5 Rhagfyr 2023

Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Amddiffyn plant rhag pornograffi ar-lein

  • Ofcom yn rhoi canllawiau ar wiriadau oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cyrchu gwasanaethau pornograffi ar-lein
  • Gallai dulliau gynnwys paru â llun ID, amcangyfrif oedran wyneb a gwiriadau cardiau credyd
  • Rhaid i wasanaethau ofalu eu bod yn diogelu preifatrwydd defnyddwyr a hawliau oedolion i gyrchu pornograffi cyfreithlon

Mae plant ar fin cael eu hamddiffyn rhag cyrchu pornograffi ar-lein o dan ganllawiau gwirio oedran newydd a gynigir gan Ofcom heddiw i helpu gwasanaethau i gydymffurfio â chyfreithiau diogelwch ar-lein.

Dengys yr ymchwil ddiweddaraf[1] mai’r oedran cyfartalog y mae plant yn gweld pornograffi ar-lein am y tro cyntaf yw 13 - er hynny, mae bron i chwarter yn dod ar ei draws erbyn 11 oed (27%), ac un o bob deg mor ifanc â 9 oed (10%). At hynny, mae bron i 8 o bob 10 o blant (79%) wedi dod ar draws pornograffi treisgar yn dangos gweithredoedd rhyw gorfodol, diraddiol neu sy'n achosi poen cyn troi'n 18 oed.

O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i wefannau ac apiau sy’n arddangos neu’n cyhoeddi cynnwys pornograffig[2] sicrhau nad yw plant fel arfer yn gallu dod ar draws pornograffi ar eu gwasanaeth.

I wneud hyn, mae'n rhaid iddynt gyflwyno dulliau 'sicrwydd oedran' – trwy wirio oedran, amcangyfrif oedran neu gyfuniad o'r ddau – sy'n 'hynod effeithiol' wrth bennu'n gywir a yw defnyddiwr yn blentyn ai beidio. Dylai rheolaethau mynediad effeithiol atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar y gwasanaeth hwnnw.

Yr oedran cyfartalog y mae plant yn gweld pornograffi ar-lein am y tro cyntaf yw

13 oed

– ond mae bron i chwarter ohonynt yn dod ar ei draws erbyn

11 oed

ac un o bob deg mor ifanc â 9 oed (10%).

    Dulliau sicrwydd oedran hynod effeithiol

    Gwaith Ofcom yw cynhyrchu canllawiau i helpu gwasanaethau pornograffi ar-lein i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol, a’u dwyn i gyfrif os nad ydynt yn gwneud hynny. Mae ein canllawiau drafft yn gosod meini prawf llym y mae'n rhaid i wiriadau oedran eu bodloni i gael eu hystyried yn hynod effeithiol; dylent fod yn dechnegol gywir, yn gadarn, yn ddibynadwy ac yn deg.

    Rydym hefyd yn disgwyl i wasanaethau ystyried buddiannau pob defnyddiwr wrth roi sicrwydd oedran ar waith. Mae hynny'n golygu rhoi amddiffyniad cryf i blant, a gofalu bod hawliau preifatrwydd yn cael eu diogelu a bod oedolion yn dal i allu cael mynediad at bornograffi cyfreithlon.

    O ystyried bod y dechnoleg sy’n sail i sicrwydd oedran yn debygol o ddatblygu a gwella yn y dyfodol, mae ein canllawiau'n cynnwys rhestr sydd heb fod yn hollgynhwysfawr o ddulliau y credwn ar hyn o bryd y gallent fod yn hynod effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Bancio agored. Gall defnyddiwr roi caniatâd i'w banc rannu gwybodaeth yn cadarnhau ei fod dros 18 oed gyda'r gwasanaeth pornograffi ar-lein. Nid yw eu dyddiad geni llawn yn cael ei rannu.
    • Paru â llun ID. Gall defnyddwyr uwchlwytho dogfen ID â llun arni, fel trwydded yrru neu basbort, sydd wedyn yn cael ei gymharu â delwedd o'r defnyddiwr ar y pwynt uwchlwytho i wirio mai'r un person ydyn nhw.
    • Amcangyfrif oedran yr wyneb. Mae nodweddion wyneb defnyddiwr yn cael eu dadansoddi i amcangyfrif eu hoedran.[3]
    • Gwiriadau oedran gweithredwr rhwydwaith symudol. Mae rhai darparwyr symudol yn y DU yn gweithredu cyfyngiad diofyn ar gynnwys yn awtomatig sy'n atal plant rhag cyrchu gwefannau sydd â chyfyngiad oedran. Gall defnyddwyr ddileu'r cyfyngiad hwn trwy brofi i'w darparwr ffôn symudol eu bod yn oedolyn, ac yna caiff y cadarnhad hwn ei rannu â'r gwasanaeth pornograffi ar-lein.
    • Gwiriadau cerdyn credyd. Yn y DU, mae'n rhaid i ddyroddwyr cerdyn credyd wirio bod ymgeiswyr dros 18 oed cyn rhoi cerdyn credyd iddynt. Gall defnyddiwr ddarparu manylion ei gerdyn credyd i'r gwasanaeth pornograffi ar-lein, ac wedi hynny mae offer prosesu taliadau'n anfon cais i'r banc a'i ddyroddodd i wirio bod y cerdyn yn ddilys. Gellir cymryd bod cymeradwyaeth gan y banc yn dystiolaeth bod y defnyddiwr dros 18 oed.
    • Waledi adnabod digidol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys y rhai a restrir uchod, gall defnyddwyr storio eu hoedran yn ddiogel mewn fformat digidol, y gall y defnyddiwr wedyn ei rannu â'r gwasanaeth pornograffi ar-lein.

    Ni fydd gwiriadau oedran gwannach yn ddigonh

    Rydym hefyd yn glir na fydd rhai dulliau sicrwydd oedran yn bodloni'r safonau a osodir o dan ein canllawiau drafft. Mae'r dulliau gwannach hyn yn cynnwys:

    • hunan-ddatgan oedran;
    • dulliau talu ar-lein nad ydynt yn mynnu i'r person fod yn 18 oed (Cardiau Debyd, Solo, neu Electron, er enghraifft); a
    • thelerau, ymwadiadau neu rybuddion cyffredinol.

    Yn ogystal, rydym yn pennu bod yn rhaid i'r cynnwys pornograffig beidio â bod yn weladwy i ddefnyddwyr cyn, nac yn ystod, y broses o gwblhau gwiriad oedran. Ni ddylai gwasanaethau ychwaith gynnal na chaniatáu cynnwys sy'n cyfeirio neu'n annog plant i geisio osgoi rheolaethau oedran a mynediad.

    “Mae pornograffi'n rhy hygyrch i blant ar-lein, ac mae’r cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd yn glir bod yn rhaid i hynny newid.

    “Mae ein canllawiau ymarferol yn nodi ystod o ddulliau gwirio oedran hynod effeithiol. Rydym yn glir na fydd dulliau gwannach - fel caniatáu i ddefnyddwyr ddatgan eu hoedran eu hunain - yn cyrraedd y safon hon.

    “Waeth beth yw eu dull, rydym yn disgwyl i bob gwasanaeth gynnig amddiffyniad cadarn i blant rhag baglu ar draws pornograffi, a hefyd i ofalu bod hawliau preifatrwydd a rhyddid oedolion i gyrchu cynnwys cyfreithlon yn cael eu diogelu.”

    Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

    Agweddau tuag at sicrwydd oedran

    Mae'r mwyafrif helaeth o bobl (80% ar gyfartaledd – 87% o fenywod a 77% o ddynion) yn gefnogol ar y cyfan o sicrwydd oedran ar wefannau pornograffig ar-lein fel modd o amddiffyn plant.[4] Mae menywod gyda phlant yn arbennig o gefnogol oherwydd pryderon am effaith bosibl gwylio cynnwys pornograffig ar-lein yn ifanc.

    Ymhlith oedolion sydd wedi gweld pornograffi ar-lein o’r blaen, mae eu pryderon mwyaf ynghylch profi eu hoedran i gyrchu’r cynnwys yn ymwneud â diogelu data (52%) a rhannu gwybodaeth bersonol (42%).

    Diogelu hawliau preifatrwydd a mynediad oedolion at gynnwys cyfreithlon

    Mae pob dull sicrwydd oedran yn ddarostyngedig i gyfreithiau preifatrwydd y DU, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â phrosesu data personol. Mae'r rhain yn cael eu goruchwylio a'u gorfodi gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sydd wedi ein cynorthwyo wrth ddatblygu ein canllawiau.

    O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae’n ofynnol i wasanaethau pornograffi ar-lein gadw cofnodion ysgrifenedig sy’n egluro sut y maent yn amddiffyn defnyddwyr rhag torri’r cyfreithiau hyn. Mae ein canllawiau'n cynnig ffyrdd ymarferol o wneud hyn – gan gynnwys, er enghraifft, cynnal asesiad o’r effaith ar ddiogelu data, a darparu gwybodaeth preifatrwydd i ddefnyddwyr megis sut y caiff eu data personol ei brosesu, am ba mor hir y caiff ei gadw, ac a gaiff ei rannu ag unrhyw un arall.

    Argymhellwn hefyd y dylai gwasanaethau ddarllen canllawiau’r ICO[5] i ddeall sut i gydymffurfio â’r drefn diogelu data, yn ogystal â’i Farn ar Sicrwydd Oedran ar gyfer y Cod Plant, y disgwyliwn iddo gael ei ddiwygio ym mis Ionawr 2024.

    Er mwyn sicrhau nad yw oedolion yn cael eu hatal yn ormodol rhag cyrchu cynnwys cyfreithlon, mae ein canllawiau drafft hefyd yn nodi egwyddorion pwysig y dylai sicrwydd oedran fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn effeithiol fel ei fod yn gweithio i bob defnyddiwr, waeth beth fo'u nodweddion neu a ydynt yn aelodau o grŵp penodol.

    Y camau nesaf

    Mae Ofcom yn disgwyl i wasanaethau pornograffi ar-lein weithio gyda ni, wrth i’n canllawiau drafft gael eu cwblhau ac wedi hynny, fel eu bod yn gwbl barod i gydymffurfio pan ddaw’r amser. Bydd cwmnïau sy'n methu â chyrraedd y nod yn y pen draw yn wynebu camau gorfodi, gan gynnwys dirwyon posibl.

    Disgwyliwn gyhoeddi ein canllawiau terfynol yn gynnar yn 2025, ac ar ôl hynny bydd Llywodraeth y DU yn dod â’r dyletswyddau hyn i rym.

    Nodiadau i olygyddion

    1. ‘A lot of it is actually just abuse’- Young people and pornography | Children's Commissioner for England (childrenscommissioner.gov.uk)
    2. Mae Rhan 5 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i ddarparwyr sy’n cyhoeddi neu’n dangos cynnwys pornograffig ar eu gwasanaethau ar-lein. Mae'r mathau canlynol o gynnwys pornograffig y tu allan i gwmpas Rhan 5 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein:
      • cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o fewn ystyr adran 55(3) a (4) o’r Ddeddf mewn perthynas â gwasanaeth rhyngrwyd;
      • testun, gan gynnwys testun â GIF (ar yr amod nad yw'n bornograffig), emoji neu symbol arall ynghlwm wrtho;
      • hysbysebion y telir amdanynt (fel y'i diffinnir yn Adran 236 o'r Ddeddf);
      • cynnwys sy'n ymddangos yng nghanlyniadau chwilio peiriant chwilio neu wasanaeth cyfunol; a
      • chynnwys sy’n ymddangos ar wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) sy’n cael ei reoleiddio gan Ofcom o dan Ran 4A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003

      Ymdrinnir â chynnwys pornograffig ar wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaethau chwilio yn ein hymgynghoriad Amddiffyn Plant y disgwyliwn ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2024.

    3. Mae ein canllawiau drafft hefyd yn awgrymu y gellid pennu 'oedran herio'. Gallai hyn olygu, lle mae'r dechnoleg yn amcangyfrif bod oedran y defnyddwyr o dan 25 oed, er enghraifft, y byddai'r defnyddiwr hwnnw'n destun ail wiriad oedran trwy ddull arall.

      Rydym yn ymwybodol bod ystod eang o ddulliau amcangyfrif oedran yn bodoli. Ar hyn o bryd, rydym ond wedi cynnig cynnwys amcangyfrif oedran yr wyneb yn ein canllawiau, gan nad oes gennym dystiolaeth i awgrymu bod gan ddulliau amcangyfrif oedran eraill y gallu i fod yn hynod effeithiol ar hyn o bryd, eu bod yn dechnolegau digon aeddfed, neu'n gallau cael eu defnyddio ar raddfa fawr. Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon dros amser wrth i dechnolegau esblygu.

    4. https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0029/245576/2022-adult-attitudes-to-age-verification-adult-sites.pdf

    5. ICO, 2023, A guide to the data protection principles [cyrchwyd 17 Tachwedd 2023];ICO, A guide to lawful basis [cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]; acICO,Individual rights – guidance and resources [cyrchwyd 17 Tachwedd 2023].

    Related content