23 Mehefin 2023

Gwneud trwyddedau radio amatur yn addas ar gyfer y dyfodol

Heddiw, mae Ofcom wedi cynnig newidiadau i drwyddedau radio amatur ac i bolisïau i sicrhau bod ein rheoliadau'n diwallu anghenion defnyddwyr radio amatur y presennol a'r dyfodol.

Mae radio amatur, a elwir weithiau'n radio ham, wedi bod yn rhan bwysig o gyfathrebiadau di-wifr ers dros ganrif. Mae angen i bob defnyddiwr radio amatur yn y DU gael trwydded gan Ofcom, ac mae dros 101,000 o drwyddedau radio amatur wedi'u rhoi yn y DU ar hyn o bryd.

Mae newidiadau Ofcom wedi'u dylunio i roi mwy o ryddid gweithredol i amaturiaid radio er mwyn adlewyrchu sut mae'r hobi wedi esblygu. Ar yr un pryd, rydym yn ceisio gwneud y broses o gael a defnyddio trwydded yn symlach, fel rhan o ymdrech ehangach gan Ofcom i symleiddio, safoni a lle bo'n bosib, awtomeiddio ymhellach elfennau o'n gwaith trwyddedu.

Mae dros

101,000

o drwyddedau radio amatur wedi'u rhoi yn y DU ar hyn o bryd

I alluogi amaturiaid radio i ymgymryd ag ystod ehangach o weithgareddau, rydym yn cynnig cynyddu'r uchafswm pŵer y caniateir i amaturiaid radio ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o fandiau amledd. Rydym hefyd yn cynnig caniatáu rhywfaint o ddefnydd pŵer isel yn yr awyr ac i dywysyddion ac offer porth a throsi weithredu o dan y drwydded, heb fod angen amrywiad trwydded penodol.

Bydd Ofcom yn cynnal y dull trwydded tair haen gydol oes presennol ond yn ceisio gwella'r broses ar gyfer ailddilysu trwyddedau ar-lein, sydd ar hyn o bryd yn ofynnol bob pum mlynedd.

Gyda phob trwydded rydym yn aseinio hunaniaeth unigryw, a elwir yn arwydd galw, i bob defnyddiwr. Mae amaturiaid radio yn defnyddio hyn yn eu gweithgareddau. Rydym wedi disgrifio nifer o newidiadau i foderneiddio a symleiddio ein polisi arwyddion galw.

Er enghraifft, byddwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gymuned radio amatur ddefnyddio arwyddion galw digwyddiad arbennig a chaniatáu i drwyddedeion newid eu harwydd galw. Rydym hefyd yn cynnig y dylai trwyddedeion unigol ddal un drwydded ac arwydd galw personol yn unig ar unrhyw adeg benodol, er mwyn sicrhau y cynhelir hunaniaeth unigryw gorsaf.

Mae ymgynghoriad Ofcom ar agor tan 4 Medi 2023. Byddwn yn ystyried ymatebion cyn cyhoeddi ein penderfyniadau.

Related content