14 Medi 2023

Datgelu’r tueddiadau diweddaraf o ran perfformiad band eang cartref

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf i berfformiad gwasanaethau band eang cartref yn y DU.

Mae ein canfyddiadau, sy’n cael eu casglu drwy fesur y perfformiad a ddarperir i lwybryddion eu cwsmeriaid ac o ddata a ddarperir i ni gan bedwar darparwr band eang mwyaf y DU, yn taflu goleuni ar y cyflymder a’r cysylltiadau sydd ar gael i bobl yn y DU.

Cyflymder lawrlwytho’n codi

Mae ein hymchwil yn dangos bod cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar gyfer band eang cartref wedi parhau i godi. Y cyflymder lawrlwytho cyfartalog oedd 69.4 Mbit yr eiliad (Mbit/e) ym mis Mawrth 2023, sef cynnydd o 17% o flwyddyn i flwyddyn, wrth i bobl uwchraddio i wasanaethau lled band uwch, gan gynnwys cysylltiadau ffeibr llawn.

Mae cyflymder lawrlwytho’n pennu’r amser mae’n ei gymryd i wybodaeth gael ei darparu i ddyfais defnyddiwr. Mae cyflymder lawrlwytho uwch yn bwysig wrth lawrlwytho ffeiliau mawr, fel gemau, ffilmiau, neu apiau, neu wrth ffrydio cynnwys fideo manylder uchel.

88% oedd y ganran o linellau a dderbyniodd gyflymder lawrlwytho 24 awr cyfartalog o 30 Mbit/e o leiaf ym mis Mawrth 2023, i fyny o 83% ym mis Mawrth 2022. Roedd gan dri y cant o gysylltiadau gyflymder lawrlwytho gwirioneddol o lai na 10 Mbit/e yn 2023, i lawr o 4% yn 2022. Roedd gan lai nag 1% o linellau gyflymder lawrlwytho a hysbysebwyd o dan 10 Mbit/e.

Cyflymder uwchlwytho’n codi’n llymach fyth

Yn y cyfamser, roedd cynnydd mawr yn y cyflymder uwchlwytho cyfartalog, gan godi i 18.4 Mbit/e ym mis Mawrth 2023. Roedd hwn yn gynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 7.8 Mbit/e (73%).

Y bwlch rhwng cyflymder trefol a gwledig wedi culhau

Roedd gwahaniaeth o 26% rhwng cyflymder lawrlwytho trefol cyfartalog (70.3 Mbit/e) a gwledig (56.0 Mbit/e) yn ystod yr oriau brig 8pm-10pm – i lawr o 58% yn 2022.

Pecynnau cebl a ffeibr llawn a ddarparodd y cyflymder lawrlwytho uchaf

Dros wasanaethau cebl a ffeibr llawn y cofnodwyd y cyflymder cyfartalog uchaf. Cofnododd cysylltiadau cebl y cynnydd mwyaf yn eu cyflymder lawrlwytho cyfartalog, gan godi 71.3 Mbit/e (36%) i 270.6 Mbit/e. Cododd y cyflymder lawrlwytho cyfartalog a ddarparwyd gan gysylltiadau ffeibr llawn 1.9 Mbit/e (1%) o flwyddyn i flwyddyn i 149.2 Mbit/e.

Er y gall pobl gael perfformiad gwell drwy newid technoleg neu becyn, ychydig o wahaniaethau oedd rhwng y gwasanaethau cymharol a gynigiwyd gan ddarparwyr sy’n defnyddio’r un rhwydwaith Openreach.

Tagfeydd yn y rhwydwaith yn arwain at gyflymder lawrlwytho is

Gall cyflymder lawrlwytho cyfartalog arafu pan fo rhwydweithiau band eang yn brysur. Enw hyn yw tagfa neu gystadlu yn y rhwydwaith. Ar draws pob cysylltiad, roedd y cyflymder lawrlwytho oriau brig cyfartalog 8-10pm (67.7 Mbit/e) yn 95% o’r uchafswm cyflymder cyfartalog o 71.0 Mbit/e – dyma gynnydd o’r 94% a gofnodwyd ym mis Mawrth 2022. Yn yr un modd, roedd yr isafswm cyflymder dyddiol cyfartalog (63.3 Mbit/e) yn 89% o’r uchafswm cyflymder cyfartalog, i fyny o 87% ym mis Mawrth 2022. Roedd effaith tagfa yn y rhwydwaith yn ystod cyfnodau prysur ar ei hisaf ar gyfer llinellau ffeibr llawn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n hadroddiad llawn.

Ac i gael gwybod sut i fanteisio i’r eithaf ar eich band eang, mynnwch olwg ar ein canllaw.

Related content