24 Ebrill 2023

Hanner y cartrefi incwm isel yn ansicr ynghylch tariffau cymdeithasol band eang

  • Gallai miliynau o gartrefi arbed tua £200 y flwyddyn drwy newid i dariff cymdeithasol band eang
  • Mae nifer y bobl sydd ar dariffau cymdeithasol wedi cynyddu bedair gwaith ers mis Ionawr 2022, ond mae’r mwyafrif helaeth yn dal i golli allan ar dorri eu bil yn ei hanner
  • Mae Ofcom a Which? yn annog cwsmeriaid i weithredu nawr i fanteisio ar y ‘gyfrinach orau am fand eang’

Nid yw mwy na hanner y cartrefi incwm isel yn gwybod am fargeinion band eang a allai arbed tua £200 y flwyddyn iddynt, gyda dim ond 5% o gartrefi cymwys wedi ymrwymo i becyn am bris gostyngol.

Mae’r cynigion arbennig hyn, sy’n cael eu galw’n dariffau cymdeithasol, ar gael i tua 4.3 miliwn o gartrefi sy’n cael un o amrywiaeth o fuddion gan y Llywodraeth. Mae’r pecynnau’n cynnig cyflymderau cyflym iawn, yn ogystal â rhewi prisiau am gyfnod y contract, am gyn lleied â £12 y mis.

Fodd bynnag, er bod y nifer sydd ar dariffau cymdeithasol wedi cynyddu bedair gwaith ers mis Ionawr 2022, mae ymchwil Ofcom yn dangos mai dim ond 220,000 (5.1%) sydd wedi ymrwymo i’r cynigion hyn, a allai haneru cost flynyddol band eang.

Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd nifer y darparwyr sy’n cynnig tariff cymdeithasol band eang yn sylweddol, ac mae tua 85% o gwsmeriaid nawr yn gallu newid i un gyda’u darparwr presennol heb dalu ffi. Ar ben hynny, mae tri darparwr symudol hefyd yn cynnig tariff cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o’r bargeinion hyn yn dal yn isel, gan fod dros hanner y cartrefi cymwys (53%) yn dal yn anymwybodol o’u bodolaeth yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae Ofcom yn poeni nad yw darparwyr band eang yn bod agored gyda miliynau o gwsmeriaid ynghylch sut mae dod o hyd i’r pecynnau hyn ac ymrwymo iddynt. Felly, ochr yn ochr â Which?, rydyn ni’n tynnu sylw pobl at y gyfrinach fwyaf yn ymwneud â band eang, ac yn annog unrhyw un sydd ar fudd gan y Llywodraeth i gysylltu â’u darparwr heddiw i ymrwymo i fargen ratach.

Mae

220,000

o aelwydydd ar dariff cymdeithasol ers mis Chwefror 2023

Mae

4.3

miliwn o gartrefi ar Gredyd Cynhwysol

Mae

5.1%

o gartrefi yn y DU sy'n cael Credyd Cynhwysol ar dariff cymdeithasol

Nid oedd

53%

o hawlwyr budd-daliadau yn ymwybodol o dariffau cymdeithasol ym mis Chwefror 2023

Codi ymwybyddiaeth

Er bod Ofcom yn croesawu’r cynnydd yn nifer y tariffau cymdeithasol band eang, mae’r ffigurau isel yn dangos bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y rheini sydd fwyaf mewn angen yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael.

O’r cwsmeriaid cymwys sy’n ymwybodol o dariffau cymdeithasol, roedd y rhan fwyaf wedi cael gwybod amdanyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol (26%) ac ar y teledu (21%). Ond dim ond 9% oedd wedi cael gwybod am dariffau cymdeithasol drwy eu darparwr, sy’n dangos bod angen i’r diwydiant wneud mwy i hyrwyddo eu tariffau cymdeithasol yn effeithiol a’u gwneud yn haws dod o hyd iddynt.

Yn ein hadolygiad o wefannau darparwyr, gwelsom ei bod yn dal yn anodd dod o hyd i wybodaeth am dariffau cymdeithasol mewn rhai achosion a gwelsom enghreifftiau o wybodaeth anghywir am y bargeinion ar dudalennau gwe.

Rydyn ni wedi codi’r pryderon hyn gyda darparwyr ac wedi gofyn iddyn nhw adolygu eu tudalennau gwe ar dariffau cymdeithasol fel mater o frys, i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir, yn glir ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr, ac yn tynnu sylw at yr holl fesurau diogelu y mae tariffau cymdeithasol yn eu cynnig.

Ar ben hynny, mae Ofcom yn parhau i annog TalkTalk ac O2 i gyflwyno tariffau cymdeithasol yn y marchnadoedd band eang a symudol yn y drefn honno, ac rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw hepgor ffioedd ar gyfer cwsmeriaid sydd eisiau newid darparwyr i gael mynediad at un yn y cyfamser.

Mae cannoedd o filoedd o gwsmeriaid nawr yn elwa o’r arbedion enfawr y gellir eu gwneud drwy ymrwymo i dariff cymdeithasol.Ond mae miliynau’n dal i golli allan ar gyflymderau cyflym iawn am brisiau isel iawn – gyda llawer ddim yn gwybod eu bod yn bodoli hyd yn oed.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n meddwl y gallan nhw fod yn gymwys i gael disgownt i gysylltu â’u darparwr heddiw ac mae’n bosib y byddan nhw’n gallu arbed cannoedd o bunnoedd. Dylai darparwyr hefyd wneud llawer mwy i helpu’r cwsmeriaid hyn i ddod o hyd i’r bargeinion hyn, ar adeg pan allai’r arbedion hyn wneud gwahaniaeth enfawr.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

Gyda miliynau o gartrefi ledled y wlad yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, mae’n warthus bod rhai darparwyr yn dal i guddio eu tariffau cymdeithasol oddi wrth eu cwsmeriaid.

Mae angen i ddarparwyr band eang wella eu hymdrechion i hyrwyddo eu tariffau cymdeithasol i’r rheini ar incwm isel a sicrhau nad yw pobl yn colli allan yn ddiangen. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau nad oes rhaid i gwsmeriaid dalu unrhyw Gostau Terfynu Cynnar er mwyn symud i dariff cymdeithasol cwmni arall.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n meddwl y gallan nhw fod yn gymwys i gael tariff cymdeithasol i gysylltu â’u darparwr cyn gynted â phosibl – oherwydd gallai newid i’r cyfraddau disgownt hyn haneru eu biliau ar unwaith.

Rocio Concha, Cyfarwyddwr Polisi ac Eiriolaeth Which?

Pwysau o ran costau byw yn parhau

Ym mis Ionawr 2023, dywedodd tri chartref o bob deg (29%) fod ganddyn nhw broblem o ran fforddiadwyedd wrth dalu am eu biliau ffôn, band eang, teledu drwy dalu neu ffrydio, sy’n cyfateb i tua 8.1 miliwn o gartrefi. Mae hyn yn debyg i’r lefel uchaf erioed, sef 32%, a gafodd ei gofnodi ym mis Hydref 2022.

Gall problemau fforddiadwyedd gynnwys gorfod lleihau gwariant mewn mannau eraill i dalu am wasanaeth, newid bargen, neu fethu bil.

Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod 6% o gartrefi sydd â band eang ac 8% sydd â ffôn symudol yn ei chael yn anodd fforddio eu gwasanaeth. Cododd hyn i 11% ac 17% yn y drefn honno ar gyfer cartrefi ar fudd-daliadau’r Llywodraeth.

Canfu dadansoddiad Ofcom fod cartrefi ag unigolion iau, yn ogystal â’r rheini mewn gwaith rhan-amser neu ddim mewn gwaith, yn fwy tebygol o gael problemau fforddiadwyedd gyda’u gwasanaethau band eang a symudol. Rydyn ni’n annog darparwyr i fynd ati i dargedu tariffau cymdeithasol at y cwsmeriaid hyn.

Nodiadau

  1. Ar gyfartaledd, gallai cartrefi cymwys arbed £202 y flwyddyn drwy newid i dariff cymdeithasol. Ceir y cyfrifiad enghreifftiol hwn fel y gwahaniaeth rhwng y gwariant blynyddol cyfartalog ar dariff cymdeithasol a’r gwariant blynyddol cyfartalog ar dariff masnachol cymharol.
    Ar gyfartaledd, gallai cartrefi cymwys arbed £202 y flwyddyn drwy newid i dariff cymdeithasol. Ceir y cyfrifiad enghreifftiol hwn fel y gwahaniaeth rhwng y gwariant blynyddol cyfartalog ar dariff cymdeithasol a’r gwariant blynyddol cyfartalog ar dariff masnachol cymharol.
  2. Mae canfyddiadau Traciwr Fforddiadwyedd Cyfathrebu Ofcom ar gyfer mis Ionawr 2023 yn dangos bod 29% o gartrefi wedi dweud eu bod yn cael trafferth fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu. Mae hyn yn cyfateb i tua 8.1 miliwn o gartrefi (+/-800,000)
  3. Mae Which? wedi cyhoeddi canllaw newydd sy’n crynhoi’r meini prawf cymhwysedd a’r camau y mae angen i bobl eu cymryd i symud i dariff cymdeithasol gyda phob un o’r prif ddarparwyr band eang.

Related content