1 Rhagfyr 2022

Ofcom yn craffu tryloywder codi prisiau gwasanaethau telathrebu

  • Cwynion yn awgrymu efallai na fu cwmnïau ffôn a band eang yn ddigon tryloyw ynghylch codi prisiau o fewn y contract
  • Bydd cynllun gorfodi newydd yn craffu arferion gwerthu darparwyr a gwybodaeth am gontractau cwsmeriaid
  • Adroddiad tueddiadau prisio'n rhoi cyngor gwerthfawr ar sut i arbed arian yn erbyn cefndir o gostau sy'n codi

Heddiw mae Ofcom wedi lansio rhaglen gorfodi ar draws y diwydiant i ba un a oedd cynnydd mewn prisiau yng nghanol contractau wedi'u hamlygu'n ddigon clir gan gwmnïau ffôn a band eang cyn i gwsmeriaid ymrwymo iddynt.

A ninnau wedi dadansoddi cwynion gan gwsmeriaid a thystiolaeth ragarweiniol arall, mae gennym bryderon efallai nad yw defnyddwyr a ymrwymodd i gontractau rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022 wedi cael gwybodaeth ddigon clir am gynnydd mewn-contract mewn prisiau, sydd fel arfer yn cael eu cymhwyso ym mis Mawrth neu fis Ebrill bob blwyddyn.

O dan ein rheolau, dros y cyfnod hwnnw, os bu i ddarparwr gynnwys cynnydd posib mewn prisiau yn y dyfodol yn nhelerau'r contract, bu'n rhaid eu nodi'n amlwg ac yn dryloyw ar y pwynt gwerthu. Os nad oedd y cwsmer wedi cytuno i'r telerau hynny wrth ymrwymo - gan nad oeddent yn ddigon amlwg a thryloyw - dylai darparwyr fod wedi eu hysbysu am y cynnydd yn y pris a chynnig hawl iddynt adael y contract heb gosb.[1]

Felly mae Ofcom bellach yn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd yn ymarferol. Byddwn yn cywain gwybodaeth bellach gan amrywiaeth o ddarparwyr i asesu'r camau a gymerwyd ganddynt i wneud y telerau hyn yn amlwg ac yn dryloyw.

Os byddwn yn nodi materion penodol o ran cydymffurfiaeth, mae'n bosib y byddwn yn lansio ymchwiliadau ar wahân i gwmnïau unigol.

Gan fod miliynau o bobl yn gorfod delio gyda biliau aelwyd esgynnol, mae'n bwysicach nag erioed nad yw cwmnïau telathrebu'n esgeuluso eu cyfrifoldebau a'u bod yn rhoi gwybodaeth gyflawn i gwsmeriaid ynglŷn â'r hyn y maent yn ymrwymo iddo.

“Mae'n hanfodol bod pobl yn cael gwybod o'r cychwyn cyntaf am unrhyw gynnydd mewn prisiau y byddant yn eu hwynebu pan fyddant mewn contract, ac rydym yn ymchwilio i weld a yw hyn wedi digwydd yn ymarferol.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

Cyfri'r costau

Wrth i chwyddiant gyrraedd ei lefel uchaf ers 40 mlynedd yn 2022, mae rhai cwsmeriaid wedi gweld cynnydd mawr mewn prisiau eleni. Mae traciwr fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu diweddaraf Ofcom, sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, yn datgelu bod 9.1 miliwn o aelwydydd yn y DU (32%) yn profi anhawster wrth dalu eu biliau ffôn, band eang, teledu-drwy-dalu a ffrydio. Mae hynny'n fwy na dwbl y lefel ym mis Ebrill 2021.

Mae ein hastudiaeth hefyd yn dangos bod 17% o aelwydydd bellach yn torri'n ôl ar wariant arall, fel bwyd a dillad, er mwyn fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu. Mae hynny'n gynnydd o 4% ym mis Mehefin 2021.

Selio'r fargen

Wrth i bobl weld eu costau byw yn codi, byddant yn ceisio cael y gwerth gorau o'u gwasanaethau telathrebu. Yn ôl adroddiad Tueddiadau Prisio Ofcom, sy'n cwmpasu prisiau band eang, symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu, mae bargeinion gwerth da ar gael o hyd i'r rheini sy'n siopa o gwmpas.

Er enghraifft, gall llawer o gwsmeriaid y tu allan i'r contract arbed arian drwy newid darparwr neu gael cytundeb newydd gyda'u darparwr presennol.

Mae cwsmeriaid band eang y tu allan i gontract sy'n ei brynu ar ei ben ei hun neu gyda gwasanaeth llinell dir yn talu tua £100 y flwyddyn yn fwy na chwsmeriaid mewn contract ar gyfartaledd. Mae'r rhai sy'n talu am fand eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu mewn bwndeli'n talu dros £200 y flwyddyn yn fwy, ar gyfartaledd, os ydyn nhw allan o gontract.

Er mwyn helpu pobl i siopa o gwmpas, mae rheolau Ofcom yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr ddweud wrth gwsmeriaid pan fyddan nhw'n dod yn agos at ddiwedd eu contract. Mae'n rhaid i hyn gynnwys manylion am unrhyw gynnydd mewn prisiau, yn ogystal â beth yw eu cynigion gorau.

Ar hyn o bryd, gallai pobl arbed arian drwy gyd-drafod contract newydd gyda'u darparwr presennol - neu symud i un newydd. Ac mae miliynau o aelwydydd eisoes allan o gontract a allai wneud hyn heddiw.

Mae gan Ofcom hefyd reolau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau telathrebu drin cwsmeriaid sy'n fregus yn ariannol yn deg. Gall pobl sy'n ei chael hi'n anodd fforddio eu biliau telathrebu gysylltu â'u darparwr am gymorth. Gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau gallai hyn olygu newid i becyn band eang rhatach neu dariff cymdeithasol - sydd fel arfer yn costio rhwng £12 ac £20 y mis - yn ogystal â gwyliau taliadau neu ohirio taliadau.

Nodiadau i olygyddion

  1. Ers 17 Mehefin 2022, mae rheolau newydd ac wedi'u cryfhau wedi bod mewn grym sy'n mynnu bod cwmnïau telathrebu'n rhoi gwybodaeth fwy clir a syml i gwsmeriaid cyn iddynt ymrwymo i fargen newydd. Rydym hefyd wedi cyflwyno arweiniad sy'n esbonio y dylai darparwyr gynnwys enghreifftiau clir o sut y bydd unrhyw gynnydd mewn prisiau'n effeithio ar y pris maen nhw'n ei dalu. Mae rhai darparwyr yn cynnig cytundebau sy'n cynnwys cynnydd mewn prisiau gysylltiedig â chwyddiant sy'n dod i rym yn ystod y contract. Dylai cwmnïau sy'n defnyddio'r cyfrifiad hwn ddarparu enghraifft syml i gwsmer o sut mae hyn yn debygol o effeithio ar y pris y byddant yn ei dalu. Os yw'r cynnydd yn defnyddio mynegai chwyddiant fel CPI neu RPI, yna dylai darparwyr ddefnyddio'r ffigur diweddaraf er enghraifft.
  2. Gall cwsmeriaid unigol sy'n credu na chafodd telerau ar gyfer codi prisiau contract eu hesbonio'n glir iddynt wrth iddynt ymrwymo i'w cytundeb, y mae'r darparwr wedi'u gorfodi ers hynny, gwyno i'w darparwr. Os bydd cwyn yn cyrraedd y cam anghydfod llwyr neu os na chaiff ei datrys ar ôl 8 wythnos, gall y cwsmer fynd â'u cwyn i gynllun Datrys Anghydfod Amgen (ADR). Mae mwy o wybodaeth am gynlluniau ADR ar gael yma.

Related content