28 Tachwedd 2023

Cenh Z yn sbarduno mabwysiadu AI Cynhyrchiol yn gynnar, yn ôl ein hymchwil ddiweddaraf

Mae plant a'r rhai yn eu harddegau yn y DU yn llawer mwy tebygol nag oedolion o fod wedi cofleidio Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom o fywydau ar-lein y genedl.

Mae AI Cynhyrchiol yn cyfeirio'n fras at algorithmau a all greu cynnwys newydd gan gynnwys testun, delweddau, fideo a chod wrth ymateb i ysgogiad. Ymhlith y gwasanaethau mae ChatGPT, Snapchat My AI, Midjourney neu Bing chat a DALL-E.

Mae pedwar o bob pump (79%) o bobl ifanc 13-17 oed ar-lein bellach yn defnyddio offer a gwasanaethau AI Cynhyrchiol, gyda lleiafrif sylweddol o blant iau 7-12 oed hefyd yn mabwysiadu’r dechnoleg (40%).

Mae defnyddwyr y rhyngrwyd 16 oed a throsodd, ar gyfartaledd, yn ddefnyddwyr cymharol gyndyn o AI Cynhyrchiol (31%). Ymhlith y rhai nad ydynt erioed wedi defnyddio'r dechnoleg hon (69%), nid oes gan bron i un o bob pedwar syniad beth ydyw (24%).

Snapchat My AI - a ddarparwyd am ddim i holl ddefnyddwyr Snap ym mis Ebrill 2023 - yw'r offeryn AI Cynhyrchiol mwyaf poblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc, gan gael ei ddefnyddio gan hanner (51%) y plant 7-17 oed ar-lein. Merched yn eu harddegau ar-lein yw ei ddefnyddwyr mwyaf selog (75%).

ChatGPT yw’r gwasanaeth AI Cynhyrchiol a ddefnyddir fwyaf ymhlith defnyddwyr rhyngrwyd 16 oed a hŷn (23%). Ymhlith pobl ifanc ar-lein 7-17 oed, mae bechgyn yn ddefnyddwyr mwy brwd o ChatGPT na merched (34% o'i gymharu â 14%).

Cromlin ddysgu ddofn

Mae defnyddwyr rhyngrwyd 16+ oed yn dechrau dod i ben â'r dechnoleg eginol hon. Mae’r rhan fwyaf yn defnyddio AI Cynhyrchiol am hwyl (58%), mae traean yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith (33%) ac mae chwarter (25%) yn troi ato am gymorth gyda’u hastudiaethau.

Sgwrsio ac archwilio galluoedd AI Cynhyrchiol yw'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd (48%), ac yna dod o hyd i wybodaeth neu gynnwys (36%) a cheisio cyngor (22%).

Mae pobl hefyd yn defnyddio AI Cynhyrchiol ar gyfer tasgau creadigol gan gynnwys dyfeisio testun, er enghraifft barddoniaeth neu eiriau caneuon (20%), creu delweddau (20%), gwneud fideos (9%) a sain (4%). Mae un o bob deg (11%) yn ei ddefnyddio ar gyfer codio.

Ond mae defnyddwyr y rhyngrwyd hefyd yn ymwybodol o risgiau posibl AI Cynhyrchiol, gyda thros hanner (58%) yn pryderu am ei effaith ar gymdeithas yn y dyfodol. Yn ddiddorol, y defnyddwyr mwyaf toreithiog o AI Cynhyrchiol ymhlith y grŵp ehangach hwn - y rhai 16-24 oed ar-lein - hefyd yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o boeni am ei oblygiadau cymdeithasol (67%).

"Mae dod i ben yn gyflym â thechnoleg newydd yn ail natur i Gen Z, ac nid yw AI Cynhyrchiol yn eithriad. Er mai plant a phobl ifanc sy'n gyrru ei fabwysiad cynnar, rydym hefyd yn gweld defnyddwyr hŷn y rhyngrwyd yn archwilio ei alluoedd, ar gyfer gwaith a hamdden.

"Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai pobl yn poeni am yr hyn y mae AI yn ei olygu ar gyfer y dyfodol. Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, rydym eisoes yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o’r cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â thechnolegau newydd a'r rhai sy’n dod i’r amlwg, fel y gall arloesi ffynnu ar yr un pryd ag amddiffyn diogelwch defnyddwyr."

Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom

Mae rhai cwmnïau technoleg yn datblygu ac yn integreiddio offer a fydd yn dod o dan gwmpas y cyfreithiau Diogelwch Ar-lein newydd. Felly, byddwn yn edrych ar sut mae'r cwmnïau hyn yn mynd ati'n rhagweithiol i asesu risgiau diogelwch eu cynhyrchion a gweithredu mesurau lliniaru effeithiol i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed posibl.

Rydym yn parhau i fonitro datblygiadau ehangach yn y farchnad a thechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys offer a gwasanaethau AI Cynhyrchiol, er mwyn deall yn well y cyfleoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw.

Darllen am fwy o dueddiadau o'n hymchwil Ein Gwlad Ar-lein.

Related content