15 Mai 2023

Ofcom yn lansio ymchwiliad i berfformiad dosbarthu’r Post Brenhinol ar gyfer 2022/23

Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad heddiw i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau dosbarthu ar gyfer 2022/23.

O dan ein rheolau, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad penodol dros y flwyddyn, ac eithrio cyfnod y Nadolig. Ymysg targedau eraill, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol wneud y canlynol:

  • dosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu;
  • dosbarthu 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu;
  • cwblhau 99.9% o lwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthu post.

Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi heddiw nad oedd wedi cyrraedd y targedau perfformiad uchod yn 2022/23, gan ei fod wedi gwneud y canlynol:

  • dosbarthu 73.7% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith;
  • dosbarthu 90.7% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith;
  • cwblhau 89.35% o lwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthu post.

Mae ansawdd gwasanaeth yn bwysig iawn i Ofcom. Wrth benderfynu a yw’r cwmni wedi mynd yn groes i’w rwymedigaethau, byddwn yn ystyried a fu unrhyw ddigwyddiadau eithriadol – y tu hwnt i reolaeth y cwmni – a allai egluro pam ei fod wedi methu ei dargedau.

Os nad oes esboniad boddhaol ar gael, a’n bod yn penderfynu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau, efallai y byddwn yn ystyried a ddylid gosod cosb ariannol.

Y llynedd, fe wnaethom rybuddio’r cwmni na allai ddefnyddio dylanwad Covid-19 fel esgus dros berfformiad gwael o ran dosbarthu.

Problem gyda'ch post?

Gallai ein cyngor fod o gymorth.

Related content