17 Awst 2022

Chwyldro ffrydio yn ymestyn y bwlch teledu rhwng y cenedlaethau yng Nghymru

  • Mae pobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru'n gwylio pum gwaith yn llai o deledu a ddarlledir na'r rhai 55+ oed, sy'n dal i'w fwynhau am bron i hanner eu diwrnod
  • Mae defnyddwyr teledu yng Nghymru’n fwy tebygol na chyfartaledd y DU o fod â setiau teledu cysylltiedig.
  • Mae nifer y bobl ifanc sy'n gwylio teledu a ddarlledir yn y DU i lawr dau draean mewn deng mlynedd
  • Cofrestrodd un o bob pum cartref yn y DU ar gyfer y tri cwmni ffrydio mwyaf: Netflix, Amazon a Disney+

Mae oedolion iau yng Nghymru bellach yn gwylio bron i bum gwaith yn llai o deledu a amserlennir na'r rhai 55+ oed, yn ôl Ofcom, wrth i'r bwlch rhwng y cenedlaethau o ran arferion y cyfryngau fynd yn fwy eang nag erioed.

Yn ôl adroddiad Cyfryngau'r Genedl diweddaraf Ofcom ar gyfer Cymru, mae pobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru'n treulio un awr a chwe munud o flaen teledu a ddarlledir mewn diwrnod cyfartalog - pum gwaith yn llai o deledu a ddarlledir na'r rhai 55+ oed sy'n dal i dreulio bron i hanner eu diwrnod deffro yn mwynhau teledu a ddarlledir, sef bron i chwe awr (333 munud) bob dydd.

Gwylio teledu wedi ei ddarlledu yng Nghymru, fesul oed

Mae'r newidiadau mewn arferion oedolion iau yn adlewyrchu poblogrwydd aruthrol gwasanaethau ffrydio ar-alw o'r Unol Daleithiau.

Tri chawr ffrydio mewn un o bob pum cartref yn y DU

Mae tuag un o bob pum cartref yn y DU (5.2 miliwn) yn tanysgrifio i bob un o'r tair llwyfan mwyaf poblogaidd – Netflix, Amazon Prime Video a Disney+ – am gost o tua £300 y flwyddyn. Mae 70% o aelwydydd yng Nghymru'n tanysgrifio i o leiaf un ohonynt, i fyny 64% o 2021.

Mae bron i naw o bob deg oedolyn 18-24 oed yn osgoi sianeli teledu ac yn mynd yn syth i ffrydio, ar-alw a gwasanaethau fideo cymdeithasol wrth chwilio am rywbeth i'w wylio, a Netflix yw'r gyrchfan fwyaf cyffredin.

Fodd bynnag, mae chwech o bob deg (59%) rhwng 55 a 64 oed a 76% o'r rhai 65+ oed yn y DU yn dal i droi at sianeli teledu yn gyntaf.

Roedd gan wasanaethau ar-alw darlledwyr lefelau tebyg o ran cyrhaeddiad i lwyfannau ffrydio eraill, gyda’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn defnyddio mwy nag un gwasanaeth ffrydio. BBC iPlayer oedd y gwasanaeth ar-alw mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ac roedd yn cael ei ddefnyddio gan 77% o oedolion a phobl ifanc sydd ar-lein.

Mae llwyfannau fideos cymdeithasol hefyd yn cystadlu am amser gwylio ac maent yn arbennig o boblogaidd ymysg grwpiau oedran iau. Roedd defnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru sydd dros 15 oed yn treulio 34 munud y dydd ar TikTok ar gyfartaledd, y mwyaf o blith yr holl wledydd, a 39 munud y dydd ar Facebook a Messenger ym mis Mawrth 2022.

Mae'r chwyldro ffrwydro yn ymestyn y bwlch teledu rhwng y cenedlaethau, gan greu gagendor amlwg yn arferion gwylio pobl iau ac hŷn.

Mae darlledwyr traddodiadol yn wynebu cystadleuaeth galed, ac maen nhw wedi ateb yr her yn rhannol drwy boblogrwydd eu hapiau chwaraewr ar-alw eu hunain. Mae gwylio cyfunol o'r prif 5 sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i gyfrif am fwy na hanner y teledu darlledu sy'n cael ei wylio yng Nghymru

Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng

Mae’r nifer sy’n gwylio teledu a fideo yng Nghymru yn gyffredinol wedi gostwng ers cyfnod prysuraf y pandemig

Ar gyfartaledd, roedd pobl yng Nghymru wedi treulio 4 awr 33 munud y dydd yn gwylio cynnwys teledu a fideo yn 2021, ar draws pob dyfais. Mae hyn 33 munud yn llai nag yn 2020 sef blwyddyn a gafodd ei dylanwadu’n drymach gan gyfyngiadau Covid-19, ond mae’n uwch na 2019.

Roedd yr amser sy’n cael ei dreulio yn gwylio teledu gan ddarlledwyr yng Nghymru wedi disgyn 12.6% o’i gymharu â 2020. Dyma’r gostyngiad cymesur mwyaf o holl wledydd y DU, gan gefnogi'r dirywiad hirdymor yn lefelau gwylio cynnwys darlledwyr cyffredinol a welwyd dros y deng mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, roedd pobl yng Nghymru wedi treulio 3 awr 8 munud y dydd yn gwylio teledu a ddarlledir ar set deledu yn 2021, sy’n uwch na chyfartaledd y DU.

Mae'r ffordd y mae pobl yn dewis gwylio'r teledu hefyd yn esblygu gyda defnyddwyr yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o gael teledu cysylltiedig gartref. Roedd gan saith o bob deg (71%) gwyliwr teledu yng Nghymru set deledu gysylltiedig, sy'n uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU o 64% Mae mwy o gartrefi yng Nghymru yn defnyddio gwasanaeth teledu-drwy-dalu nag sy'n dibynnu ar Freeview neu Freesat.

Roedd bodlonrwydd cyffredinol â darlledu gwasanaeth cyhoeddus ymysg y rheini sy’n ei wylio yng Nghymru

Yn 2021, roedd y pum prif sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus gyda'i gilydd yn cyfrif am gyfran o 54.9% o gyfanswm cynulleidfa teledu a gafodd ei ddarlledu yng Nghymru, roedd hyn wedi codi o 53.6% yn 2020. Er bod saith o bob deg gwyliwr yng Nghymru'n fodlon gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSB), mae cynulleidfaoedd a lefelau gwylio yn parhau i ostwng, yn enwedig ymysg pobl ifanc.

Er hynny, mae newyddion gwell o ran eu hapiau 'chwaraewr' ar-alw. Ar y cyfan, dywedodd 82% o bobl eu bod wedi defnyddio gwasanaeth ar-alw darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y chwe mis diwethaf, tua'r un gyfran a ddywedodd eu bod yn defnyddio o leiaf un gwasanaeth ffrydio (83%). Dywedodd chwech o bob deg (59%) o wylwyr eu bod yn defnyddio'r llwyfannau hyn i wylio sianeli neu raglenni yn fyw ar yr adeg y cânt eu darlledu.

O ganlyniad, roedd yr amser cyfartalog a dreuliwyd yn gwylio gwasanaethau fel BBC iPlayer, ITV Hub, S4C Clic ac All 4 wedi cynyddu i 15 munud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, tair munud yn fwy y person bob dydd, sy'n mynd yn groes i'r duedd o ddirywiad mewn amserau gwylio yn sgil y pandemig.

Mae cynulleidfaoedd yng Nghymru yn credu mai newyddion dibynadwy a chywir yw nodwedd bwysicaf darlledu gwasanaeth cyhoeddus, wedi’i ddilyn gan ‘amrywiaeth eang o wahanol fathau o raglenni’ a ‘rhaglenni sy’n fy helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn y byd heddiw’.

Mae’r ffyrdd y mae pobl yn defnyddio ac yn gwrando ar gynnwys radio a sain yng Nghymru yn dal i esblygu

Yn 2021, roedd naw oedolyn o bob deg yng Nghymru wedi gwrando ar y radio am 22 awr yr wythnos ar gyfartaledd, gyda gorsafoedd radio rhwydwaith y BBC â’r gyfran fwyaf o’r farchnad o hyd.

Mae gwrando ar radio ar-lein yn parhau i fod yn boblogaidd, ond nid yw'n ymddangos bod seinyddion clyfar wedi cael yr un effaith yng Nghymru ag ar draws y DU gan gyfrif am 4% yn unig o'r holl wrando yng Nghymru, o'i gymharu â 10% yn y DU. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o fod â seinydd clyfar yn eu cartref (45% o’i gymharu â 39%).

Roedd gwrando ar radio byw ar set radio yn uwch ar gyfer oedolion yng Nghymru, sef 74% o oedolion o’i gymharu â 65% o oedolion ym Mhrydain Fawr. I’r gwrthwyneb, roedd cyrhaeddiad wythnosol ffrydio cerddoriaeth a radio ar-lein yn is na chyfartaledd Prydain Fawr.