21 Gorffennaf 2022

Instagram, TikTok a YouTube yw'r brif ffynhonnell newyddion i bobl ifanc

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn y DU yn troi i ffwrdd o sianeli newyddion traddodiadol ac yn hytrach yn edrych ar Instagram, TikTok a YouTube i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, yn ôl canfyddiadau gan Ofcom.

Mae adroddiad Cael Gafael ar Newyddion yn y DU Ofcom 2021/22 yn dangos mai Instagram, am y tro cyntaf, yw'r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau – gan gael ei ddefnyddio gan bron i dri o bob deg yn 2022 (29%). Roedd TikTok a YouTube yn agos ar ei ôl, gan gael eu defnyddio gan 28% o bobl ifanc i ddilyn newyddion.

Y 10 ffynhonnell newyddion orau ymhlith pobl ifanc 12-15 oed

Mae BBC One a BBC Two – y ffynonellau newyddion mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau yn hanesyddol – wedi cael eu bwrw o'r brig i lawr i'r pumed safle. Mae tua chwarter y bobl ifanc yn eu harddegau (24%) yn defnyddio'r sianelau hyn ar gyfer newyddion yn 2022, o'i gymharu â bron i hanner (45%) bum mlynedd yn ôl.[1]

BBC One yw'r ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf o hyd ymhlith yr holl oedolion ar-lein, er ei bod yn un o sawl sianel newyddion teledu fawr sy'n cyrraedd llai o bobl yn 2022.[2] Mae gwylio newyddion ar BBC One, BBC Two, BBC News Channel, ITV a Sky News bellach yn is na lefelau cyn y pandemig, gan ddychwelyd i ddirywiad tymor hwy mewn gwylio newyddion teledu traddodiadol.

TikTok yn denu miliynau yn fwy o ddefnyddwyr newyddion

I'r gwrthwyneb i hynny, mae TikTok wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y defnydd o unrhyw ffynhonnell newyddion rhwng 2020 a 2022 – gan gynyddu o 0.8 miliwn o oedolion yn y DU yn 2020 (1%) i 3.9 miliwn yn 2022 (7%).[3] Mae hyn yn golygu ei fod ar yr un lefel â gwefan ac ap Sky News.

Mae twf TikTok wedi'i yrru'n bennaf gan grwpiau oedran iau, gyda hanner ei ddefnyddwyr newyddion rhwng 16 a 24 oed. Mae defnyddwyr TikTok ar gyfer newyddion yn honni eu bod yn cael mwy o'u newyddion ar y llwyfan gan 'bobl eraill y maent yn eu dilyn' (44%) na chan 'sefydliadau newyddion' (24%). [4]

Mae pobl ifanc yn eu harddegau heddiw yn fwyfwy annhebygol o godi papur newydd neu droi Newyddion Teledu ymlaen, yn hytrach mae'n well ganddynt ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf wrth sgrolio drwy eu ffrydiau cymdeithasol.

Ac er bod pobl ifanc yn gweld bod newyddion ar gyfryngau cymdeithasol yn llai dibynadwy, maen nhw'n graddio'r gwasanaethau hyn yn fwy uchel am gyflwyno amrywiaeth o safbwyntiau ar faterion cyfoes.

Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grwp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom

Mae newyddion teledu yn parhau i fod yn uchel ei barch

Newyddion teledu yw'r ffynhonnell newyddion yr ymddiriedir fwyaf ynddi o hyd ymhlith oedolion y DU (71%), gyda newyddion ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei ystyried y lleiaf dibynadwy (35%). Ymddiriedir yn fawr yn CNN (83%) a Sky News (75%) gan eu gwylwyr am newyddion, tra bod y rhan fwyaf o wylwyr y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hefyd yn ymddiried ynddynt – BBC (73%), ITV (70%), Channel 4 (66%) a Channel 5 (59%). Mae chwe deg saith y cant o wylwyr y newydd-ddyfodiad GB News yn ymddiried yn ei adroddiadau newyddion.

Ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, mae hanner o ddefnyddwyr YouTube a Twitter yn credu eu bod yn darparu straeon newyddion dibynadwy (51% a 52% yn y drefn honno). Er gwaethaf ei boblogrwydd ar gyfer newyddion, mae llai na thraean o bobl ifanc (30%) yn ymddiried yng nghynnwys newyddion TikTok.

Mae'r dirywiad mewn newyddion printiedig i'w weld yn cyflymu

Y defnydd cyfunol o bapurau newydd printiedig ac ar-lein ymhlith oedolion yw 38% yn 2022, gostyngiad sylweddol o 2020 (47%) a 2018 (51%).

Mae hyn wedi'i ysgogi gan y gostyngiad sylweddol yng nghyrhaeddiad papurau newydd printiedig yn ystod y blynyddoedddiwethaf, gyda'r duedd a welwyd cyn y pandemig i'w gweld yn cyflymu. Mae'n debygol bod hyn wedi'i waethygu gan y pandemig. Mae llai na chwarter (24%) o oedolion y DU yn cael eu newyddion o bapurau newydd printiedig yn 2022, o'i gymharu â mwy na thraean (35%) yn 2020, a dau o bob pump (40%) yn 2018. Gostyngodd y defnydd o bapurau newydd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau o 19% i 13% dros y pum mlynedd diwethaf.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae cyfran y bobl ifanc yn eu harddegau sy'n defnyddio Facebook ar gyfer newyddion hefyd wedi gostwng i 22% o 27% y llynedd, ac o 34% yn 2018.
  2. Mae data BARB yn cadarnhau'r duedd hon
  3. Rydym yn amcangyfrif y bu i 0.8 miliwn (+/-200,000) ddefnyddio TikTok fel ffynhonnell newyddion yn 2020 gan gynyddu i 3.9 miliwn (+/-700,000) yn 2022 yn seiliedig ar ddata o'r Arolwg Cael Gafael ar Newyddion ymysg oedolion (honnodd 7% o oedolion 16+ oed eu bod yn defnyddio TikTok ar gyfer newyddion yn 2022, i fyny o 1% yn 2020). Adroddir ar yr holl amcangyfrifon poblogaeth a gynhyrchir i'r 100,000 agosaf, gan defnyddio amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
  4. Mae pobl sy'n defnyddio TikTok ar gyfer newyddion yn honni iddynt gael tua chwarter ohono gan sefydliadau newyddion ar y llwyfan. Mae'n debygol bod hyn yn cynnwys deunydd gan ddarlledwyr y maent yn eu dilyn fel y BBC, ITV a Sky News, sydd i gyd wedi lansio sianeli TikTok ar gyfer newyddion.

Related content