27 Mehefin 2022

Dim ond un o bob chwech o bobl ifanc sy'n tynnu sylw at gynnwys niweidiol ar-lein

Ofcom yn ymuno â'r dylanwadwr Lewis Leigh ar gyfer ymgyrch cyfryngau cymdeithasol newydd i gynyddu rhoi gwybod am gynnwys niweidiol ymhlith pobl ifanc

Mae dwy ran o dair o bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc wedi dod ar draws o leiaf un darn o gynnwys a allai fod yn niweidiol ar-lein yn ddiweddar, ond dim ond tua un o bob chwech sy'n mynd ymlaen i roi gwybod amdano, yn ôl Ofcom.

Daw'r canfyddiadau wrth i Fesur Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU [1] barhau i wneud ei ffordd drwy'r Senedd. Bydd Ofcom yn gorfodi'r cyfreithiau newydd hyn, ac mae eisoes wedi dechrau rheoleiddio llwyfannau rhannu fideo a sefydlwyd yn y DU – fel TikTok, Snapchat a Twitch.

Er mwyn helpu i ysgogi mwy o ddefnyddwyr rhyngrwyd ifanc i roi gwybod am gynnwys a allai fod yn niweidiol, mae Ofcom wedi ymuno â'r dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol Lewis Leigh, a'r seicolegydd ymddygiadol, Jo Hemmings, i lansio ymgyrch newydd. Nod yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yw cyrraedd pobl ifanc ar y gwefannau a'r apiau y maent yn eu defnyddio'n rheolaidd, i dynnu sylw at bwysigrwydd adrodd am gynnwys a allai fod yn niweidiol iddynt.

Ymchwil Ofcom yn datgelu pryderon adrodd am gynnwys niweidiol

Mae Traciwr Profiadau Ar-lein Ofcom yn datgelu bod y rhan fwyaf o bobl iau rhwng 13 a 24 oed (65%) yn credu bod manteision cyffredinol bod ar-lein yn drech na'r risgiau. Ond mae tua'r un gyfran – 67% – wedi dod ar draws cynnwys a allai fod yn niweidiol.

Dywedodd pobl iau wrthym mai'r niweidiau posibl mwyaf cyffredin y daethant ar eu traws ar-lein oedd: iaith sarhaus neu 'wael' (28%); camwybodaeth (23%); sgamiau, twyll a gwe-rwydo (22%); ceisiadau ffrind neu ddilyn annymunol (21%) a throlio (17%).

Roedd nifer sylweddol o bobl ifanc (14%) hefyd wedi dod ar draws bwlio, ymddygiad difrīol a bygythiadau; cynnwys treisgar; a chynnwys cas, sarhaus neu wahaniaethol, wedi'u targedu at grŵp neu unigolyn yn seiliedig ar eu nodweddion penodol.

Ond mae ein hymchwil yn datgelu bwlch sy'n peri pryder rhwng y 67% o bobl ifanc sy'n profi niwed ar-lein a'r rhai sy'n tynnu sylw at y gwasanaethau neu'n rhoi gwybod amdanynt. Mae llai nag un o bob pump o bobl ifanc (17%) yn cymryd camau i roi gwybod am gynnwys a allai fod yn niweidiol pan fyddant yn ei weld.

Mae cyfranogwyr iau yn dweud mai'r prif reswm dros beidio ag adrodd yw nad oeddent yn gweld yr angen i wneud unrhyw beth (29%); tra nad yw un o bob pump (21%) yn credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Dywed dros un o bob deg (12%) nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud, na phwy i'w hysbysu.

Mae adrodd gan ddefnyddwyr yn un ffordd bwysig o sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu diogelu rhag niwed ar-lein. Er enghraifft, mae adroddiad tryloywder TikTok yn dangos, o'r 85.8 miliwn o ddarnau o gynnwys a dynnwyd yn C4 2021, fod bron i 5% wedi'u dileu o ganlyniad i ddefnyddwyr yn adrodd neu'n rhoi gwybod am y cynnwys. [2] Yn yr un cyfnod, adroddodd Instagram fod 43.8 miliwn o gynnwys wedi'i dynnu, ac roedd tua 6.6% ohono wedi'i dynnu o ganlyniad i ddefnyddwyr yn adrodd neu'n rhoi gwybod am gynnwys.


Gyda phobl ifanc yn treulio cymaint o'u hamser ar-lein, gall yr amlygiad i gynnwys niweidiol eu dadsensiteiddio'n ddiarwybod i'w effaith niweidiol. Mae pobl yn ymateb yn wahanol iawn pan fyddant yn gweld rhywbeth niweidiol mewn bywyd go iawn – yn rhoi gwybod i'r heddlu neu'n gofyn am help gan ffrind, rhiant neu warcheidwad – ond yn aml nid ydynt yn cymryd llawer o gamau pan fyddant yn gweld yr un peth yn y byd rhithwir.

Yr hyn sy'n amlwg o'r ymchwil yw, er nad yw niwed posibl a brofir unwaith yn unig yn cael fawr o effaith negyddol, pan gaiff ei brofi dro ar ôl tro, gall y profiadau hyn achosi niwed sylweddol. Mae'n destun pryder nad oedd bron i draean o bobl ifanc 13 i 17 oed yn adrodd am gynnwys a allai fod yn niweidiol am nad oeddent yn ei ystyried yn ddigon drwg i wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae hyn yn creu risg bod mater a allai fod yn ddifrifol heb ei herio.

Dyna pam rwy'n gweithio gydag Ofcom i helpu i annog pobl i feddwl am y cynnwys y maen nhw neu eu plant yn dod ar ei draws ar-lein, a rhoi gwybod amdano pan fyddant yn gwneud hynny, fel y gall y byd ar-lein fod yn lle mwy diogel i bawb.

Seicolegydd Ymddygiadol a'r Cyfryngau, Jo Hemmings

Nod ymgyrch newydd Ofcom, sy'n lansio heddiw, yw helpu i fynd i'r afael â'r diffyg adrodd hwn. Bydd yn cynnwys y dylanwadwr TikTok, Lewis Leigh, ag enillodd enwogrwydd yn ystod y cyfnod clo gyda'i fideos feirol TikTok yn ei ddangos yn dysgu symudiadau dawns i’w fam-gu, Phyllis.

Nod yr ymgyrch yw dangos i bobl ifanc, drwy gymryd eiliad i bwyllo, meddwl a thynnu sylw at gynnwys allai achosi problemau– yn hytrach na sgrolio heibio – y gallant wneud gwahaniaeth pwysig o ran helpu i gadw eu cymunedau ar-lein yn fwy diogel.


Mae fy nghenhedlaeth i wedi tyfu i fyny gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a dyna sut rydw i'n gwneud bywoliaeth. Felly er ei fod yn brofiad cadarnhaol yn bennaf ac yn lle i ddod â phobl at ei gilydd ac adeiladu cymunedau, mae cynnwys niweidiol yn rhywbeth rwy'n dod ar ei draws drwy'r amser hefyd.

Dyna pam ei bod hi'n bwysig ymuno â fy Mam-gu hyfryd ar gyfer yr ymgyrch hon i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ein gilydd ar-lein. I fod yn onest, ein neiniau yw'r beirniaid gorau i raddau helaeth, ac maen nhw bob amser yn rhoi'r cyngor gorau. Felly y tro nesaf rydych chi'n sgrolio drwy eich ffôn ac yn dod ar draws rhywbeth nad ydych chi'n hollol siŵr amdano, gofynnwch i chi'ch hun, 'Beth fyddai fy Mam-gu yn ei feddwl?'  Os mae’n 'na' o Mam-gu yna efallai meddyliwch am roi gwybod amdano - achos mae hynny wir yn gallu gwneud gwahaniaeth

Y seren TikTok, Lewis Leigh

Wrth i ni baratoi i ymgymryd â'n rôl newydd fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, rydym eisoes yn gweithio gyda gwefannau fideo ac apiau i sicrhau eu bod yn cymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol. Mae ein hymgyrch wedi'i chynllunio i rymuso pobl ifanc i roi gwybod am gynnwys niweidiol pan fyddant yn ei weld, ac rydym yn barod i ddal cwmnïau technoleg i gyfrif am ba mor effeithiol y maent yn ymateb

Anna-Sophie Harling, Pennaeth Diogelwch Ar-lein yn Ofcom

Fel rhan o'i rôl arfaethedig yn rheoleiddio diogelwch ar-lein, bydd gan Ofcom ystod o bwerau i fynnu newid. Byddwn yn gweithio gyda chwmnïau i'w helpu i ddeall eu rhwymedigaethau newydd a pha gamau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu eu defnyddwyr rhag niwed. Yr hydref hwn byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar ba mor effeithiol y mae llwyfannau rhannu fideos yn mynd i'r afael â niwed ar eu gwasanaethau.

Cewch ragor o wybodaeth yn Adroddiad Ein Gwlad Ar-lein Ofcom, a gallwch weld yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar broffiliau TikTok ac Instagram Lewis.

-Diwedd-

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm ar @OfcomVSP@3monkeyszeno.com

Nodiadau i Olygyddion

Oni nodir yn y nodiadau diweddglo, daw holl ganlyniadau'r ymchwil o adroddiad Ein Gwlad Ar-lein 2022: Sampl gynrychioliadol y DU o 6,640 o ddefnyddwyr ar-lein 13-85 oed.

Darllen hefyd...