30 Mawrth 2022

Byw ein bywydau ar-lein – y tueddiadau pennaf yn ymchwil ddiweddaraf Ofcom

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf i sut mae oedolion a phlant yn y DU yn defnyddio ac yn deall cyfryngau.

Mae'n amlygu amrywiaeth o ganfyddiadau sy'n cynnig mewnwelediad i brofiadau pobl yn y DU o ddod o hyd i wybodaeth o wahanol ffynonellau cyfryngau ar-lein a'i defnyddio. Un canfyddiad pwysig yw bod un o bob tri defnyddiwr rhyngrwyd yn methu â nodi gwybodaeth anghywir y maent yn dod ar ei thraws ar-lein. a bod un o bob ugain yn credu popeth a welant ar-lein.

Ond gwnaethom hefyd ddatgelu themâu eraill sy'n ein helpu i ddeall ymddygiad ac agweddau oedolion a phobl ifanc yn y DU pan fyddant ar-lein. Dyma rai o'r tueddiadau pennaf o'n hymchwil.

1. Mae plant yn byw bywydau cudd ar gyfryngau cymdeithasol

Mae'n bosib bod llawer o blant fod yn defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol preifat – fel 'Finstas', cyfrifon Instagram ffug nad yw eu rhieni'n gwybod amdanynt - i guddio agweddau ar eu bywydau ar-lein. Roedd gan ddau draean o blant 8 i 11 oed gyfrifon neu broffiliau lluosog, ac mae gan bron i hanner o'r rhain gyfrif i'w teulu ei weld yn unig.

Cyfaddefodd mwy na thraean o blant (35%) hefyd iddynt ymwneud ag ymddygiadau sydd o bosib yn beryglus, a allai rwystro rhiant neu warcheidwad rhag medru gwirio eu defnydd ar-lein yn iawn. Roedd un o bob pump yn defnyddio'r modd incognito neu'n dileu eu hanes pori, a dywedodd un o bob 20 o blant eu bod yn trechu'r mesurau yr oedd eu rhieni wedi'u rhoi ar waith er mwyn mynd ar apiau a gwefannau penodol.

Mae gen i fy [TikTok] fy hun ond dydw i ddim yn postio arno mwyach. Mae'n gyfrif preifat nad oes neb yn fy nilyn i arno.

Bachgen, 12 oed 

2. Mae defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn gynyddol yn sgrolwyr, yn hytrach na chyfranwyr

Mae plant yn gweld llai o gynnwys fideo ar-lein gan ffrindiau, gyda'u ffrydiau'n cael eu dominyddu gan gynnwys proffesiynol o frandiau, enwogion a dylanwadwyr. Mae'n ymddangos bod y cynnwys slic hwn yn annog tuedd tuag at sgrolio yn hytrach na rhannu, gydag oedolion a phlant ill dau dair gwaith yn fwy tebygol o wylio fideos ar-lein na phostio eu cynnwys fideos eu hunain.

Rydych chi'n gweld yr holl ddylanwadwyr hyn sydd â miliynau o ddilynwyr ac sy'n cael eu dilysu, ac rydych chi'n meddwl, o 'dw i eisiau hynny.

Ond mewn gwirionedd dydw i ddim yn poeni llawer mwyach achos fel unrhyw beth rydych chi'n ei wneud, os ydych chi'n fawreddog ac yn enwog, rydych chi'n cael llawer mwy o gasineb na hoffter a dilynwyr a phethau.

Merch, 10 oed.

3. Cynnydd yn y ‘TikTots’ - plant sy'n herio cyfyngiadau oedran i ddefnyddio llwyfannau cymdeithasol

Er eu bod o dan y terfyn oedran i ddefnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol (sef 13 ar gyfer y rhan fwyaf o lwyfannau), dywedodd traean o rieni i blant 5-7 oed a dwy ran o dair o rieni i blant 8-11 oed fod gan eu plant broffiliau cyfryngau cymdeithasol. Roedd plant hŷn yn fwyaf tebygol o fod â phroffil ar Instagram, tra bod plant 8 i 11 oed yn fwy tebygol o gael proffiliau ar TikTok a YouTube.

Does gen i ddim syniad pam mae cyfyngiad gan Instagram. Gallwn ei gael yn eithaf ifanc achos y gallwn i wneud cyfrif preifat... Ar gyfer TikTok a Snapchat rwy'n meddwl y gwnes i roi pen-blwydd ffug oherwydd i mi gael defnyddio fe.

Merch, 12 oed

4. Bod ar-lein er lles – ac ymgyrchu

Dywedodd plant wrthym eu bod nhw'n teimlo'n gadarnhaol am fanteision bod ar-lein, ac mae llawer yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel grym er daioni. Mae dros hanner y bobl ifanc 13–17 oed yn teimlo ei fod yn dda i'w hiechyd meddwl i fod ar-lein, ond roedd un o bob pump yn anghytuno.

Mae wyth o bob deg o bobl ifanc 13-17 oed yn defnyddio gwasanaethau ar-lein i gefnogi eu lles personol. Dywedodd chwarter eu bod wedi dysgu am fwyta'n iach ar-lein, neu wedi dod o hyd i gymorth gyda materion fel perthnasoedd a glasoed. Dywedodd un o bob pump iddynt ddefnyddio'r rhyngrwyd i ddilyn rhaglenni ffitrwydd a thracwyr iechyd, neu i gael cymorth pan oeddent yn teimlo'n drist, yn orbryderus neu'n ofidus. Yn yr un modd, aeth tuag un o bob 10 ar-lein i helpu gyda materion cysgu, i fyfyrio, neu i'w helpu i deimlo'n egnïol.

Mae ymgyrchu hefyd yn cyfrif am gyfran o weithgarwch pobl ifanc ar-lein. Mae bron i chwarter y bobl ifanc yn eu harddegau yn dilyn proffiliau actifyddion neu ymgyrchwyr, mae un o bob pump yn ysgrifennu postiadau i gefnogi achosion, ac mae mwy nag un o bob 10 yn dilyn pleidiau neu grwpiau ymgyrchu gwleidyddol.

“[Rwyf am] godi ymwybyddiaeth achos rwy'n nabod llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol o bethau o gwbl. Nid gorfodi yr ydw i... ond cyn belled â bod pobl yn gwybod... wedyn byddan nhw'n gwybod.”

Merch, 17 oed

Darllen mwy am y tueddiadau hyn a rhai eraill yn ein hadroddiadau ymwybyddiaeth plant ac oedolion o'r cyfryngau.

Darllen hefyd...