31 Mawrth 2023

'Cwynion, ceilliau cangarŵ a’r Cod - codi'r llen ar sut mae Ofcom yn delio â chwynion darlledu.’

Yn y bennod ddiweddaraf o bodlediad Ofcom, Bywyd Arlein, rydym yn trin a thrafod ein rôl fel y rheoleiddiwr darlledu.

Pam mae pobl yn cael eu cymell i gwyno i Ofcom, beth sy’n digwydd ar ôl iddynt wneud ac a yw’r cyfryngau cymdeithasol yn annog mwy o gwynion – am deledu realiti, yn arbennig?

Mewn sgwrs sy’n amrywio o boblogrwydd teledu realiti a’i effaith ar ymddygiad gwylwyr, hel atgofion am Bacha hi o ‘ma a’r angen am ofal tuag at rheini sy’n cymryd rhan mewn cyfresi realiti, mae’r newyddiadurwraig a’r darlledwraig Dot Davies, y cyfarwyddwr teledu, Sioned Wyn a Phennaeth Materion Rheoleiddiol Ofcom , Cymru, Elinor Williams, yn trafod pwysigrwydd y Cod Darlledu, sut mae pobl yn teimlo am deledu realiti a nifer y cwynion rydym yn derbyn am rai cyfresi.

Gwyliwch ar YouTube neu wrandewch ar Spotify neu ble bynnag y cewch eich podlediadau.

Related content