30 Tachwedd 2022

Gill Whitehead i arwain rôl diogelwch ar-lein newydd Ofcom

  • Cyn weithredwr Google a Channel 4 yn ymuno fel Cyfarwyddwr Grŵp, Diogelwch Ar-lein
  • Ofcom yn paratoi ar gyfer dyletswyddau newydd i helpu greu bywyd mwy diogel ar-lein

Mae Gill Whitehead, cyn-weithredwr yn Google ac un o uwch arweinwyr byd data a thechnoleg y DU, yn ymuno ag Ofcom i oruchwylio ei dyletswyddau newydd fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.

Gill Whitehead

Bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein, sydd ar hyn o bryd gerbron Senedd y DU, yn rhoi cylch gwaith a phwerau i Ofcom i helpu greu bywyd mwy diogel ar-lein. Mae disgwyl i'r Mesur fynd yn gyfraith yn y gwanwyn, gan ddechrau cyfnod dwys o waith wrth i Ofcom sefydlu rheoliadau a fydd yn dwyn cwmnïau technoleg i gyfrif am flaenoriaethu diogelwch eu defnyddwyr.

Bydd Gill yn arwain Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom o fis Ebrill 2023, gan adrodd i'r Prif Weithredwr, y Fonesig Melanie Dawes. Mae Gill yn ymuno o'r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) lle, fel Prif Weithredwr, y bu iddi arwain arbenigedd digidol cyfunol y pedwar aelod-reoleiddiwr: yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom.

Mae'r DRCF yn gorff arloesol sy'n cydlynu gwaith rheoleiddwyr digidol yn gyfanwaith cydlynol, gan alluogi i'w aelodau gyfuno adnoddau ac ymateb yn gyflym i newidiadau yn y farchnad. Mae Gill wedi sefydlu'r DRCF fel ymagwedd flaenllaw yn y byd at weithredu rheoleiddio digidol.

Cyn arwain y DRCF, roedd Gill yn aelod o Grŵp Rheoli Google yn y DU, gan arwain timau arbenigol ym meysydd gwyddor data, dadansoddeg, mesur ac UX. Yn flaenorol, bu'n arwain swyddogaeth mewnwelediadau defnyddwyr a marchnadoedd Google ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Cyn ymuno â Google yn 2016, treuliodd Gill wyth mlynedd fel aelod o Dîm Gweithredol Channel 4, lle creodd ac arweiniodd adran strategaeth ddata a Thechnolegau a Mewnwelediad Cynulleidfaoedd y darlledwr.

Mae gan Gill radd Meistr o Athrofa Rhyngrwyd Prifysgol Rhydychen, ac mae hi'n dal rolau anweithredol gydag Informa a Chymdeithas Olympaidd Prydain. Mae hi'n Gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig gan iddi ddechrau ei gyrfa fel economegydd i Fanc Lloegr ac yna Deloitte.

“Mae bod ar-lein yn creu manteision enfawr, ond ar hyn o bryd mae hefyd yn creu risg. Dros amser gallwn gyflawni bywyd mwy diogel ar-lein i bawb, ac rwy'n edmygu pa mor gyflym y mae Ofcom wedi datblygu ei sgiliau a dod â doniau i mewn o bob cwr o'r sector technoleg. Bydd yn fraint fawr i mi arwain y timau hynny.”

Gill Whitehead

“Mae Gill yn apwyntiad gwych i Ofcom, wrth i ni baratoi i ymgymryd â'n dyletswyddau diogelwch ar-lein yn y gwanwyn. Daw â phrofiad o arweinyddiaeth arbenigol ym maes data a thechnoleg, sy'n rhychwantu'r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys rolau uwch yn un o gwmnïau technoleg mwyaf y byd.

“Mae Ofcom yn parhau â'i pharatoadau drwy hurio mwy o arbenigwyr technoleg a data, a datblygu ein hymagwedd at orfodi'r cyfreithiau newydd hyn.

“Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Kevin Bakhurst, ein Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein, sydd wedi arwain ein paratoadau diogelwch ar-lein mor effeithiol tan nawr. Bydd Kevin yn parhau yn ei swydd bresennol tan yn gynnar y flwyddyn nesaf, cyn dychwelyd i arwain gwaith darlledu Ofcom.”

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Related content