2 Rhagfyr 2022

Nid yw'r pandemig bellach yn esgus dros fethu targedau danfon, yn ôl rhybudd i'r Post Brenhinol gan Ofcom

  • Ofcom yn cwblhau ymchwiliad i berfformiad danfon y Post Brenhinol yn 2021/22

Mae Ofcom wedi rhybuddio'r Post Brenhinol na all barhau i ddibynnu ar effaith Covid-19 fel esgus dros berfformiad gwael o ran danfon, ar ôl i'r cwmni fethu sawl targed rheoleiddio y llynedd o ganlyniad i'r pandemig.

Daw'r rhybudd wrth i'r rheoleiddiwr gwblhau ei ymchwiliad i berfformiad danfon y Post Brenhinol rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022. Methodd y cwmni â chyrraedd nifer o'i dargedau danfon blynyddol, gan gynnwys:

  • danfon 82% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith o'i gasglu, islaw'r targed o 93%;
  • danfon 95.6% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith o'i gasglu, yn erbyn y targed o 98.5%; a
  • chwblhau 94.29% o'r llwybrau danfon ar bob diwrnod y mae danfoniad yn ofynnol, yn erbyn y targed o 99.9%.

Asesiad o ddigwyddiadau eithriadol

Gall Ofcom ystyried tystiolaeth a gyflwynir gan y Post Brenhinol ynghylch unrhyw ddigwyddiadau eithriadol, sydd y tu hwnt i reolaeth y cwmni, a allai esbonio pam ei fod wedi methu ei dargedau.

A ninnau wedi archwilio cyflwyniad y Post Brenhinol, rydym yn cydnabod, am ran helaeth o 2021/22, bod Covid-19 wedi parhau i gael effaith sylweddol, treiddiol a digynsail ar weithrediadau'r Post Brenhinol. Roedd hyn yn cynnwys:

  • cynnydd nad oedd modd ei ddarogan mewn absenoldebau staff, er enghraifft - rhwng Tachwedd 2021 ac Ionawr 2022 yn ystod brig yr amrywiolyn Omicron;
  • meintiau parseli anarferol o uchel a pharseli mwy swmpus, gan arwain at rowndiau hirach i staff rheng flaen, ail-lenwi troliau'n amlach, a'r angen am ddefnyddio mwy o faniau i gynyddu capasiti cyffredinol; a
  • heriau parhaus a achoswyd gan fesurau cadw pellter cymdeithasol.

Ein penderfyniad

Yn ein barn ni, oni bai am effeithiau Covid-19, byddai lefelau perfformiad y Post Brenhinol wedi bod yn sylweddol uwch, ac mae'n bosib y gallai fod wedi cyrraedd ei dargedau. Gan hynny, bu i ni benderfynu nad oedd yn briodol dyfarnu bod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddio ar gyfer 2021/22.

Ond nid ydym yn disgwyl y bydd gan Covid-19 effaith barhaus a sylweddol ar lefelau gwasanaeth y cwmni. Nid yw mesurau cadw pellter cymdeithasol yn weithredol bellach, mae lefelau absenoldeb yn debygol o fod yn llawer llai anwadal, ac mae meintiau parseli wedi dychwelyd i dueddiadau cyn y pandemig i raddau helaeth.

Mae'r ffaith y bu perfformiad y Post Brenhinol ar ddechrau 2022/23 yn waeth o lawer nag y dylai fod yn peri pryder i ni. Credwn fod y cwmni wedi cael digon o amser i ddysgu gwersi o'r pandemig, ac rydym yn annhebygol o ystyried bod y ffactorau a amlinellir uchod yn eithriadol ac y tu hwnt i'w reolaeth yn y dyfodol.

Mae'r cwmni wedi ymrwymo i adfer ansawdd gwasanaeth cyn gynted â phosib, ac fe fyddwn yn cadw llygad barcud ar ei berfformiad dros weddill 2022/23.

Wrth edrych yn ôl ar y llynedd, roedd Covid-19 yn amlwg yn dal i gael effaith sylweddol ar weithrediadau'r Post Brenhinol. Er hynny, mae'r cwmni wedi cael digon o amser i ddysgu gwersi o'r pandemig, ac ni all barhau i'w ddefnyddio fel esgus.

Mae perfformiad y Post Brenhinol hyd yma eleni'n peri pryder i ni, gan ei fod yn waeth o lawer nag y dylai fod. Mae'n rhaid iddo wneud ei orau glas i adfer lefelau gwasanaeth, a byddwn ni'n cadw llygad barcud arno drwy gydol y flwyddyn.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi ei ddiweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Mae'n datgelu bod y cyfanswm meintiau danfon parseli, ar ôl tyfu'n sylweddol yn ystod y pandemig ar draws holl weithredwyr post y DU, wedi gostwng ers i'r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, wrth i'r stryd fawr ail-agor a siopa ar-lein leihau. Ar y llaw arall, bu gynnydd mewn meintiau llythyrau ar ôl cwymp dramatig yn y flwyddyn flaenorol, wrth i fusnesau ailddechrau eu gweithgarwch busnes a marchnata arferol. Nododd ein hymchwil defnyddwyr ar gyfer Gorffennaf 2021 - Mehefin 2022, fod mwy nag wyth o bob deg cwsmer yn fodlon ar wasanaethau'r Post Brenhinol a gwasanaethau post yn gyffredinol, sy'n debyg i flynyddoedd blaenorol. Mae hefyd yn dangos rhai gwelliannau wrth drin cwynion, gyda lefelau boddhad yn cynyddu ymhlith y rhai a wnaeth gŵyn i'r Post Brenhinol yn y 12 mis diwethaf.

Related content