17 Mawrth 2023

Datgelu’r tueddiadau diweddaraf o ran perfformiad band eang yn y cartref

Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Perfformiad Band Eang yn y Cartref diweddaraf, sy’n amlinellu sut mae gwahanol wasanaethau band eang yn perfformio a sut maen nhw’n amrywio yn ôl ffactorau gan gynnwys y darparwr, y dechnoleg, y lleoliad a’r pecyn.

Rydyn ni’n casglu’r ymchwil hwn ar sail data gan wirfoddolwyr sy’n cysylltu uned fonitro â’u llwybrydd band eang; a data a ddarperir i ni gan ddarparwyr band eang.

Mae’r canfyddiadau’n helpu i dynnu sylw at ddatblygiadau yn y gwasanaethau band eang sydd ar gael i gartrefi yn y DU, a gallant helpu pobl i ganfod y pecyn iawn ar eu cyfer.

Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn tynnu sylw at nifer o dueddiadau.

Mae cyflymder band eang yn y cartref wedi parhau i dyfu

Erbyn mis Medi 2022, 65.3 Mbit yr eiliad oedd y cyflymder llwytho i lawr cyfartalog ar gyfer cysylltiadau band eang yn y cartref yn y DU, cynnydd o 10% o’i gymharu â mis Mawrth 2022. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod pobl yn uwchraddio i wasanaethau cyflymach.

Roedd gan lai na 3% o gartrefi gyflymder cyfartalog o lai na 10 Mbit yr eiliad, gyda chysylltiadau cebl yn cynnig y cyflymder llwytho i lawr cyfartalog uchaf.

Mae gan fwy na naw cartref o bob deg sydd â band eang becynnau cyflym iawn

Roedd cyfran y cartrefi yn ein hymchwil gyda chysylltiadau band eang sy’n defnyddio pecyn cyflym iawn (gyda chyflymder llwytho i lawr o 30 Mbit yr eiliad neu uwch) yn 93%. Ac mae 10% yn defnyddio pecynnau gwibgyswllt gyda chyflymder o 300 Mbit yr eiliad neu uwch.

Mae cyflymder llwytho i fyny hefyd yn cynyddu

Mae cyflymder llwytho i fyny – sy’n arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sy’n defnyddio gwasanaethau cyfathrebu fideo fel Zoom neu Teams, neu sy’n chwarae gemau fideo ar-lein – hefyd yn cynyddu. Roedd cyflymder llwytho i fyny cyfartalog wedi cynyddu 46% rhwng mis Mawrth a mis Medi 2022, i 15.5 Mbit yr eiliad. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod mwy o bobl yn defnyddio pecynnau band eang gwibgyswllt.

Mae’r cyflymderau’n arafach yn ystod cyfnodau prysur

Ar gyfartaledd, roedd cyflymder llwytho i lawr yn ystod yr oriau prysuraf o 8pm i 10pm 5% yn arafach na’r cyflymder uchaf cyfartalog.

Gwelsom hefyd fod y cyflymderau cyfartalog ar eu hisaf ar draws yr holl wahanol fathau o dechnoleg band eang rhwng 9pm a 9.59pm, a’u bod ar eu huchaf rhwng hanner nos a 5.59am.

Cebl a ffeibr llawn sy’n cynnig y cyflymderau uchaf

O’r pecynnau band eang cartref a arolygwyd gennym, gwasanaeth 1.1 Gbit yr eiliad Virgin Media oedd â’r cyflymder llwytho i lawr cyflymaf, sef 1,139 Mbit yr eiliad, ac roedd ganddo hefyd y cyflymder llwytho i fyny cyfartalog cyflymaf ar y cyd, gyda gwasanaeth 300 Mbit yr eiliad BT, tua 51Mbit yr eiliad.

Mae’r gwasanaethau sy’n defnyddio rhwydwaith Openreach yn eithaf tebyg

Er bod cwsmeriaid yn gallu cael perfformiad gwell drwy newid technoleg neu newid i becyn â chyflymder uwch, canfuom mai ychydig o wahaniaethau oedd rhwng gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan BT, EE, Plusnet, Sky a TalkTalk, sydd i gyd yn defnyddio’r un rhwydwaith Openreach.

Mwy o wybodaeth

Oeddech chi’n gwybod bod gennych chi hawl i gael cyflymder wedi’i warantu pan fyddwch chi’n ymrwymo i gynnig band eang newydd? Mae ein Cod Ymarfer ar Gyflymderau Band Eang yn golygu y dylech gael gwybodaeth glir am gyflymderau pan fyddwch yn prynu gwasanaeth band eang – ac os nad yw eich darparwr yn darparu’r cyflymderau a addawyd i chi, mae gennych hawl i adael y contract heb gael eich cosbi os na allant ei drwsio o fewn 30 diwrnod.

Hefyd, mae ein cynllun iawndal awtomatig yn golygu y gall cwsmeriaid band eang a llinell dir gael arian yn ôl gan eu darparwyr pam mae pethau’n mynd o chwith, a hynny heb ofyn amdano.

Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch pecyn band eang – efallai nad ydych chi’n cael y cyflymder a addawyd i chi, neu os ydych chi wedi dod o hyd i fargen well drwy wefan cymharu prisiau  mae newid darparwr yn haws nag erioed.

I gael y gorau o’ch band eang yn y cartref, gallwch reoli eich defnydd o ddata a helpu pawb i gael y lled band sydd arnynt eu hangen – ar gyfer ffrydio fideo, gemau neu rith-gyfarfodydd gartref. Rhagor o wybodaeth.

Related content