27 Gorffennaf 2023

A all ‘microdiwtorialau’ helpu i wella diogelwch ar-lein?

Bys yn cyffrwdd â sgrin ffôn yn cwblhau microdiwtorial

Mae ‘microdiwtorialau’ yn amserol, yn benodol ac yn fyr, ac maen nhw’n dod yn fwy ac yn fwy cyffredin i’r rheini ohonom sy’n defnyddio dyfeisiau clyfar. Pan fyddwch chi’n llwytho ap i lawr, byddwch chi’n aml yn cael eich tywys drwy broses sy’n egluro sut i’w ddefnyddio. Byddwch chi’n cael gweld y prif nodweddion.

Efallai y byddwch yn ymarfer eu defnyddio (fel sut i ‘sweipio’ i newid y sgrin)1. Rydych chi’n dysgu mewn dosau bach – drwy diwtorialau bach i ddatblygu eich ymwybyddiaeth, eich gallu a’ch cymhelliant i ddefnyddio’r nodwedd.

Mae diffyg diddordeb mewn nodweddion diogelwch yn broblem o ran diogelwch ar-lein. Roeddem yn awyddus i gael gwybod a allai’r adnoddau newydd hyn helpu i ennyn diddordeb ac addysgu defnyddwyr yn gyflym am y nodweddion sydd ar gael.

Gwella Gallu

Yr ymddygiad y gwnaethom ni ei dargedu oedd riportio cynnwys a allai fod yn niweidiol. Mae tua saith o bob deg defnyddiwr yn dweud eu bod wedi dod ar draws ymddygiad neu gynnwys niweidiol ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Mae riportio yn helpu i dynnu sylw llwyfannau at y cynnwys hwn.

Yn y gorffennol, cynhaliwyd arbrawf gan arbenigwyr Ofcom ar Ddeall Ymddygiad er mwyn ymchwilio i effeithiau cymell ac annog er mwyn ysgogi pobl i riportio. Yn wahanol i annog ‘ar y pryd’, mae microdiwtorialau’n mynd ati mewn ffordd wahanol – maen nhw’n gwella gallu defnyddwyr i riportio, sy’n arwain at fwy o riportio.

Mae ein harbrawf yn seiliedig ar theori gwella gallu. Yn wahanol i anogaeth, sy’n saernïo dewis i lywio penderfyniad ‘ar y pryd’, mae prosesau gwella gallu yn meithrin cymhwysedd, yn bennaf drwy sgiliau, gwybodaeth a dulliau penderfynu2 . Y theori yw bod prosesau gwella gallu yn gallu cael effeithiau parhaol y tu hwnt i’r foment dan sylw.

Ond, mae’n bosibl bod gwella gallu yn gwneud mwy na dim ond meithrin galluogrwydd. Mae model COM-B, yr ydym wedi’i drafod o’r blaen, yn dweud wrthym fod newid gallu yn gallu dylanwadu ar gymhelliant i weithredu. Nod microdiwtorialau yw cynyddu galluoedd defnyddwyr, ond mewn egwyddor gallant hefyd ddylanwadu ar gymhelliant, ac ar ymddygiad yn y pen draw.

Beth sy’n gwella prosesau gwella gallu?

Fe wnaethom ddylunio tri microdiwtorial ar nodweddion ffuglwyfan rhannu fideos (VSP, er enghraifft, Snapchat a TikTok): fersiwn statig, fersiwn fideo a fersiwn ryngweithiol.

Nod y fersiwn statig oedd profi microdiwtorial ar ei ffurf symlaf. Mae’n opsiwn cyflym, sylfaenol.

Mae’r microdiwtorial ar ffurf fideo yn profi a yw profiad mwy diddorol i ddefnyddwyr yn cynyddu effeithiolrwydd. Mae poblogrwydd llwyfannau rhannu fideos yn dangos apêl y fformat hwn.

Mae’r fersiwn ryngweithiol yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn ein treial gêm ddifrifol, lle gwelwyd bod rhyngweithio yn gwella’r broses ddysgu. Mae hefyd yn adeiladu ar y corff cynyddol o ymchwil addysgol sy’n awgrymu bod dysgu gweithredol yn fwy effeithiol na dysgu goddefol3.

Ein harbrawf

Cafodd y cyfranogwyr eu dyrannu ar hap i wneud un o’r microdiwtorialau, neu i beidio â chael microdiwtorial (grŵp rheolydd ‘dim gwybodaeth’). Doedd ganddyn nhw ddim yr opsiwn i anwybyddu’r microdiwtorial. Yna fe wnaethon nhw wylio chwe fideo – tri niwtral, a thri lle’r oedd cynnwys a allai fod yn niweidiol yn ymddangos – heb fod mewn unrhyw drefn benodol. Ni roddwyd unrhyw dasg benodol i’r cyfranogwyr, ar wahân i bori drwy’r fideos a rhyngweithio â nhw fel y byddent fel arfer. Doedd dim cyfarwyddyd i riportio na chyflawni unrhyw weithgaredd arall. Roeddem eisiau gweld effaith y microdiwtorial ar ymddygiad cyffredinol wrth bori.

Hefyd, fe wnaethom ofyn yn benodol i’r defnyddwyr wneud adroddiad ar fideo arall. Roedd yr adran hon o’r arbrawf yn profi’n benodol effaith y microdiwtorial ar allu.

Daeth yr arbrawf i ben gyda chwestiynau yn gofyn barn y cyfranogwyr am lwyfannau rhannu fideos, riportio a’u microdiwtorial penodol nhw.

Pum peth a ddysgwyd

  1. Roedd yr holl ficrodiwtorialau wedi arwain at lawer mwy o riportio pan gafodd y cyfranogwyr eu cymell yn benodol i wneud hynny. Yn amlwg, gall microdiwtorialau gyflawni’r rôl gyfyngedig o gynyddu gallu4.
  2. O ran a ydyn nhw hefyd yn gallu meithrin cymhelliant, heb unrhyw ficrodiwtorial, nid oedd y cyfranogwyr yn riportio rhyw lawer – dim ond 4% oedd wedi riportio o leiaf un fideo a allai fod yn niweidiol. Mae hynny’n golygu mai dim ond 4% o’r rheini a welodd fideo a allai fod yn niweidiol gafodd eu cymell i’w riportio. Mae hyd yn oed y microdiwtorial statig, mwyaf sylfaenol yn cael effaith sylweddol – roedd 9% wedi riportio o leiaf un fideo a allai fod yn niweidiol5. Roedd cael defnyddwyr i wneud dim mwy nag oedi, talu sylw a rhyngweithio â’r wybodaeth am gyfnod byr wedi arwain at fwy o ddefnydd o’r nodwedd diogelwch.
  3. Roedd y microdiwtorial ar ffurf fideo a'r microdiwtorial rhyngweithiol hyd yn oed yn fwy effeithiol – roedd 16% yn y grŵp fideo wedi riportio o leiaf un fideo a allai fod yn niweidiol, a 23% yn y grŵp rhyngweithiol. Mae’r rhain yn effeithiau mawr6. Maen nhw’n awgrymu bod microdiwtorialau yn gallu gwella ymddygiad – nid dim ond gallu. Mae llwyddiant y fersiwn ryngweithiol o'i chymharu â'r fideo hefyd yn dweud wrthym fod rhyngweithio, yn ein hamgylchiadau arbrofol ni beth bynnag, yn well am ysgogi effaith nag yw profiad defnyddwyr. Mae ymarfer ymddygiad, hyd yn oed ddim ond unwaith, yn gallu gwella’r broses ddysgu a chynyddu’r cymhelliant i weithredu’r ymddygiad hwnnw.
  4. Mae perygl y bydd mwy o riportio yn arwain at fwy o adroddiadau annilys, sy’n creu baich i lwyfannau. Ond, ni wnaeth y microdiwtorialau arwain at riportio mwy o gynnwys niwtral wrth gymharu â’r grŵp ‘dim gwybodaeth’.
  5. Cafodd y microdiwtorial ar ffurf fideo a’r microdiwtorial rhyngweithiol effeithiau dilynol cadarnhaol. Roedd y cyfranogwyr yn ymgysylltu mwy â’r platfform yn gyffredinol – yn dewis hoffi, ddim yn hoffi, gwneud sylwadau7 ac ati yn amlach. A dywedodd y cyfranogwyr hefyd eu bod yn teimlo’n fwy hyderus am ddefnyddio llwyfannau rhannu fideos yn fwy cyffredinol – nid dim ond yr un a ddefnyddiwyd yn yr arbrawf8.

Yn y byd go iawn

Mae'n bwysig cofio cyfyngiadau'r math hwn o astudiaeth. Mae’r cyfranogwyr yn gwybod eu bod yn rhan o arbrawf, ac mae’n bosibl na fyddant yn ymddwyn fel y byddent fel arfer. Ni all yr arbrawf hwn ein haddysgu am effaith barhaus microdiwtorialau. Ni allwn ddweud eto a ydyn nhw’n cael yr effeithiau hirdymor y mae’r theori gwella gallu yn eu hawgrymu.

Serch hynny, mae'r arbrawf yn awgrymu y gall microdiwtorialau chwarae rhan yn y broses o 'ysgogi' defnyddwyr i ymgysylltu â mesurau diogelwch, ac mae'n rhoi gwybodaeth am yr hyn sy'n eu gwneud yn llwyddiannus. Mae’n drawiadol bod hyd yn oed microdiwtorialau sylfaenol iawn yn cael effaith sylweddol, a bod modd cynyddu’r effaith honno drwy ryngweithio.

Mae potensial pellach. Nid oedd y microdiwtorialau a ddyluniwyd gennym ni yn rhai graenus nac yn targedu nodweddion penodol. Mae llawer o bosibiliadau i wella profiad y defnyddiwr, a’u gwneud yn fyrrach. Gallai hyn eu gwneud yn fwy effeithiol, a tharfu llai ar daith y defnyddiwr hefyd.

Ar y llaw arall, yn wahanol i’r rhan fwyaf o enghreifftiau yn y byd go iawn, nid oedd gan ein cyfranogwyr yr opsiwn i anwybyddu’r microdiwtorial. Rhoddodd hynny'r cyfle i ni ddysgu am effeithiolrwydd cymharol y microdiwtorialau, ond mae'n golygu nad ydym yn gwybod faint o ddefnyddwyr fyddai'n ymgysylltu â'r microdiwtorial pe bai’n ddewisol. Rydym yn awyddus i gael gwybod hynny.

Helpwch ni i ddysgu mwy

Mae datblygu tystiolaeth ar sail yr addewid a welwyd yn y microdiwtorialau wedi ein helpu i gynyddu ein gwybodaeth am yr amrywiaeth o adnoddau ar-lein sydd ar gael i annog ymddygiadau diogelwch. Rydym am gynhyrchu mwy o dystiolaeth ar effaith ymyriadau ‘gwella gallu’. Mae croeso i chi gysylltu â ni ynghylch ymchwil gysylltiedig neu os hoffech chi drafod treial gyda ni.

I gael rhagor o fanylion am ffurf y canlyniadau hyn a’r dehongliad ohonynt, darllenwch ein papur trafod. Mae ein papur technegol yn cynnwys manylion y dadansoddiad ystadegol o’r data.

Amy Hume ysgrifennodd y darn hwn, ar sail ymchwil gan Rupert Gill, Amy Hume, John Ivory a Pinelopi Skotida gyda Kantar Public Behavioural Practice.

Ymwadiad: Ni ddylid dehongli'r dadansoddiadau, y safbwyntiau na'r canfyddiadau yn yr erthygl hon fel safbwynt swyddogol Ofcom. Mae blogiau Ofcom ar Ddeall Ymddygiad yn cael eu hysgrifennu fel materion o ddiddordeb, ac maen nhw'n cynrychioli barn bersonol yr awdur(on). Ni fwriedir iddynt fod yn ddatganiad swyddogol o bolisi neu syniadau Ofcom.


[1] Ffynhonnell: “A Beginners Guide to Setting Up the Google Pixel 6 Pro”, YouTube, fideo wedi’i lwytho i fyny gan Tech With Brett, 29 Ionawr 2022, https://www.youtube.com/watch?v=7ZkeYOV6Yvo

[2] I weld canllaw craff, darllenwch erthygl Elina Halonen Nudge, boost, budge and shove - what do they all mean? (squarepeginsight.com)

[3] Mewn amgylcheddau arbrofol, mae risg o duedd dymunolrwydd cymdeithasol – mae’n bosibl y byddai'r cyfranogwyr yn riportio mwy oherwydd eu bod yn synhwyro mai dyna sydd dan sylw yn y treial. I osgoi hyn, roedd y microdiwtorialau’n eu haddysgu am holl nodweddion y llwyfan (chwarae, oedi, hoffi, ddim yn hoffi, gwneud sylwadau, rhannu, riportio, anwybyddu) fel nad oedd yn ymddangos bod unrhyw nodwedd benodol yn cael ei hannog.

[4] Roedd y microdiwtorial statig yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 5% (p<0.05), a'r microdiwtorial ar ffurf fideo a'r microdiwtorial rhyngweithiol yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 0.1% (p<0.001)

[5] Yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 1% (p<0.01)

[6] Roedd y microdiwtorial ar ffurf fideo a’r microdiwtorial rhyngweithiol yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 0.1% (p<0.001)

[7] Mae gwaith dadansoddi ychwanegol i’w wneud o hyd ar y mesurau hyn

[8] Roedd y microdiwtorial ar ffurf fideo a’r microdiwtorial rhyngweithiol yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol, ar lefel o 0.1% (p<0.001)