28 Ebrill 2022

Gwarchodwyr digidol y DU yn edrych yn fanylach ar algorithmau wrth i gynlluniau gael eu cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn i ddod

  • Y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol yn galw am farn ynghylch manteision a risgiau sut mae gwefannau ac apiau yn defnyddio algorithmau
  • Mae hefyd yn gofyn am fewnbwn ar archwilio algorithmau, y dirwedd bresennol a rôl rheoleiddwyr
  • Cynllun gwaith wedi'i gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys diogelu plant ar-lein

Bob dydd, rydym yn defnyddio gwasanaethau sy'n prosesu data gan ddefnyddio amrywiaeth eang o systemau wedi'u hawtomeiddio.

Mae'r "prosesu algorithmig" hwn yn gyffredin ac yn aml yn fuddiol, gan fod yn sail i lawer o'r cynhyrchion a gwasanaethau a ddefnyddiwn mewn bywyd bob dydd. O ddatgelu gweithgarwch twyllodrus mewn gwasanaethau ariannol i gysylltu ni â ffrindiau ar-lein neu gyfieithu ieithoedd gyda chlicied llygoden, mae'r systemau hyn wedi mynd yn rhan greiddiol o gymdeithas fodern.

Fodd bynnag, mae systemau algorithmig, yn enwedig dulliau Dysgu Peirianyddol (ML) neu Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) modern, yn peri risgiau sylweddol os cânt eu defnyddio heb ofal dyladwy. Gallant gyflwyno neu fwyhau tueddiadau niweidiol sy'n arwain at benderfyniadau gwahaniaethol neu ddeilliannau annheg sy'n atgyfnerthu anghydraddoldebau. Gellir eu defnyddio i gamarwain defnyddwyr ac ystumio cystadleuaeth.

Mae angen i reoleiddwyr weithio gyda'i gilydd i gyfleu natur a difrifoldeb y risgiau hyn a chymryd camau i'w lliniaru. Dyna sut y gallant helpu i rymuso'r datblygiad a'r defnydd o systemau prosesu algorithmig mewn ffyrdd diogel a chyfrifol sy'n gefnogi arloesedd ac yn llesol i ddefnyddwyr.

Heddiw, mae'r pedwar corff gwarchod digidol – yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom – yn gwahodd sylwadau ar beth arall sydd ei angen gan reoleiddwyr a ble y dylai diwydiant gamu i'r adwy.

Mae'r pedwar sefydliad yn gweithio ar y cyd drwy'r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF), sydd heddiw yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol, ei gynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod a dau bapur ar algorithmau gyda chais am sylwadau.

Mae cynllun gwaith y DRCF ar gyfer 2022/23 yn cynnwys prosiectau a fydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'n heriau digidol mwyaf, gan gynnwys:

  • Diogelu plant ar-lein - gwella canlyniadau i blant a rhieni trwy sicrhau bod y mesurau diogelu preifatrwydd a diogelwch ar-lein a oruchwylir gan yr ICO ac Ofcom yn gweithio mewn cytgord.
  • Hyrwyddo cystadleuaeth a phreifatrwydd mewn hysbysebu ar-lein - meithrin marchnadoedd hysbysebu ar-lein cystadleuol sy'n cyflwyno arloesedd a thwf economaidd, ar yr un pryd â pharchu hawliau defnyddwyr a diogelu data, trwy waith ar y cyd gan yr ICO a'r CMA.
  • Cefnogi gwelliannau mewn tryloywder algorithmig - cefnogi'r defnydd o brosesu algorithmig er mwyn hyrwyddo ei fuddion a lliniaru'r risgiau i bobl ac i gystadleuaeth, trwy ymchwilio i ddulliau o wella tryloywder ac archwilio algorithmig.
  • Galluogi arloesedd yn y diwydiannau a reoleiddiwn - annog arloesedd cyfrifol ac ymchwilio i fodelau gwahanol o ran sut rydym yn cydlynu ein gwaith â diwydiant er mwyn cefnogi arloesedd.

Dywedodd Gill Whitehead, Prif Weithredwr DRCF:

Mae'r dasg sydd o'n blaenau yn sylweddol - ond drwy gydweithio fel rheoleiddwyr ac mewn cydweithrediad agos ag eraill, ein bwriad yw i'r DRCF wneud cyfraniad pwysig at dirwedd ddigidol y DU er budd pobl a busnesau ar-lein.

“Dim ond un o'r meysydd hynny yw algorithmau. Waeth p'un a ydych chi'n sgrolio ar gyfryngau cymdeithasol, edrych ar restr o ffilmiau neu'n penderfynu beth i'w gael i ginio, mae algorithmau'n brysur wrth eu gwaith ond yn guddiedig yng nghefndir ein bywydau digidol.

Mae hynny'n newyddion da i lawer ohonom ni lawer o'r amser, ond mae yna hefyd ochr broblemus i algorithmau. Gellir eu llywio i achosi niwed neu eu camddefnyddio oherwydd nad yw cwmnïau sy'n eu plygio i mewn i wefannau ac apiau yn eu deall yn ddigonol. Fel rheoleiddwyr, mae angen i ni sicrhau bod y manteision yn drech.

Yn siarad ar ran tîm y prosiect algorithmau, dywedodd Stefan Hunt, Prif Swyddog Mewnwelediad Data a Thechnoleg y CMA:

Mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud ar algorithmau gan y CMA, FCA, ICO ac Ofcom ond mae rhagor i'w wneud.

Rydyn ni'n gofyn nawr, pa waith pellach sydd ei angen, gan gynnwys gennym ni fel rheoleiddwyr a hefyd gan y diwydiant.

Mae heddiw yn nodi cyfle i unrhyw un sy'n ymwneud â defnyddio algorithmau neu sydd â barn arnynt ddweud eu dweud, yn enwedig o ran sut y gallem symud at ymagwedd effeithiol a chymesur at archwilio er mwyn helpu i sicrhau y cânt eu defnyddio'n ddiogel. Mae'r cyfle i gynnig barn ar agor tan ddydd Mercher 8 Mehefin 2022.

Rydym yn gwahodd sylwadau a thrafodaeth ar gynllun gwaith a blaenoriaethau'r DRCF ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dylid cyflwyno'r rhain i DRCF@ofcom.org.uk.

Darllen hefyd...