2 Awst 2022

Croesi'r llinell: Saith o bob deg pêl-droediwr yr Uwch Gynghrair yn wynebu ymosodedd ar Twitter

  • Ofcom yn datgelu dadansoddiad dysgu peirianyddol o 2.3 miliwn o drydariadau yn hanner cyntaf y tymor diwethaf
  • Anfonwyd bron i 60,000 o bostiadau ymosodol yn y cyfnod, gan effeithio ar saith o bob deg chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair
  • Deuddeg yn unig o chwaraewr sy'n derbyn hanner yr holl ymosodedd – gyda phob un yn derbyn 15 trydariad difrïol ar gyfartaledd bob dydd
  • Digwyddiad Ofcom yn clywed gan Gary Lineker ac eraill am y broblem ddifrifol hon yn y gêm genedlaethol

Wrth i gic gyntaf y tymor newydd nesáu, mae Ofcom yn datgelu maint yr ymosodiadau personol y mae pêl-droedwyr yr Uwch Gynghrair yn eu dioddef bob dydd ar Twitter, ac yn nodi'r hyn y mae'n rhaid ei wneud ar y cyd i daclo'r broblem.

Mae Ofcom, sy'n paratoi i reoleiddio cewri technoleg o dan gyfreithiau Diogelwch Ar-lein newydd, wedi ymuno â Sefydliad Alan Turing i ddadansoddi mwy na 2.3 miliwn o drydariadau a gyfeiriwyd at bêl-droedwyr yr Uwch Gynghrair dros bum mis cyntaf tymor 2021/22.[1]

Creodd yr astudiaeth dechnoleg dysgu peirianyddol newydd a all asesu'n awtomatig a yw trydariadau'n ymosodol.[2] Fe wnaeth tîm o arbenigwyr hefyd adolygu sampl ar hap o 3,000 o drydariadau â llaw.[3]

Ein canfyddiadau

  • Mae'r mwyafrif helaeth o gefnogwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol. O'r sampl ar hap a adolygwyd â llaw o 3,000 o drydariadau, roedd 57% yn bositif tuag at chwaraewyr, roedd 27% yn niwtral ac roedd 12.5% yn feirniadol. Fodd bynnag, roedd y 3.5% arall yn ymosodol. Yn yr un modd, o'r 2.3 miliwn o drydariadau a ddadansoddwyd gyda'r offeryn dysgu peirianyddol, roedd 2.6% yn ymosodol.[4]
  • Mae cannoedd o drydariadau ymosodol yn cael eu hanfon at bêl-droedwyr bob dydd. Er bod cyfran y trydariadau ymosodol efallai'n isel, mae hyn yn cyfateb o hyd i bron i 60,000 o drydariadau ymosodol a gyfeirir at chwaraewyr yr Uwch Gynghrair yn ystod hanner cyntaf y tymor yn unig – cyfartaledd o 362 bob dydd, sef cyfwerth ag un bob pedair munud. Roedd tuag un o bob deuddeg ymosodiad personol (8.6%) yn targedu nodwedd warchodedig dioddefwr, fel eu hil neu eu rhyw.
  • Mae saith o bob deg chwaraewr yr Uwch Gynghrair yn cael eu targedu. Dros y cyfnod, derbyniodd 68% o chwaraewyr (418 allan o 618) o leiaf un trydariad ymosodol, a chafodd un o bob pedwar ar ddeg (7%) sarhad bob dydd.
  • Mae llond llaw o chwaraewyr yn wynebu ton o sarhad. Fe wnaethon ni gofnodi pa bêl-droedwyr sy'n cael eu targedu, a gweld bod hanner yr holl ymosodedd tuag at bêl-droedwyr yr Uwch Gynghrair wedi'i gyfeirio at ddeuddeg chwaraewr yn benodol. Roedd y chwaraewyr hyn yn derbyn 15 o drydariadau sarhaus yr un ar gyfartaledd bob dydd.
Dadansoddwyd 2.3 miliwn o drydariadau  7 o bob 10 chwaraewr wedi’i dargedu gan drydariadau ymosodol  Anfonir trydariad ymosodol bob 4 munud  50% o’r holl sarhad wedi’i gyfeirio at 2% yn unig o chwaraewyr  Targedir sarhad at 1 o bob 14 bob dydd

Fe wnaethom hefyd holi'r cyhoedd am eu profiadau o weld chwaraewyr yn cael eu targedu ar-lein mewn arolwg ar wahân. Gwelodd mwy na chwarter o bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion sy'n mynd ar-lein (27%) ymosodedd wedi'i gyfeirio at bêl-droediwr ar-lein y tymor diwethaf. Mae hyn yn codi i fwy na thraean o gefnogwyr sy'n dilyn pêl-droed (37%) - ac mae'n uwch o hyd ymhlith cefnogwyr gêm y merched (42%).

Ymhlith y rhai a ddaeth ar draws camdriniaeth, dywedodd dros hanner (51%) iddynt ystyried bod y cynnwys yn hynod o sarhaus, ond ni chymerodd cyfran sylweddol unrhyw gamau wrth ymateb i hynny (30%). Dim ond tuag un o bob pedwar (26%) wnaeth ddefnyddio'r offer fflagio ac adrodd i dynnu sylw'r llwyfan at y cynnwys sarhaus, neu farcio'r cynnwys fel sothach.

Mae Ofcom yn cynnal digwyddiad heddiw (2 Awst) i drafod y canfyddiadau hyn. Bydd y digwyddiad, sydd i'w gyflwyno gan y newyddiadurwr darlledu a chyflwynydd BT Sport, Jules Breach, yn clywed gan:

  • y cyflwynydd a chyn-chwaraewr Lloegr, Gary Lineker;
  • chwaraewr Manchester United, Aoife Mannion;
  • Prif Weithredwr Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol Maheta Molango; a
  • Chadeirydd Kick It Out Sanjay Bhandari.

Beth sydd angen ei wneud

Mae'r canfyddiadau hyn yn taflu goleuni ar ochr dywyll i'r gêm brydferth. Nid oes lle ar gyfer cam-drin ar-lein mewn chwaraeon, nac ychwaith mewn cymdeithas ehangach, ac mae mynd i'r afael ag ef yn gofyn am ymdrech tîm.

Nid oes angen i gwmnïau aros am y cyfreithiau newydd i wneud eu gwefannau a'u hapiau'n fwy diogel i ddefnyddwyr. Pan fyddwn yn dechrau rheoleiddio diogelwch ar-lein, bydd yn rhaid i gwmnïau technoleg fod yn agored iawn am y camau maen nhw'n eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr. Byddwn yn disgwyl iddynt ddylunio eu gwasanaethau gyda diogelwch mewn golwg.

Gall cefnogwyr hefyd chwarae rhan bositif wrth ddiogelu'r gêm maen nhw'n ei charu. Mae ein hymchwil yn dangos bod y mwyafrif helaeth o gefnogwyr ar-lein yn ymddwyn yn gyfrifol, ac wrth i'r tymor newydd ddechrau, rydym yn gofyn iddynt adrodd am bostiadau annerbyniol ac ymosodol pryd bynnag y byddan nhw'n eu gweld.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein Ofcom

Mae'r canfyddiadau llwm hyn yn datgelu i ba raddau y mae pêl-droedwyr yn agored i gamdriniaeth ffiaidd ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Mae chwaraewyr blaenllaw yn derbyn negeseuon gan filoedd o gyfrifon bob dydd ar rai llwyfannau, ac ni fyddai'n bosib ddod o hyd i'r holl gamdriniaeth heb y technegau AI arloesol hyn.

Er bod taclo camdriniaeth ar-lein yn anodd, allwn ni ddim beidio â'i herio. Mae'n rhaid gwneud mwy i atal y mathau gwaethaf o gynnwys er mwyn sicrhau y gall chwaraewyr wneud eu gwaith heb gael eu cam-drin.

Dr Bertie Vidgen, prif awdur yr adroddiad a Phennaeth Diogelwch Ar-lein Sefydliad Alan Turing

Beth fydd y cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd yn ei olygu?

Mae'r DU yn paratoi i gyflwyno cyfreithiau newydd sydd â'r nod o wneud defnyddwyr ar-lein yn fwy diogel, ac ar yr un pryd, cynnal rhyddid mynegiant.  Bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn cyflwyno rheolau ar gyfer gwefannau ac apiau fel cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio a llwyfannau negeseua – yn ogystal â gwasanaethau eraill y mae pobl yn eu defnyddio i rannu cynnwys ar-lein.

Nid yw'r Mesur yn rhoi rôl i Ofcom drin cwynion am ddarnau unigol o gynnwys. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod – ac rydyn ni'n cytuno – y byddai'r maint pur o gynnwys ar-lein yn gwneud hynny'n anymarferol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar symptomau niwed ar-lein, byddwn yn taclo'r achosion drwy sicrhau bod cwmnïau'n dylunio eu gwasanaethau gyda diogelwch mewn cof o'r cychwyn cyntaf. Byddwn ni'n archwilio a yw cwmnïau'n gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon, yn ogystal â chynnwys sy'n niweidiol i blant.

Nodiadau i olygyddion

  1. O ddechrau tymor 2021/2022 (13 Awst 2021) hyd at egwyl y gaeaf (24 Ionawr 2022).
  2. Sefydliad Alan Turing yw sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial. Enwir y Sefydliad er anrhydedd i Alan Turing, yr ystyrir bod ei waith arloesol mewn mathemateg ddamcaniaethol a chymhwysol, peirianneg a chyfrifiadureg wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwyddor data cyfoes a deallusrwydd artiffisial. Nodau'r Sefydliad yw ymgymryd ag ymchwil o safon fyd-eang mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial, cymhwyso ei ymchwil i broblemau'r byd go iawn, ysgogi effaith economaidd a lles cymdeithasol, arwain wrth hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr, a siapio'r sgwrs gyhoeddus ynghylch data ac algorithmau. Yn rhan o Raglen Polisi Cyhoeddus Sefydliad Alan Turing, mae'r Tîm Diogelwch Ar-lein yn darparu mewnwelediad gwrthrychol a seiliedig ar dystiolaeth i ddiogelwch ar-lein, gan gefnogi gwaith y rhai sy'n llunio polisi a rheoleiddwyr, cyfeirio trafodaeth ddinesig ac ymestyn gwybodaeth academaidd. Maent yn gweithio i daclo casineb ar-lein, aflonyddu, eithafiaeth a chamwybodaeth/ gwybodaeth anghywir. Datblygwyd y model AI a ddefnyddiwyd i nodi'r trydariadau sarhaus fel rhan o waith Arsyllfa Niwed Ar-lein Sefydliad Alan Turing, dan arweiniad eu Tîm Diogelwch Ar-lein.
  3. Mae ymosodedd ar-lein yn broblem ar draws llwyfannau, ac ni fwriedir i'r ymchwil hon adlewyrchu na darparu sylwebaeth, ar arferion ymddiriedaeth a diogelwch Twitter. Bu i ni ddewis Twitter ar gyfer yr astudiaeth hon gan ei bod yn llwyfan a ddefnyddir yn helaeth y mae llawer o chwaraewyr pêl-droed yr Uwch Gynghrair yn weithredol arni; oherwydd bod sawl chwaraewr wedi adrodd am gael eu cam-drin ar Twitter o'r blaen, megis yn ystod rowndiau terfynol Euro 2020; ac oherwydd, yn wahanol i'r rhan fwyaf o lwyfannau, bod Twitter yn darparu data ar gyfer ymchwil academaidd.
  4. Diffiniadau o drydariadau positif, niwtral, beirniadol ac ymosodol:
    • Ymosodol: Mae'r trydariad yn bygwth, sarhau, difrïo, dad-ddyneiddio, gwawdio neu'n bychanu chwaraewr. Gall hyn fod yn ymhlyg neu'n allblyg, ac mae'n cynnwys ymosodiadau yn erbyn eu hunaniaeth. Rydym yn cynnwys y defnydd o waradwyddo, ystrydebau negyddol a defnydd gormodol o iaith anweddus.
    • Beirniadol: Mae'r trydariad yn gwneud beirniadaeth sylweddol o weithredoedd chwaraewr, naill ai ar y cae neu i ffwrdd ohono. Mae'n cynnwys beirniadu eu sgiliau, eu hagwedd a'u gwerthoedd. Yn aml, mae beirniadaeth yn llai ymosodol ac emosiynol.
    • Positif: Mae'r trydariad yn cefnogi, yn canmol neu'n annog y chwaraewr. Mae'n cynnwys mynegi edmygedd o chwaraewr a'u perfformiad, a dymuno'n dda iddyn nhw.
    • Niwtral: Nid yw'r trydariad yn dod o dan y categorïau eraill. Nid yw'n mynegi safiad clir. mae datganiadau niwtral yn cynnwys datganiadau ffeithiol di-emosiwn a disgrifiadau o ddigwyddiadau.

Related content