21 Hydref 2022

Ofcom yn cynnig arweiniad niwtraliaeth y we newydd

Mae Ofcom heddiw wedi cynnig diwygio ei harweiniad ar sut y dylid cymhwyso'r rheolau 'niwtraliaeth y we' yn y DU. Daw hyn yn sgil cyhoeddi ein rhaglen waith newydd i sicrhau bod marchnadoedd cyfathrebiadau digidol yn gweithio'n dda i bobl a busnesau yn y DU.

Mae Ofcom yn gyfrifol am fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau niwtraliaeth y we a darparu arweiniad ar sut y dylai darparwyr band eang a symudol eu dilyn. Mae'r rheolau eu hunain wedi'u gosod allan mewn deddfwriaeth, a byddai unrhyw newidiadau i'r gyfraith yn fater i Lywodraeth a Senedd y DU.

Egwyddor niwtraliaeth y we yw bod gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd - nid eu darparwr band eang neu symudol - reolaeth dros yr hyn y maent yn ei wneud ar-lein. Mae niwtraliaeth y we wedi chwarae rôl hollbwysig wrth alluogi pobl i gael mynediad at y cynnwys a'r gwasanaethau y maent eu heisiau, a galluogi perchnogion cynnwys ac apiau i gyrraedd cwsmeriaid ar-lein.

Ers i'r rheolau presennol gael eu rhoi ar waith yn 2016, bu datblygiadau arwyddocaol yn y byd ar-lein - gan gynnwys ymchwydd yn y galw am gapasiti, nifer o ddarparwyr cynnwys mawrion fel Netflix ac Amazon Prime yn dod i'r amlwg, ac esblygiad mewn technoleg gan gynnwys cyflwyno 5G. Felly mae Ofcom wedi cyflawni'r adolygiad hwn i sicrhau bod niwtraliaeth y we'n parhau i wasanaethau buddiannau pawb.

Rydym am sicrhau bod niwtraliaeth y we'n parhau i gefnogi arloesedd, buddsoddiad a thwf, a hynny ymysg darparwyr cynnwys yn ogystal â chwmnïau band eang a symudol. Bydd cyflawni'r cydbwysedd cywir yn gwella profiadau defnyddwyr ar-lein, gan gynnwys trwy wasanaethau blaengar newydd a mwy o ddewis.

Mae rheolau niwtraliaeth y we'n cyfyngu ar weithgareddau darparwyr band eang, ac mae'n bosib eu bod yn cyfyngu ar eu gallu i ddatblygu gwasanaethau newydd a rheoli eu rhwydweithiau. Rydym am sicrhau y gallant arloesi hefyd, ochr yn ochr â'r rhai sy'n datblygu cynnwys a gwasanaethau newydd, a diogelu eu rhwydweithiau pan fydd posibilrwydd o lefelau traffig sy'n gwthio eu terfynau. Credwn y bydd cwsmeriaid yn elwa o hyn.

Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom

Er bod niwtraliaeth y we'n parhau'n bwysig o ran cefnogi dewis i gwsmeriaid, rydym yn cynnig mwy o eglurder yn ein harweiniad fel y gall darparwyr band eang a symudol:

  • gynnig pecynnau band eang neu symudol ansawdd premiwm; er enghraifft, rhai gydag oedi isel (i anfon data a derbyn ymateb yn gyflym iawn);
  • datblygu 'gwasanaethau arbenigol' newydd, a allai gynnwys cefnogi cymwysiadau fel realiti rhithwir a cheir heb yrwyr;
  • defnyddio mesurau 'rheoli traffig' i osgoi tagfeydd ar eu rhwydweithiau yn ystod oriau brig; a
  • chynnig pecynnau 'cyfradd sero' o dan lawer o amgylchiadau - sy'n golygu peidio â chodi tâl ar ddefnyddwyr am gyrchu gwasanaethau penodol, er enghraifft cyngor iechyd cyhoeddus ar-lein a ddarperir gan y GIG.

Rydym hefyd yn cynnig arweiniad mewn perthynas â darparwyr band eang yn blaenoriaethu mynediad i wasanaethau brys ar gyfradd sero, cynnig mesurau rheoli i rieni, a rheoli traffig rhyngrwyd ar awyrennau a threnau.

Rydym yn nodi ein barn ar y posibilrwydd o ganiatáu i ISPs godi tâl ar ddarparwyr cynnwys am gludo traffig. Nid ydym wedi gweld digon o dystiolaeth eto bod angen gwneud hyn, er y byddai'n fater i Lywodraeth a Senedd y DU.

Rydym yn gwahodd ymatebion erbyn 13 Ionawr 2023 ac, yn amodol ar yr adborth, yn disgwyl cyhoeddi ein datganiad a'n harweiniad diwygiedig yn hydref 2023.