7 Ionawr 2022

Sut y gall technoleg eich helpu i drechu'r sgamwyr

Mae yna gamau y gallwn eu cymryd i ddiogelu ein hunain yn erbyn sgamiau, neu i roi gwybod amdanynt os byddwn yn cael cam o ganlyniad i un.

Ond pa atebion technegol sydd ar gael i'n helpu i ddelio â'r bygythiad a berir gan sgamwyr?

Mae mesurau yn eu lle a all helpu i ostwng y risg o sgamiau.

Yn achos defnyddwyr ffonau symudol, gellir defnyddio nodweddion naill ai ar eich ffôn neu ar y rhwydwaith ffonau symudol i ostwng y risg o negeseuon sgam neu ddrwgwedd. Efallai bod rhai o'r rhain wedi'u gosod ymlaen llaw neu eu rheoli gan weithredwr eich rhwydwaith, a gallwch chi eich hunain roi rhai eraill ar waith.

Os ydych yn ansicr a yw'r atebion hyn ar gael i chi, neu i gael mwy o wybodaeth am sut maent yn gweithio, dylech gysylltu â'ch darparwr symudol neu ffôn cartref yn y lle cyntaf. Dylen nhw fedru rhoi mwy o wybodaeth i chi am ba fesurau technegol all gael eu rhoi ar waith i'ch diogelu chi.

Taclo galwadau sgam

Yn achos galwadau dieisiau ar eich ffôn cartref neu symudol, mae yna rai mesurau technegol a all fod o gymorth hefyd.

  • Nodi a rhwystro galwadau o rifau annilys
    O dan ein rheolau, mae'n ofynnol i ddarparwyr nodi galwadau sydd â rhifau annilys neu rifau nad oes modd eu deialu fel eu rhif adnabod y galwr, a rhwystro'r galwadau hyn.
  • Rhwystro galwadau
    Ar rai setiau ffôn cartref mae technoleg rhwystro galwadau wedi'i gosod ymlaen llaw, neu gallwch brynu dyfais rhwystro galwadau all gael ei chysylltu â'r llinell dir.
  • Sgrinio galwadau
    Mae rhai cwmnïau telathrebu'n cynnig gwasanaethau sgrinio galwadau i'w cwsmeriaid ffôn cartref. Fodd bynnag, mae'n rhaid gofyn am ddefnyddio'r gwasanaethau hyn, felly gofynnwch i'ch darparwr ai dyma rywbeth sydd ar gael i chi.
  • Apiau symudol
    Mae yna apiau sy'n helpu defnyddwyr i nodi a hidlo'r galwadau y maent yn eu derbyn ar y ffôn symudol. Gan ddibynnu ar y gweithgynhyrchwr, mae rhai o'r apiau hyn wedi'u gosod ymlaen llaw ar setiau ffôn symudol. Gall y defnyddiwr lawrlwytho rhai apiau eraill o'u stordy apiau. Bydd y broses ar gyfer gosod y rhain yn amrywio gan ddibynnu ar eich ffôn a'i weithgynhyrchwr; gweler y canllaw defnyddiwr am fwy o fanylion.

Taclo negeseuon sgam

Ar eich ffôn symudol

  • Mesurau diogelu yn erbyn sbam sy'n rhan o'r ap negeseua Mae gan rai ffonau apiau negeseua a all anfon negeseuon maleisus i ffolder sothach yn awtomatig.
  • Apiau gwrth-ddrwgwedd Weithiau mae'r fath apiau hyn wedi'u gosod ymlaen llaw ar eich ffôn; gyda rhai eraill efallai y bydd angen i chi osod nhw eich hun. I ddefnyddwyr Android, mae Play Protect wedi'i alluogi'n ddiofyn      ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau Android - mae'n rhybuddio defnyddwyr os byddant yn ceisio lawrlwytho apiau twyllodrus. Nid yw hyn yn gymaint o broblem gyda dyfeisiau Apple gan nad ydyn nhw'n caniatáu gosod apiau o'r tu allan i'w App Store.
  • Diogelu'r porwr
    Mae gwasanaethau diogelu'r porwr, megis Google Safe Browsing a Microsoft Defender, yn rhybuddio defnyddwyr pan fyddant yn ceisio llywio i wefannau peryglus neu lawrlwytho ffeiliau peryglus ar borwyr Chrome neu Firefox.

Ar y rhwydwaith symudol, dan reolaeth eich darparwr rhwydwaith

  • Diagnosteg rhwydwaith
    Mae offer diagnosteg y rhwydwaith yn helpu i nodi gweithgarwch amheus, er enghraifft os anfonir nifer fawr o negeseuon SMS gan rif ffôn penodol o fewn cyfnod amser penodol.
  • Cyfyngiadau ar negeseuon testun am ddim
    Mae rhai rhwydweithiau ffonau symudol yn gosod cyfyngiadau ar y nifer o rwydweithiau SMS diderfyn am ddim sydd wedi'u cynnwys gyda bwndeli negeseuon testun, gan fod hyn yn ddull a ddefnyddir weithiau gan sgamwyr i anfon llawer o negeseuon at ddioddefwyr posib.
  • Rhwystro gwefannau amheus
    Mae rhai darparwyr  yn rhwystro mynediad i wefannau amheus neu dwyllodrus i ddiogelu eu cwsmeriaid.

Related content