9 Mawrth 2022

Pum thema o Mobile World Congress eleni

Roedd defnyddio technoleg i daclo newid yn yr hinsawdd, arloesedd 5G ac ehangiad y bydysawd meta i gyd yn brif themâu Mobile World Congress (MWC) eleni, a gynhaliwyd yn Barcelona yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r sioe flynyddol yn taflu goleuni ar y dechnoleg ddiweddaraf sy'n siapio'r diwydiant di-wifr – gan ddod ag arbenigwyr technoleg, gweithgynhyrchwyr blaenllaw y byd a'r rhai sy'n llunio polisi at ei gilydd. Ar ôl dwy flynedd o darfu ar ddigwyddiadau wyneb yn wyneb oherwydd y pandemig Covid-19, aeth dros 60,000 o bobl o bron i 200 o wledydd at Barcelona ar gyfer y digwyddiad eleni.

Roedd Sachin Jogia (Prif Swyddog Technoleg), Yih-Choung Teh (Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil) a Cristina Data (Cyfarwyddwr Polisi a Dadansoddi Sbectrwm) o Ofcom yn eu plith, a dyma'r hyn yr oeddent yn ei weld fel themâu pennaf yr wythnos:

Technoleg i daclo newid yn yr hinsawdd: Mae'r Rhyngrwyd Pethau a deallusrwydd artiffisial (AI) ymhlith y technolegau y gellid eu defnyddio i gywain data mwy graddadwy ar effaith newid yn yr hinsawdd, y gall diwydiannau wedyn ei defnyddio i helpu i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau. Roedd llawer hefyd yn gweld AI yn hanfodol i ostwng defnydd ynni rhwydweithiau .

Ehangu'r bydysawd meta: mae nifer o gwmnïau technoleg yn dechrau adeiladu presenoldeb mwy yn y bydysawd meta ac yn ymchwilio i sut y gall y byd rhithwir hwn fod o fudd i bobl a busnesau. Gwelwyd hyn yn MWC hefyd, lle nodwyd bod pwysigrwydd cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy ar draws gwledydd cyfan yn hanfodol i'w lwyddiant yn y dyfodol – o ystyried pa mor llwglyd o ran lled band fydd y cymwysiadau hyn.

Sachin and Yih-Choung at the Mobile World Congress 2022

Hunlun o Sachin Jogia (Prif Swyddog Technoleg) a Yih-Choung Teh (Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil) yn ystod wythnos brysur yn y Gynghres.

Datrysiadau digidol, i broblemau ffisegol: mae hyn yn cynnwys llwyfannau'n nodi ffyrdd o ddefnyddio 'gefeilliaid digidol' - fersiynau digidol o sefyllfaoedd bywyd go iawn, a all gael eu defnyddio i oresgyn heriau ffisegol megis diagnosio problemau gyda pheiriannau mawr neu hyd yn oed berfformio llawdriniaeth o bell. Mae'n galluogi arbenigwyr i ddatrys problemau o bell – hyd yn oed os ydynt miloedd o filltiroedd i ffwrdd ar draws cefnforoedd.

Defnydd o 5G yn y dyfodol: roedd cryn drafodaeth yn Barcelona am rwydweithiau 5G preifat - y gallai ffatrïoedd mawr a safleoedd diwydiannol eraill eu defnyddio ar gyfer eu gwasanaethau di-wifr eu hunain. Mae llawer yn disgwyl y bydd hyn yn tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'n debygol y caiff gwasanaethau eu cynnig gan rwydweithiau symudol a chwmnïau technoleg mawr. Ac mae mynediad at ddatrysiadau cwmwl ac ymyl yn gynyddol hanfodol i rwydweithiau, er mwyn cynnig mwy o gapasiti a gostwng oedi ar gysylltiadau pobl a busnesau.

OpenRAN ar agor: dangosodd arddangoswyr sut y gall technoleg OpenRAN – sy'n galluogi cwmnïau i adeiladu eu rhwydweithiau'n fwy hyblyg gan ddefnyddio darparwyr offer lluosog – helpu i arallgyfeirio cadwyni cyflenwi'r diwydiant. Bwrw golwg ar ein darn esboniadol am beth yw OpenRAN a pham mae'n bwysig i gael gwybod mwy.

Related content