23 Mawrth 2023

Trwydded weithredu newydd y BBC yn canolbwyntio ar y gynulleidfa ac yn addas ar gyfer y dyfodol digidol

  • Gofynion eang yn cael eu cyflwyno ar gyfer BBC iPlayer, Sounds a’r wefan
  • Cwotâu yn diogelu cynnwys teledu a radio pwysig sy’n cael eu darlledu
  • Bydd yn rhaid i’r BBC egluro newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau yn fanwl ymlaen llaw
  • Ymrwymiadau newydd ynghylch newidiadau i radio lleol a’r sianel newyddion

Mae anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr, a’r galw am fwy o atebolrwydd cyhoeddus, wedi’u diogelu mewn trwydded weithredu newydd, fodern ar gyfer y BBC a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Mae’r drwydded, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2023, wedi cael ei dylunio i ddal y BBC i gyfrif yn gadarn am gyflawni ei gylch gwaith. Mae hefyd yn ei alluogi i addasu ac arloesi o ran sut mae’n darparu cynnwys i wylwyr a gwrandawyr, wrth i’w harferion newid yn ddramatig.

Am y tro cyntaf, mae’r drwydded yn gosod gofynion newydd cynhwysfawr ar wasanaethau ar-lein y BBC – BBC iPlayer, BBC Sounds a gwefan y BBC – sy’n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd. Ar yr un pryd, rydym yn diogelu cynnwys pwysig ar wasanaethau teledu a radio sy’n cael eu darlledu ar y BBC, gan ddefnyddio cwotâu i sicrhau bod y BBC yn darparu isafswm o gynnwys fel newyddion a materion cyfoes, a rhaglenni gwreiddiol o’r DU.

Mae’r drwydded wedi’i diweddaru hefyd yn gofyn i’r gorfforaeth newid yn sylweddol drwy wneud tryloywder yn rhwymedigaeth graidd. Mae hyn yn dilyn pryderon am y diffyg manylder ac eglurder a ddarparwyd gan y BBC ynghylch newidiadau arfaethedig i’w raglenni a’i wasanaethau. Bydd yn rhaid i’r BBC egluro’n fanylach sut mae’n cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd. Hefyd, am y tro cyntaf, bydd yn rhaid iddo nodi ei gynlluniau’n gyhoeddus cyn gwneud newidiadau sylweddol i’w wasanaethau.

Diwallu anghenion cynulleidfaoedd mewn oes ddigidol

Gyda chartrefi ledled y wlad yn talu £3.8bn gyda’i gilydd mewn ffioedd trwydded yn 2022, mae’n hanfodol bod y BBC yn gwasanaethu pob cynulleidfa ac yn parhau i ddarparu amrywiaeth eang o gynnwys o ansawdd uchel o’r DU.

Mae ein trwydded weithredu newydd yn rhoi digon o hyblygrwydd i’r BBC siapio ei allbwn mewn ymateb i newidiadau mewn ymddygiad cynulleidfaoedd, ond gydag amodau adrodd llym a mesurau diogelu eraill. Mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng disgwyliadau cynulleidfaoedd am gynnwys a gwasanaethau ar-lein o ansawdd uchel, gan gydnabod bod teledu a radio sy’n cael eu darlledu yn dal yn bwysig iawn i lawer o wylwyr a gwrandawyr. Yn gryno, mae ein trwydded weithredu newydd ar gyfer y BBC yn gosod:

Gofynion newydd ar gyfer yr hyn y mae’n rhaid i’r BBC ei ddarparu, gan gynnwys ar-lein

Mae’r drwydded nawr yn rhoi sylw llawn i BBC iPlayer, BBC Sounds a gwefan y BBC. Mae’n mynnu bod y BBC yn sicrhau bod cynnwys pwysig ar gael ar-lein i gynulleidfaoedd, gan gynnwys cynnwys ar gyfer y gwledydd a’r rhanbarthau, a rhaglenni mewn perygl[1], a sicrhau bod modd dod o hyd i’r cynnwys hwnnw’n hawdd. Rydym hefyd yn mynnu bod y BBC yn darparu amrywiaeth eang o gynnwys ar draws ei holl wasanaethau - gan gynnwys cerddoriaeth, y celfyddydau, crefydd, moeseg, cynnwys ffeithiol arbenigol arall, comedi a rhaglenni plant. Fel rhan o hyn, rhaid iddo nodi’n glir yn ei Gynllun Blynyddol, nifer yr oriau y bydd yn eu darparu ar ei wasanaethau teledu a radio rhwydwaith ym mhob un o’r genres hyn.

Mwy na 70 o gwotâu ar draws gwasanaethau teledu a radio sy’n cael eu darlledu ar y BBC

Mae’r drwydded yn cadw mesurau rheoleiddio llym: i gynnal newyddion a materion cyfoes o ansawdd uchel; i gadw natur unigryw gwasanaethau radio’r BBC (drwy gwotâu ar gyfer cerddoriaeth a chwaraeon); ac i ddiogelu rhaglenni gwreiddiol o’r DU. Mae cwotâu hefyd yn sicrhau bod y BBC yn comisiynu nifer sylfaenol o gynnwys y tu allan i Lundain, ac yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynion adrodd newydd helaeth, sy’n gorfodi mwy o dryloywder

Mae’r drwydded yn gofyn am gyfathrebu mwy agored, manwl a rhagweithiol gan y BBC am ei berfformiad, ei gynlluniau ar gyfer ei gynnwys a’i wasanaethau – gan gynnwys unrhyw newidiadau sylweddol – ac effeithiolrwydd y newidiadau hynny. Rhaid iddo wneud hynny drwy nodi gwybodaeth fanwl, a bennir gan Ofcom, gyda’i Gynllun Blynyddol a’i Adroddiad Blynyddol. Os bydd y BBC yn cynllunio newidiadau sylweddol yn ystod y flwyddyn, y tu allan i broses y Cynllun Blynyddol, rhaid iddo adrodd ar y rhain cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Bydd Ofcom yn goruchwylio’r BBC yn gynhwysfawr drwy gydol y flwyddyn er mwyn ategu gofynion y drwydded weithredu. Byddwn yn cynnal ymchwil helaeth sy’n edrych ar ba gynnwys a gwasanaethau sydd ar gael, beth mae pobl yn ei wylio ac yn gwrando arno, a bodlonrwydd cynulleidfaoedd. Bydd darlledwyr a sefydliadau eraill yn y diwydiant yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o dynnu sylw Ofcom at unrhyw bryderon ynghylch cynlluniau’r BBC.

Os ydym yn poeni nad yw’r BBC yn cyflawni ar ran cynulleidfaoedd, ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu. Mae hynny’n cynnwys symud yn gyflym i osod gofynion ychwanegol yn y drwydded weithredu os oes angen.

Rydyn ni’n cydnabod bod angen i’r BBC addasu’n gyflym i gyd-fynd â newidiadau yn yr hyn mae gwylwyr a gwrandawyr ei eisiau, a sut maen nhw’n cael gafael ar eu cynnwys. Felly, rydyn ni’n diogelu ein gwaith rheoleiddio at y dyfodol er mwyn galluogi’r BBC i drawsnewid ac arloesi, gan ddiogelu’r cynnwys sydd bwysicaf i gynulleidfaoedd ar yr un pryd.

Rydyn ni wedi cael ein siomi’n arbennig gan ddiffyg manylder ac eglurder y BBC ynghylch newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau, sydd wedi arwain at lawer o ansicrwydd i gynulleidfaoedd a’r diwydiant. Bydd ein rheolau adrodd newydd llym yn sicrhau bod y BBC yn cael ei ddal yn atebol, ar lefel uwch yn gyhoeddus, gan fynnu ei fod yn egluro ei gynlluniau’n glir cyn bwrw ymlaen, yn ogystal â gwerthuso a ydyn nhw’n gweithio.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom ar gyfer Darlledu a Chynnwys Ar-lein

Darparu cynnwys a newyddion lleol

Fel rhan o’i strategaeth digidol yn gyntaf, mae’r BBC wedi gwneud nifer o newidiadau i BBC News a radio lleol. Mae ein llythyr diweddar i’r BBC (PDF, 248.6 KB) syn nodi ein pryderon ac yn rhoi manylion y sicrwydd rydym wedi’i gael gan y BBC mewn ymateb. Yn dilyn yr ymgysylltu hwn â’r BBC, byddwn hefyd yn:

  • cadw amod yn y Drwydded weithredu bod BBC News yn darparu newyddion o safon uchel ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol, y DU a rhyngwladol i gynulleidfaoedd y DU;
  • gofalu bod y BBC yn cadw at ei ymrwymiadau ar radio lleol yn Lloegr mewn perthynas â newyddion a theithio, newyddion sy’n torri a digwyddiadau mawr, a’i gyfraniad at ddemocratiaeth leol;
  • cadw’r cwota yn y Drwydded weithredu bod 100% o’r cynnwys yn gynnwys llafar yn ystod oriau brig amser brecwast ar radio lleol yn Lloegr; a
  • monitro’n drylwyr effaith yr holl newidiadau i BBC News, radio lleol yn Lloegr (gan gynnwys lefelau rhannu rhaglenni) a radio lleol y Gwledydd, a chamu i mewn i osod amodau trwydded ychwanegol os nad yw anghenion cynulleidfaoedd yn cael eu diwallu.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae genres ‘mewn perygl’ yn cynnwys y celfyddydau, rhaglenni plant, comedi, cerddoriaeth, crefydd a chynnwys ffeithiol arbenigol.

Related content