29 Mawrth 2022

Un o bob tri defnyddiwr rhyngrwyd yn methu â chwestiynu gwybodaeth anghywir

  • Oedolion a phlant yn goramcangyfrif eu gallu i nodi gwybodaeth anghywir, wrth i brofion ddangos bod y rhan fwyaf yn gwneud camgymeriadau
  • Bywyd ar-lein heb ei hidlo: 'TikTots', 'Finstas' a Samariaid Cymdeithasol ymhlith tueddiadau newydd sy'n dod i'r amlwg

Mae mwy na thraean o ddefnyddwyr y rhyngrwyd heb fod yn ymwybodol y gallai cynnwys ar-lein fod yn anwir neu'n dueddol, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom.

Bob munud, caiff 500 awr o gynnwys ei uwchlwytho i YouTube, 5,000 o fideos eu gwylio ar TikTok a 695,000 o straeon eu rhannu ar Instagram.[1] O ystyried maint enfawr yr wybodaeth sydd ond cyffyrddiad i ffwrdd ar ein ffonau clyfar, ni fu meddu ar y sgiliau a'r ddealltwriaeth feirniadol gywir i wahaniaethu rhwng y gwir a'r anwir erioed yn bwysicach.

Ond datgela astudiaeth Ofcom fod 30% o oedolion y DU sy'n mynd ar-lein (14.5 miliwn) yn ansicr ynghylch gwirionedd gwybodaeth ar-lein, neu nad ydynt yn ei hystyried hyd yn oed. Mae 6% arall – tuag un o bob ugain o ddefnyddwyr y rhyngrwyd – yn credu popeth y maent yn ei weld ar-lein.

Mae hyder yn drech na sgiliau beirniadu

Gall gwybodaeth anghywir ledaenu'n gyflym ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Dywed mwy na phedwar o bob deg oedolyn iddynt weld stori ar gyfryngau cymdeithasol a oedd i'w gweld yn fwriadol anghywir neu gamarweiniol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Er mwyn archwilio'r duedd hon, dangoswyd postiadau a phroffiliau cyfryngau cymdeithasol i gyfranogwyr i bennu a allent gadarnhau eu dilysrwydd. Datgelodd hyn fod hyder defnyddwyr yn eu gallu i nodi cynnwys ffug yn drech na'u gwir alluoedd i'w feirniadu.

Er i saith o bob 10 oedolyn (69%) ddweud eu bod yn hyderus wrth nodi gwybodaeth anghywir, dim ond dau o bob 10 (22%) a allai nodi nodweddion postiad go iawn yn gywir, heb wneud camgymeriad. Gwelsom batrwm tebyg ymysg plant hŷn 12-17 oed (74% yn hyderus ond dim ond 11% â'r gallu).

Yn yr un modd, nid oedd tua chwarter yr oedolion (24%) a phlant (27%) a honnai eu bod yn hyderus wrth nodi gwybodaeth anghywir yn gallu nodi proffil cyfryngau cymdeithasol ffug mewn gwirionedd.

Cefnogaeth dros reolau llymach

Gyda chyflwyniad y Mesur Diogelwch Ar-lein i Senedd y DU ar 17 Mawrth, mae cefnogaeth dros fwy o ddiogelwch ar-lein ar gynnydd.

Mae pedwar o bob pump o oedolion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd (81%) eisiau gweld cwmnïau technoleg yn cymryd cyfrifoldeb dros fonitro cynnwys ar eu gwefannau a'u hapiau. Mae dwy ran o dair (65%) hefyd am gael eu diogelu yn erbyn cynnwys amhriodol neu sarhaus.

Mewn byd anwadal ac annarogan, mae'n hanfodol bod gan bawb yr offer a'r hyder i wahaniaethu rhwng y gwir a'r anwir ar-lein – boed hynny am arian, iechyd, digwyddiadau byd-eang neu bobl eraill.

Ond mae llawer o oedolion a phlant yn ei chael hi'n anodd gweld beth allai fod yn ffug. Felly rydym yn galw ar gwmnïau technoleg i flaenoriaethu datgelu a dileu gwybodaeth anghywir niweidiol, cyn i ni ymgymryd â'n rôl newydd wrth helpu i daclo'r broblem. Ac rydym yn cynnig awgrymiadau ar beth i'w ystyried wrth i chi bori neu sgrolio.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Awgrymiadau i helpu wrth nodi gwybodaeth anghywir

1. Gwiriwch y ffynhonnell. Nid y sawl a rannodd yr wybodaeth â chi yw hon o reidrwydd, ond o ble y tarddodd.
2. Holwch y ffynhonnell. A yw’n sefydledig ac yn uchel ei pharch, neu a allai fod reswm ganddynt dros gamarwain?
3. Cymerwch gam yn ôl. Cyn i chi dderbyn rhywbeth ar ei olwg, ystyriwch eich cymhelliant eich hun dros eisiau credu fe.

Graffeg yn rhoi awgrymiadau defnyddiol i nodi camwybodaeth sef Gwiriwch y ffynhonnell, holwch y ffonnell a phwyllwch cyn i chi dderbyn rhywbeth ar ei olwg gyntaf.

Byd o brofiadau ar-lein

Mae'r adroddiadau'n datgelu darlun cyffredinol o'n bywydau ar-lein heddiw. Ymysg y themâu eraill a ddaeth i'r amlwg yn yr ymchwil eleni mae:

  • 'TikTots' â sgriniau lluosog. Er eu bod o dan y terfyn oedran gofynnol (13 oed ar gyfer y rhan fwyaf o wefannau cyfryngau cymdeithasol), dywedodd 33% o rieni plant 5-7 oed a dwywaith gymaint y rhai â phlant 8-11 oed (60%) fod ganddynt broffil cyfryngau cymdeithasol. Plant hŷn sydd fwyaf tebygol o fod â phroffil ar Instagram (55% o'r rhai 12-15 oed), tra bod plant iau 8-11 oed yn fwy tebygol o fod â phroffil ar TikTok (34%) a YouTube (27%).
    Mae TikTok yn arbennig yn tyfu mewn poblogrwydd, hyd yn oed ymhlith y grwpiau oedran ieuengaf; Mae 16% o blant 3-4 oed a 29% o blant 5-7 oed yn defnyddio'r llwyfan.[2] Ac mae cysylltiad o bosib rhwng poblogrwydd cynnwys ffurf fer a sgriniau lluosog, gyda mwy o blant yn adrodd am anawsterau wrth ganolbwyntio ar un gweithgaredd ar-lein. Dywedodd y plant nad oeddent yn gallu gwylio ffilmiau, neu gynnwys ffurf hir arall, heb fod ar sawl dyfais ar yr un pryd. Yn wir, dim ond 4% o blant 3-17 oed sy'n dweud nad ydynt byth yn gwneud unrhyw beth arall pan fyddant yn gwylio'r teledu.[3]
  • Cuddio bywyd ar-lein. Mae'n bosib bod llawer o blant yn defnyddio cyfrifon eraill neu 'finstas' - Instagram ffug - yn dactegol i guddio agweddau ar eu bywydau ar-lein oddi wrth rieni. Roedd gan ddau draean o blant 8-11 oed gyfrifon neu broffiliau lluosog (64%). Ymysg y rhain, mae gan bron i hanner (46%) gyfrif i'w teulu ei weld yn unig. Mae un rhan o bump o bobl ifanc 16-17 oed (20%) yn dewis cael proffiliau ar wahân yn benodol ar gyfer hobi fel sglefrfyrddio, chwarae gemau neu ffotograffiaeth.
    Dywedodd mwy na thraean o blant (35%) iddynt ymwneud ag ymddygiadau sydd o bosib yn beryglus, a allai rwystro rhiant neu warcheidwad rhag medru gwirio eu defnydd ar-lein yn iawn. Roedd un o bob pump yn syrffio'r we yn y modd incognito (21%), neu wedi dileu eu hanes pori (19%), a bu i un o bob 20 drechu mesurau yr oedd rhieni wedi'u rhoi ar waith i'w hatal rhag defnyddio apiau a gwefannau penodol (6%).
  • Sgrolio'n drech na rhannu. Mae plant yn gweld llai o gynnwys fideo gan ffrindiau ar-lein, a mwy gan frandiau, enwogion a dylanwadwyr. Ymddengys bod ffrydiau sy'n llawn cynnwys proffesiynol slic yn annog tuedd tuag at sgrolio yn hytrach na rhannu, gydag oedolion (88%) a phlant (91%) ill dau dair gwaith yn fwy tebygol o wylio fideos ar-lein, na phostio eu fideos eu hunain (30% a 31% yn y drefn honno).
  • Ymgyrchu, lles a Samariaid cymdeithasol. Mae plant yn teimlo'n gadarnhaol am fanteision bod ar-lein, ac mae llawer yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel grym er daioni. Teimlodd dros hanner (53%) y bobl ifanc 13–17 oed ei fod yn dda i'w hiechyd meddwl i fod ar-lein, o'i gymharu â 17% a oedd yn anghytuno.

Mae bron i chwarter y bobl ifanc yn eu harddegau yn dilyn proffiliau actifyddion neu ymgyrchwyr (23%), mae un o bob pump yn ysgrifennu postiadau i gefnogi achosion (21%), ac mae mwy nag un o bob 10 yn dilyn pleidiau neu grwpiau ymgyrchu gwleidyddol (12%).

Mae wyth o bob deg o bobl ifanc 13-17 oed yn defnyddio gwasanaethau ar-lein i gefnogi eu lles personol. Dywedodd chwarter eu bod wedi dysgu am fwyta'n iach ar-lein, neu wedi dod o hyd i gymorth gyda 'materion tyfu i fyny' fel perthnasoedd a glasoed. Defnyddiodd un o bob pump y rhyngrwyd i ddilyn rhaglenni ffitrwydd a thracwyr iechyd, neu i gael cymorth pan oeddent yn teimlo'n drist, yn orbryderus neu'n ofidus. Yn yr un modd, aeth tuag un o bob 10 ar-lein i helpu gyda materion cysgu, i fyfyrio, neu i'w helpu i deimlo'n egnïol. Calm (34%) a Headspace for Kids (29%) oedd yr apiau mwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd.

Mae brodorion digidol ifainc, nad ydynt erioed wedi gwybod bywyd heb y rhyngrwyd, hefyd yn rhannu eu sgiliau technegol ac yn cefnogi eraill. Roedd y rhan fwyaf o oedolion ifainc 16-24 oed wedi helpu eraill i wneud pethau ar-lein (86%), gyda hanner y rheini (46%) yn cynnig cymorth wythnosol.

Nodiadau i olygyddion

  1. World Economic Forum, Awst 2021, Here’s what happens every minute on the internet in 2021.
  2. Mae'r data'n adlewyrchu'r defnydd a gofnodwyd gan rieni plant.
  3. Data gan The Insights Family.
  4. Mae astudiaeth Ofcom yn cynnwys pum adroddiad:

Related content