18 Gorffennaf 2022

Ofcom yn canfod bod RT wedi torri rheolau didueddrwydd dyladwy

Mae Ofcom wedi canfod heddiw fod darllediadau newyddion a materion cyfoes RT yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi torri rheolau didueddrwydd dyladwy ar 29 achlysur mewn pedwar diwrnod (PDF, 3.5 MB).

Wrth ymdrin â materion o bwys fel rhyfeloedd neu ardaloedd lle mae gwrthdaro (yn yr achosion hyn, yn benodol y gwrthdaro parhaus yn rhanbarth Donbas), mae'n rhaid i holl drwyddedeion Ofcom gydymffurfio â'r gofynion didueddrwydd penodol yn ein Cod Darlledu. Mae'r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarlledwyr gymryd camau ychwanegol i gynnal didueddrwydd dyladwy – a hynny drwy gynnwys a rhoi sylw dyledus i ystod eang o safbwyntiau arwyddocaol.

Mae'n rhaid i raglenni newyddion fedru adrodd ar faterion dadleuol a chymryd safbwynt ar y materion hynny, hyd yn oed os yw'r safbwynt hwnnw yn feirniadol iawn. Ond mae gofynion didueddrwydd dyladwy ym maes darlledu yn arbennig o bwysig mewn sefyllfaoedd pan fo digwyddiadau'n newid yn gyflym a bod camwybodaeth a allai fod yn niweidiol ar gael ar-lein.

Ein hymchwiliadau

Bu i ni lansio 29 o ymchwiliadau i RT gan ddilyn cwynion gan wylwyr ac yn sgil gwaith monitro Ofcom ei hun o'r sianel. Archwiliodd ein hymchwiliadau ddiduedd dyladwy 15 o fwletinau RT News ar 27 Chwefror 2022, 12 ar 1 Mawrth 2022, ac un ar 2 Mawrth 2022 yn ogystal â'r rhaglen ddogfen Donbass Yesterday, Today and Tomorrow a ailddarlledwyd ar 1 a 2 Mawrth 2022.

Ym mhob achos, bu i ni weld bod ymdriniaeth RT wedi methu â chynnal didueddrwydd dyladwy mewn perthynas â'r gwrthdaro yn rhanbarth Donbas o Wcráin. Mae Ofcom o'r farn y bu'r holl dor rheolau hyn yn ddifrifol ac wedi'u hailadrodd, ac felly rydym yn bwriadu ystyried gosod sancsiynau statudol.

Dirymu trwydded

Nid yw RT bellach yn darlledu yn y DU. Ar 18 Mawrth 2022, dirymodd Ofcom drwydded ddarlledu RT ar y sail nad oeddem yn ystyried bod trwyddedai RT, ANO TV Novosti, yn addas ac yn briodol i'w dal.

Related content