llynedd.

Mae band eang ffeibr llawn, sy'n darparu'r rhyngrwyd gan ddefnyddio ceblau ffeibr optig yn hytrach na'r hen wifrau copr, hefyd wedi gweld cynnydd mawr yn ei argaeledd. Gall traean (33% - 9.6 miliwn) o'r holl gartrefi bellach gael pecynnau ffeibr llawn, sy'n cynnig rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy. Dyma gynnydd 21% o'i gymharu ag adroddiad mis Mai 2021.

Daw'r cynnydd hwn wrth i nifer o gwmnïau sy'n cystadlu â'i gilydd barhau i gyflwyno rhwydweithiau cyflymach ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd anodd eu cyrraedd, gyda'r nifer o safleoedd na allant gael cysylltiad digonol – sef cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad o leiaf a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad – bellach yn llai na 100,000.

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod yna lawer o bobl sy'n dal i brofi anhawster wrth gael cysylltiad. Mae'n bosib y bydd rhai yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth band eang cyffredinol, sy'n helpu pobl heb gyflymder digonol i gael cysylltiad.

Mae ein rheolau yn annog cwmnïau i fuddsoddi mewn gwella eu rhwydweithiau, ac erbyn hyn rydym yn gweld ras go iawn i gyflwyno rhyngrwyd cyflymach i bobl ar draws y DU. Ond nid oes angen i gyflymach olygu biliau mwy – mae pecynnau ffeibr llawn ar gael am tua £25 y mis, felly gallwch roi hwb i'ch band eang heb dalu crocbris.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom

Mae'r ffigurau heddiw hefyd yn dangos y rhagfynegir y bydd signal symudol 4G ar gael mewn tua 92% o fàs tir y DU – sef yr un peth â'n diweddariad diwethaf ym mis Rhagfyr. Ac er bod cwmnïau symudol yn dal i adeiladu eu rhwydweithiau 5G, mae ein ffigurau'n dangos bod darpariaeth 5G awyr agored ar gael gan o leiaf un darparwr i tua hanner o gartrefi'r DU.

Cyhoeddir y data hwn yn niweddariad gwanwyn Cysylltu'r Gwledydd Ofcom, sy'n rhoi cipolwg o argaeledd band eang a gwasanaethau symudol ledled y DU a'i gwledydd ym mis Ionawr eleni. Mae teclyn gwirio band eang a symudol Ofcom, sy'n eich galluogi i wirio pa ddarpariaeth sydd ar gael yn eich ardal, hefyd wedi'i diweddaru i gynnwys y ffigurau diweddaraf.

A gyda llawer o bobl yn ceisio arbed arian wrth i gostau byw godi, mae ein canllaw yn cynnig cyngor ar sut y gallwch ostwng cost eich biliau telathrebu.

Related content