28 Chwefror 2022

Ofcom yn lansio 15 ymchwiliad newydd i RT

Mae Ofcom heddiw wedi lansio 15 ymchwiliad newydd i ddidueddrwydd dyladwy rhaglenni newyddion a ddarlledir ar sianel newyddion RT.

Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y rhaglenni ar y gwasanaeth RT sy'n gwarantu ymchwiliad o dan ein Cod Darlledu.

Wrth ddelio â materion pwysig, megis argyfwng Wcráin, rhaid i holl drwyddedau Ofcom gydymffurfio â'r gofynion didueddrwydd arbennig yn ein Cod. Mae'r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarlledwyr gymryd camau ychwanegol er mwyn cadw didueddrwydd dyladwy - sef drwy gynnwys a rhoi sylw dyledus i ystod eang o safbwyntiau arwyddocaol.

Bydd yr ymchwiliadau hyn – sy’n ymwneud â 15 pennod o’r rhaglen newyddion bob awr a ddarlledwyd ar RT ar 27 Chwefror 2022 rhwng 05:00 a 19:00 – yn cael eu cyflymu, o ystyried difrifoldeb a natur brys yr argyfwng presennol. Rydym yn disgwyl cydweithrediad llawn gan RT.

Mae’r trwyddedau ar gyfer gwasanaeth RT yn cael eu dal gan ANO TV Novosti.

Sylwadau Prif Weithredwr Ofcom, Melanie Dawes, ar gyhoeddiad heddiw:

O ystyried maint a difrifoldeb yr argyfwng yn Wcráin, mae cynulleidfaoedd yn disgwyl gallu ymddiried a dibynnu ar newyddion darlledu diduedd.

Wrth adrodd am wrthdaro arfog, rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd i ddarlledwyr wirio gwybodaeth a ffeithiau, ond mae'n hanfodol eu bod yn gwneud pob ymdrech i wneud hynny. Rhaid iddynt hefyd esbonio'n glir i gynulleidfaoedd lle mae ansicrwydd neu lle mae anghydfod ynghylch digwyddiadau.

Mae cefnogi cyfryngau teg a rhydd yn ganolog i waith Ofcom. Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn -a’n dyletswydd i amddiffyn cynulleidfaoedd yn ddifrifol iawn.  Mae rhyddid mynegiant yn gonglfaen i'n dull gweithredu ac yn hanfodol i’n democratiaeth.

O ystyried y sefyllfa ddifrifol barhaus yn Wcráin, byddwn yn cwblhau ein hymchwiliadau i RT fel mater o frys.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Related content