31 Mawrth 2022

Ofcom yn diarddel trwydded KTV gan ddilyn tor rheolau darlledu difrifol

Heddiw, mae Ofcom wedi diarddel trwydded Khalsa Television Limited (PDF, 279.9 KB) i ddarlledu ar ôl i ymchwiliad nodi bod y sianel KTV wedi torri rheolau darlledu (PDF, 695.9 KB).

Mae sianel deledu KTV yn darlledu i'r gymuned Sikh yn y Deyrnas Unedig. Canfu ein hymchwiliad fod Prime Time, rhaglen drafod fyw 95 munud, yn cynnwys deunydd sy'n debygol o annog trais.

Gwnaeth cyflwynydd y rhaglen nifer o ddatganiadau drwy gydol y rhaglen a oedd, gyda'i gilydd, yn hyrwyddo gweithredu treisgar, gan gynnwys llofruddiaeth, fel dull gweithredu derbyniol ac angenrheidiol er mwyn hyrwyddo'r achos Khalistanaidd. Bu i hyn dorri ein rheolau ar annog trosedd ac anhrefn yn ddifrifol.

O ystyried natur ddifrifol y toriad hwn, ac am y rhesymau a nodir yn ein hysbysiad diarddel, rydym heddiw yn diarddel trwydded Khalsa Television Limited i ddarlledu yn y DU, yn effeithiol ar unwaith.

Yn awr, mae gan Khalsa Television Limited 21 diwrnod i wneud cynrychioliadau i Ofcom. Gan ddilyn y broses hon, byddwn yn penderfynu a ddylid dirymu trwydded Khalsa Television Limited.

Related content